LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 17
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Dafydd yn trechu Goliath (1-58)

        • Goliath yn herio Israel (8-10)

        • Dafydd yn derbyn yr her (32-37)

        • Dafydd yn brwydro yn enw Jehofa (45-47)

1 Samuel 17:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “yng Ngwastatir Isel.”

1 Samuel 17:4

Troednodiadau

  • *

    Ei daldra oedd tua 2.9 m (9 tr 5.75 mod).

1 Samuel 17:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “llurig.”

  • *

    Tua 57 kg (125 lb).

1 Samuel 17:7

Troednodiadau

  • *

    Tua 6.84 kg (15 lb).

  • *

    Neu “gorymdeithio.”

1 Samuel 17:17

Troednodiadau

  • *

    Tua 22 L.

  • *

    Neu “wedi ei grasu.”

1 Samuel 17:18

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “llaeth.”

1 Samuel 17:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “yng Ngwastatir Isel.”

1 Samuel 17:26

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “heb ei enwaedu.”

1 Samuel 17:32

Troednodiadau

  • *

    Neu “Ddylai neb golli dewrder.”

1 Samuel 17:35

Troednodiadau

  • *

    Neu “genau.”

1 Samuel 17:36

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “heb ei enwaedu.”

1 Samuel 17:38

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhoddodd lurig amdano.”

1 Samuel 17:40

Troednodiadau

  • *

    Neu “o’r wadi.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
  • 38
  • 39
  • 40
  • 41
  • 42
  • 43
  • 44
  • 45
  • 46
  • 47
  • 48
  • 49
  • 50
  • 51
  • 52
  • 53
  • 54
  • 55
  • 56
  • 57
  • 58
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 17:1-58

Cyntaf Samuel

17 Casglodd y Philistiaid eu byddinoedd ar gyfer rhyfel. Daethon nhw at ei gilydd yn Socho sy’n perthyn i Jwda, a gwnaethon nhw wersylla rhwng Socho ac Aseca, yn Effes-dammim. 2 Daeth Saul a dynion Israel at ei gilydd a gwersylla yn Nyffryn* Ela, a threfnu eu hunain yn barod i frwydro yn erbyn y Philistiaid. 3 Roedd y Philistiaid ar un mynydd a’r Israeliaid ar fynydd arall, gyda’r dyffryn rhyngddyn nhw.

4 Yna daeth un o bencampwyr y Philistiaid allan o’u gwersyll; ei enw oedd Goliath, o Gath, ac roedd yn chwe chufydd a rhychwant o daldra.* 5 Roedd ganddo helmed gopr ar ei ben, ac roedd yn gwisgo arfwisg* oedd â haenau o fetel arni. Roedd yr arfwisg o gopr yn pwyso 5,000 sicl.* 6 Roedd ganddo goesarnau o gopr yn amddiffyn ei goesau a gwaywffon gopr ar ei gefn. 7 Roedd coes pren y waywffon yn ei law yn debyg i drawst gwehydd, ac roedd blaen haearn y waywffon honno yn pwyso 600 sicl;* ac roedd y milwr oedd yn cario ei darian yn martsio* o’i flaen. 8 Yna safodd Goliath a galw ar filwyr Israel a dweud wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi dod allan yn barod i frwydro yn ein herbyn ni? Onid ydw i’n un o’r Philistiaid, ac onid ydych chi’n weision i Saul? Dewiswch ddyn a gadewch iddo ddod i lawr ata i. 9 Os ydy ef yn gallu ymladd yn fy erbyn i a fy nharo i lawr, yna byddwn ni’n dod yn weision i chi. Ond os ydw i’n ennill ac yn ei daro ef i lawr, byddwch chi’n dod yn weision i ni.” 10 Yna dywedodd y Philistiad: “Rydw i’n herio byddin Israel heddiw. Gadewch i’r dyn rydych chi wedi ei ddewis ddod i fy wynebu i, inni gael ymladd!”

11 Pan glywodd Saul ac Israel gyfan eiriau’r Philistiad, roedd ganddyn nhw ofn mawr ac roedden nhw wedi dychryn.

12 Nawr roedd Dafydd yn fab i Jesse a oedd yn byw yn Effratha, hynny yw Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth o feibion, ac roedd ef eisoes yn hen ddyn yn nyddiau Saul. 13 Roedd tri mab hynaf Jesse wedi dilyn Saul i’r rhyfel. Y tri mab a aeth i’r rhyfel oedd Eliab y cyntaf-anedig, Abinadab ei ail fab, a Samma ei drydydd mab. 14 Dafydd oedd yr ieuengaf, a gwnaeth y tri hynaf ddilyn Saul.

15 Tra oedd Dafydd yn gwasanaethu Saul, roedd yn mynd yn ôl ac ymlaen i ofalu am ddefaid ei dad ym Methlehem. 16 Yn y cyfamser, roedd y Philistiad yn dod ymlaen ac yn sefyll o’u blaenau nhw i’w herio nhw bob bore a nos am 40 diwrnod.

17 Yna dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd: “Plîs cymera’r effa* hon o rawn wedi ei rostio* a’r deg torth hyn o fara, a mynd â nhw’n gyflym at dy frodyr yn y gwersyll. 18 A dos â’r deg darn hyn o gaws* at bennaeth y mil, a dylet ti hefyd weld sut mae dy frodyr, a thyrd â rhywbeth yn ôl gan bob un ohonyn nhw fel tystiolaeth eu bod nhw’n iawn.” 19 Roedden nhw gyda Saul a holl ddynion eraill Israel yn Nyffryn* Ela, yn brwydro yn erbyn y Philistiaid.

20 Felly cododd Dafydd yn fuan yn y bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall; yna casglodd ei bethau a mynd yn union fel roedd Jesse wedi gorchymyn iddo. Wrth iddo gyrraedd y gwersyll, roedd y fyddin yn mynd allan i faes y gad yn gweiddi bloedd ryfel. 21 Gwnaeth Israel a’r Philistiaid drefnu eu hunain yn barod i frwydro fel bod un fyddin yn wynebu’r llall. 22 Ar unwaith gadawodd Dafydd ei bethau gyda gofalwr y gwersyll a rhedeg at faes y gad. Unwaith iddo gyrraedd, dechreuodd holi am ei frodyr.

23 Tra oedd yn siarad â nhw, dyma’r pencampwr o’r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod allan o fyddin y Philistiaid, ac yn dweud yr un geiriau ag o’r blaen, a gwnaeth Dafydd ei glywed. 24 Pan wnaeth holl ddynion Israel weld Goliath, dyma nhw’n ffoi oddi wrtho mewn ofn. 25 Roedd dynion Israel yn dweud: “Ydych chi wedi gweld y dyn hwn sy’n dod allan? Mae’n dod i herio Israel. Bydd y brenin yn rhoi cyfoeth mawr i’r dyn sy’n ei daro i lawr, bydd yn rhoi ei ferch ei hun iddo, a bydd gan dŷ ei dad ryddid yn Israel.”

26 Dechreuodd Dafydd ddweud wrth y dynion oedd yn sefyll wrth ei ymyl: “Beth fydd yn digwydd i’r dyn sy’n taro’r Philistiad acw i lawr ac sy’n cymryd sarhad Israel i ffwrdd? Oherwydd pa hawl sydd gan y Philistiad paganaidd* hwn i herio byddin y Duw byw?” 27 Yna dywedodd y bobl yr un peth wrtho ag o’r blaen: “Dyma beth fydd yn digwydd i’r dyn sy’n ei daro i lawr.” 28 Pan wnaeth ei frawd hynaf Eliab ei glywed yn siarad â’r dynion, gwylltiodd â Dafydd a dweud: “Pam rwyt ti wedi dod i lawr? Ac yng ngofal pwy wnest ti adael yr ychydig o ddefaid ’na yn yr anialwch? Rydw i’n gwybod am fwriadau drwg dy galon a pha mor hy rwyt ti; rwyt ti ond yma i weld y frwydr.” 29 Atebodd Dafydd: “Beth ydw i wedi ei wneud nawr? Roeddwn i ond yn gofyn cwestiwn!” 30 Felly trodd oddi wrtho a gofyn yr un peth i rywun arall, a rhoddodd y bobl yr un ateb iddo ag o’r blaen.

31 Clywodd rhai beth roedd Dafydd wedi ei ddweud, a mynd i’w adrodd wrth Saul. Felly anfonodd Saul am Dafydd. 32 Dywedodd Dafydd wrth Saul: “Ddylai neb ddigalonni* o’i herwydd. Bydda i, dy was, yn mynd ac yn ymladd yn erbyn y Philistiad yma.” 33 Ond dywedodd Saul wrth Dafydd: “Elli di ddim mynd i ymladd yn erbyn y Philistiad yma, oherwydd dim ond bachgen wyt ti, ond mae ef wedi bod yn filwr ers iddo fod yn ifanc.” 34 Yna dywedodd Dafydd wrth Saul: “Rydw i, dy was, yn fugail ar braidd fy nhad, ac un diwrnod daeth llew a chipio dafad o’r praidd, a daeth arth hefyd a gwneud yr un peth. 35 Es i allan ar ôl y llew a’r arth ac achub fy nefaid o’u cegau. A phan wnaethon nhw godi yn fy erbyn i, gwnes i gydio yn eu blew* a’u taro nhw i lawr a’u lladd nhw. 36 Gwnes i, dy was, daro i lawr y llew a’r arth, a bydd y Philistiad paganaidd* hwn yn dod fel un ohonyn nhw, oherwydd mae ef wedi herio byddinoedd y Duw byw.” 37 Yna ychwanegodd Dafydd: “Jehofa, yr un wnaeth fy achub i o afael y llew a’r arth, ef yw’r un fydd yn fy achub i o law’r Philistiad yma.” Gyda hynny dywedodd Saul wrth Dafydd: “Dos, a gad i Jehofa fod gyda ti.”

