Cyntaf Samuel
23 Ymhen amser cafodd Dafydd wybod: “Mae’r Philistiaid yn brwydro yn erbyn Ceila, ac maen nhw’n ysbeilio’r lloriau dyrnu.” 2 Felly gofynnodd Dafydd i Jehofa: “A ddylwn i fynd a tharo’r Philistiaid hyn i lawr?” Dywedodd Jehofa wrth Dafydd: “Dos i daro’r Philistiaid i lawr ac achub Ceila.” 3 Ond dywedodd dynion Dafydd wrtho: “Edrycha! Mae gynnon ni ofn yma yn Jwda; bydd gynnon ni lawer mwy o ofn os byddwn ni’n mynd i Ceila er mwyn brwydro yn erbyn byddin y Philistiaid!” 4 Felly gwnaeth Dafydd holi Jehofa unwaith eto. Atebodd Jehofa: “Cod; dos i lawr i Ceila oherwydd bydda i’n rhoi’r Philistiaid yn dy law.” 5 Felly aeth Dafydd gyda’i ddynion a brwydro yn erbyn y Philistiaid; lladdodd nifer mawr ohonyn nhw a chymryd eu hanifeiliaid, ac achubodd Dafydd bobl Ceila.
6 Nawr pan redodd Abiathar fab Ahimelech i ffwrdd at Dafydd yn Ceila, roedd ganddo effod gydag ef. 7 Cafodd Saul wybod: “Mae Dafydd wedi dod i Ceila.” Yna dywedodd Saul: “Mae Duw wedi ei roi yn fy llaw, am ei fod wedi cerdded i mewn i fagl drwy fynd i mewn i ddinas sydd â giatiau a barrau.” 8 Felly galwodd Saul yr holl bobl at ei gilydd i fynd i lawr i Ceila ac ymosod ar Dafydd a’i ddynion. 9 Pan sylweddolodd Dafydd fod Saul yn cynllwynio yn ei erbyn, dywedodd wrth Abiathar yr offeiriad: “Tyrd â’r effod yma.” 10 Yna dywedodd Dafydd: “O Jehofa, Duw Israel, rydw i, dy was, wedi clywed bod Saul yn bwriadu dod i Ceila er mwyn dinistrio’r ddinas o fy achos i. 11 A fydd arweinwyr Ceila yn fy rhoi i yn ei ddwylo? A fydd Saul yn dod i lawr fel rydw i, dy was, wedi clywed? O Jehofa, Duw Israel, plîs dyweda wrth dy was.” I hynny dywedodd Jehofa: “Bydd ef yn dod i lawr.” 12 Gofynnodd Dafydd: “A fydd arweinwyr Ceila yn fy rhoi i a fy nynion yn nwylo Saul?” Atebodd Jehofa: “Byddan.”
13 Ar unwaith cododd Dafydd gyda’i ddynion, tua 600 ohonyn nhw i gyd, a dyma nhw’n gadael Ceila gan symud o un lle i’r llall, ble bynnag oedd yn ddiogel iddyn nhw. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, wnaeth ef ddim mynd allan ar ei ôl. 14 Arhosodd Dafydd yn yr anialwch mewn llefydd oedd yn anodd mynd atyn nhw, yn ardal fynyddig anialwch Siff. Chwiliodd Saul amdano yn ddi-baid, ond wnaeth Jehofa ddim ei roi yn ei law. 15 Tra oedd Dafydd yn anialwch Siff yn Hores, cafodd wybod* bod Saul yn chwilio amdano er mwyn ei ladd.
16 Nawr aeth Jonathan fab Saul allan at Dafydd yn Hores, a’i helpu i gryfhau ei hyder* yn Jehofa. 17 Dywedodd wrtho: “Paid ag ofni, oherwydd fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd iti; byddi di’n frenin ar Israel, a bydda i’n ail i ti; ac mae fy nhad Saul yn gwybod hynny hefyd.” 18 Yna dyma’r ddau yn gwneud cyfamod o flaen Jehofa, ac arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref.
19 Yn hwyrach ymlaen aeth dynion Siff i fyny at Saul yn Gibea a dweud: “Onid ydy Dafydd yn cuddio yn agos aton ni yn y llefydd sy’n anodd mynd atyn nhw yn Hores, ar fryn Hachila sydd i’r de* o Jesimon?* 20 Tyrd i lawr bryd bynnag rwyt ti eisiau, O frenin, a gwnawn ni ei roi yn dy ddwylo di.” 21 I hynny dywedodd Saul: “Bendith Jehofa arnoch chi, oherwydd rydych chi wedi dangos tosturi tuag ata i. 22 Plîs ewch a cheisio darganfod yn union lle mae ef, a phwy sydd wedi ei weld yno, oherwydd rydw i wedi cael gwybod ei fod yn hynod o slei. 23 Chwiliwch yn ofalus am ei holl lefydd cuddio a dewch yn ôl ata i â thystiolaeth. Yna bydda i’n mynd gyda chi, ac os ydy ef yn y wlad, gwna i chwilio amdano a chael hyd iddo ymysg holl filoedd* Jwda.”
24 Felly dyma nhw’n gadael a mynd i Siff o flaen Saul, tra oedd Dafydd a’i ddynion yn anialwch Maon, yn yr Araba i’r de o Jesimon. 25 Yna daeth Saul gyda’i ddynion i chwilio amdano. Pan glywodd Dafydd am hyn, aeth i lawr at y graig ar unwaith ac aros yn anialwch Maon. Ar ôl i Saul glywed hynny, aeth ar ôl Dafydd yn anialwch Maon. 26 Wrth i Saul gyrraedd un ochr o’r mynydd, roedd Dafydd a’i ddynion ar yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i ddianc oddi wrth Saul, ond roedd Saul a’i ddynion yn dechrau amgylchynu Dafydd a’i ddynion er mwyn eu dal nhw. 27 Ond daeth negesydd at Saul yn dweud: “Tyrd yn gyflym, oherwydd mae’r Philistiaid wedi ymosod ar y wlad!” 28 Gyda hynny stopiodd Saul fynd ar ôl Dafydd ac aeth i wynebu’r Philistiaid. Dyna pam mae’r lle hwnnw yn cael ei alw’n Graig y Gwahanu.*
29 Yna aeth Dafydd i fyny o fan ’na ac aros mewn llefydd sy’n anodd mynd atyn nhw yn En-gedi.