LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 12
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Sisac yn ymosod ar Jerwsalem (1-12)

      • Diwedd teyrnasiad Rehoboam (13-16)

2 Cronicl 12:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “arllwys.”

2 Cronicl 12:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “palas y brenin.”

2 Cronicl 12:14

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    6/2018, tt. 31-32

2 Cronicl 12:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Rehoboam i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 12:1-16

Ail Cronicl

12 Yn fuan ar ôl i frenhiniaeth Rehoboam gael ei sefydlu’n gadarn, ac ar ôl iddo ddod yn gryf, cefnodd ar Gyfraith Jehofa, a gwnaeth Israel gyfan yr un peth. 2 Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Rehoboam, daeth Sisac, brenin yr Aifft, i fyny yn erbyn Jerwsalem oherwydd roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i Jehofa. 3 Roedd ganddo 1,200 o gerbydau, 60,000 o farchogion, a milwyr di-rif a ddaeth gydag ef o’r Aifft—Libiaid, Suciaid, ac Ethiopiaid. 4 Cipiodd ddinasoedd caerog Jwda, ac yn y pen draw cyrhaeddodd Jerwsalem.

5 Daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda a oedd wedi casglu yn Jerwsalem oherwydd Sisac, a dywedodd wrthyn nhw: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Rydych chi wedi cefnu arna i, felly rydw i hefyd wedi cefnu arnoch chi, ac wedi eich rhoi chi yn llaw Sisac.’” 6 Gyda hynny, dyma’r brenin a thywysogion Israel yn dangos gostyngeiddrwydd, a dywedon nhw: “Mae Jehofa yn gyfiawn.” 7 Pan welodd Jehofa eu bod nhw wedi edifarhau yn ostyngedig, daeth gair Jehofa at Semaia gan ddweud: “Maen nhw wedi edifarhau yn ostyngedig, wna i ddim eu dinistrio nhw, a chyn bo hir bydda i’n eu hachub nhw. Fydda i ddim yn tywallt* fy llid ar Jerwsalem drwy Sisac. 8 Ond byddan nhw’n dod yn weision iddo fel y byddan nhw’n gwybod y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu brenhinoedd gwledydd eraill.”

9 Felly daeth Sisac, brenin yr Aifft, i fyny yn erbyn Jerwsalem. Cipiodd drysorau tŷ Jehofa a thrysorau tŷ’r brenin.* Cymerodd bopeth gan gynnwys y tarianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud. 10 Felly gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau o gopr yn eu lle, a’u rhoi nhw o dan ofal penaethiaid y gwarchodlu a oedd yn gwarchod mynedfa tŷ’r brenin. 11 Bryd bynnag roedd y brenin yn mynd i dŷ Jehofa byddai’r gwarchodlu yn dod i mewn gydag ef ac yn cario’r tarianau, ac yna yn eu rhoi nhw yn ôl yn ystafell y gwarchodlu. 12 Am fod y brenin wedi ymddwyn yn ostyngedig, trodd dicter Jehofa i ffwrdd oddi wrtho, ac ni wnaeth ef eu dinistrio nhw yn gyfan gwbl. Ar ben hynny, roedd ’na rywfaint o ddaioni i’w weld yn Jwda.

13 Cryfhaodd y Brenin Rehoboam ei awdurdod yn Jerwsalem a pharhaodd i deyrnasu. Roedd Rehoboam yn 41 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 17 mlynedd yn Jerwsalem, y ddinas roedd Jehofa wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i sefydlu ei enw yno. Enw mam y brenin oedd Naama yr Ammones. 14 Ond gwnaeth ef beth oedd yn ddrwg, oherwydd doedd ei galon ddim yn awyddus i chwilio am arweiniad Jehofa.

15 Ynglŷn â hanes Rehoboam, o’r dechrau i’r diwedd, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu ymhlith geiriau Semaia y proffwyd ac Ido y gweledydd yn yr achau teuluol? Ac roedd ’na ryfela di-baid rhwng Rehoboam a Jeroboam. 16 Yna bu farw Rehoboam* a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Abeia yn frenin yn ei le.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu