Genesis
6 Nawr pan oedd nifer y dynion ar y ddaear yn dechrau cynyddu a merched yn cael eu geni iddyn nhw, 2 dechreuodd meibion y gwir Dduw* sylwi bod y merched* yn hardd. Felly dechreuon nhw gymryd yn wragedd unrhyw ferched* roedden nhw eisiau. 3 Yna dywedodd Jehofa: “Fydd fy ysbryd ddim yn goddef dyn am byth, oherwydd dim ond cnawd ydy ef.* Felly, bydd ef ond yn byw am 120 o flynyddoedd.”
4 Roedd y Neffilim* ar y ddaear yn y dyddiau hynny ac ar ôl hynny. Yn ystod yr adeg honno roedd meibion y gwir Dduw yn parhau i gael cyfathrach rywiol â’r merched,* a dyma nhw’n geni meibion iddyn nhw. Nhw oedd dynion cryf yr hen ddyddiau, y dynion enwog.
5 O ganlyniad, gwelodd Jehofa fod y ddaear yn llawn o ddrygioni dynion a bod pob tueddiad eu meddyliau a’u calonnau yn ddrwg drwy’r amser. 6 Roedd Jehofa’n difaru* ei fod wedi creu dynion ar y ddaear, ac roedd ei galon yn brifo.* 7 Felly dywedodd Jehofa: “Rydw i’n mynd i ddinistrio’r dynion rydw i wedi eu creu oddi ar wyneb y ddaear, dynion ynghyd ag anifeiliaid domestig, anifeiliaid sy’n ymlusgo, a chreaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, oherwydd rydw i’n difaru fy mod i wedi eu creu nhw.” 8 Ond roedd Jehofa’n edrych yn ffafriol ar Noa.
9 Dyma hanes Noa.
Dyn cyfiawn oedd Noa. Profodd ei hun yn ddi-fai* ymhlith ei gyfoedion.* Roedd Noa’n cerdded gyda’r gwir Dduw. 10 Mewn amser daeth Noa’n dad i dri mab, Sem, Ham, a Jaffeth. 11 Ond roedd y ddaear wedi cael ei difetha yng ngolwg y gwir Dduw, ac roedd y ddaear yn llawn trais. 12 Yn wir, edrychodd Duw ar y ddaear, ac roedd wedi cael ei difetha; roedd yr holl bobl yn byw bywyd llwgr ar y ddaear.
13 Ar ôl hynny dywedodd Duw wrth Noa: “Rydw i wedi penderfynu cael gwared ar yr holl bobl, oherwydd mae’r ddaear yn llawn trais o’u hachos nhw, felly rydw i am eu dinistrio nhw a phopeth arall ar y ddaear. 14 Gwna i ti dy hun arch* o bren resinaidd. Byddi di’n gwneud ystafelloedd yn yr arch a defnyddio tar* i’w gorchuddio ar y tu mewn a’r tu allan. 15 Dyma sut dylet ti ei hadeiladu: Dylai’r arch fod yn 300 cufydd* o hyd, 50 cufydd o led, a 30 cufydd o uchder. 16 Gwna ffenest ar gyfer goleuni* i’r arch, un cufydd o’r top. Dylet ti roi drws yr arch yn ei hochr a’i gwneud hi’n dri llawr, yr isaf, y canol, a’r uchaf.
17 “Rydw i’n mynd i ddod â dyfroedd y dilyw ar y ddaear i ddinistrio pob peth sy’n anadlu* o dan y nefoedd. Bydd pob creadur byw ar y ddaear yn marw. 18 Ac rydw i’n sefydlu fy nghyfamod gyda ti, ac mae’n rhaid iti fynd i mewn i’r arch, ti, dy feibion, dy wraig, a gwragedd dy feibion gyda ti. 19 A dylet ti ddod â dau o bob math o anifail, sef gwryw a benyw, i mewn i’r arch er mwyn eu cadw nhw’n fyw gyda ti; 20 o’r creaduriaid sy’n hedfan yn ôl eu mathau, o’r anifeiliaid domestig yn ôl eu mathau, ac o’r holl anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl eu mathau, bydd dau o bob math yn mynd i mewn yno er mwyn iti eu cadw nhw’n fyw. 21 Mae’n rhaid iti fynd i gasglu pob math o fwyd, a’i gymryd i ti ac i’r anifeiliaid ei fwyta.”
22 Ac fe wnaeth Noa bopeth roedd Duw wedi ei orchymyn iddo. Fe wnaeth yn union felly.