38 Rhoddodd Saul ei ddillad ei hun ar Dafydd. Rhoddodd helmed gopr ar ei ben, ac yna rhoddodd arfwisg amdano.* 39 Yna, strapiodd Dafydd ei gleddyf dros ei ddillad a thrio symud ond doedd ef ddim yn gallu, oherwydd doedd ef ddim wedi arfer â nhw. Dywedodd Dafydd wrth Saul: “Dydw i ddim yn gallu symud yn y pethau hyn, oherwydd dydw i ddim wedi arfer â nhw.” Felly dyma Dafydd yn eu tynnu nhw i ffwrdd. 40 Yna cymerodd ei ffon yn ei law a dewis pum carreg lefn o wely’r nant* a’u rhoi nhw ym mhoced ei fag bugail, ac roedd ei ffon dafl yn ei law. A dechreuodd fynd at y Philistiad.

41 Daeth y Philistiad yn nes ac yn nes at Dafydd, ac roedd y milwr oedd yn cario ei darian o’i flaen. 42 Pan welodd y Philistiad Dafydd, dyma ef yn chwerthin am ei ben a’i ddirmygu oherwydd mai dim ond bachgen golygus oedd ef. 43 Felly dywedodd y Philistiad wrth Dafydd: “Ydw i’n gi, iti ddod yn fy erbyn i â ffyn?” Gyda hynny gwnaeth y Philistiad felltithio Dafydd yn enw ei dduwiau. 44 Dywedodd y Philistiad wrth Dafydd: “Tyrd yma, a gwna i fwydo dy gorff di i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt.”

45 Atebodd Dafydd: “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i â chleddyf a dwy waywffon, ond rydw i’n dod yn dy erbyn di yn enw Jehofa y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr un rwyt ti wedi ei herio. 46 Bydd Jehofa yn dy roi di yn fy llaw i heddiw, a bydda i’n dy daro di i lawr ac yn torri dy ben i ffwrdd; a heddiw bydda i’n bwydo cyrff gwersyll y Philistiaid i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt; a bydd pobl yr holl ddaear yn gwybod bod ’na Dduw yn Israel. 47 A bydd pawb yma yn gwybod nad trwy’r cleddyf na’r waywffon mae Jehofa yn achub, oherwydd Jehofa biau’r frwydr, a bydd ef yn eich rhoi chi i gyd yn ein dwylo.”

48 Yna cododd y Philistiad a dechrau cerdded tuag at Dafydd, ond rhedodd Dafydd yn gyflym tuag at fyddin y gelyn i gyfarfod y Philistiad. 49 Estynnodd Dafydd ei law i mewn i’w fag, cymryd carreg allan, a’i hyrddio gyda’i ffon dafl. Tarodd y Philistiad yn ei dalcen, a suddodd y garreg i’w ben a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr. 50 Felly cafodd Dafydd fuddugoliaeth dros y Philistiad gyda ffon dafl a charreg; tarodd y Philistiad i lawr a’i ladd, er nad oedd gan Dafydd gleddyf yn ei law. 51 Parhaodd Dafydd i redeg, a sefyll drosto. Yna gafaelodd yng nghleddyf y Philistiad a’i dynnu allan o’i wain a gwneud yn siŵr ei fod yn farw drwy dorri ei ben i ffwrdd gyda’r cleddyf. Pan welodd y Philistiaid fod eu pencampwr wedi marw, dyma nhw’n ffoi.

52 Gyda hynny dyma ddynion Israel a Jwda yn codi ac yn dechrau gweiddi a mynd ar ôl y Philistiaid yr holl ffordd o’r dyffryn hyd at giatiau Ecron. Gwnaethon nhw ladd llawer o Philistiaid ar hyd y ffordd i Saaraim, ac roedd eu cyrff i’w gweld ym mhobman mor bell â Gath ac Ecron. 53 Ar ôl i’r Israeliaid fynd ar ôl y Philistiaid yn ffyrnig, aethon nhw yn ôl i ysbeilio gwersylloedd y Philistiaid.

54 Yna aeth Dafydd â phen y Philistiad i Jerwsalem, ond rhoddodd arfau’r Philistiad yn ei babell ei hun.

55 Y foment gwelodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, dywedodd wrth Abner, pennaeth y fyddin: “Mab pwy ydy’r bachgen yma, Abner?” Atebodd Abner: “Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw, O frenin, dydw i ddim yn gwybod!” 56 Dywedodd y brenin: “Dos i ddarganfod pwy sy’n dad i’r dyn ifanc yma.” 57 Cyn gynted ag y daeth Dafydd yn ôl o daro’r Philistiad i lawr, aeth Abner ag ef o flaen Saul gyda phen y Philistiad yn ei law. 58 Nawr dywedodd Saul wrtho: “Mab pwy wyt ti, fachgen?” Atebodd Dafydd: “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu