Numeri
13 Nawr siaradodd Jehofa â Moses, gan ddweud: 2 “Anfona ddynion allan i ysbïo gwlad Canaan, y wlad rydw i’n ei rhoi i’r Israeliaid. Dylet ti anfon un dyn o bob llwyth, un sy’n bennaeth yn eu plith.”
3 Felly anfonodd Moses nhw allan o anialwch Paran ar orchymyn Jehofa. Roedd y dynion i gyd yn benaethiaid ymhlith yr Israeliaid. 4 Dyma oedd eu henwau: o lwyth Reuben, Sammua fab Saccur; 5 o lwyth Simeon, Saffat fab Hori; 6 o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne; 7 o lwyth Issachar, Igal fab Joseff; 8 o lwyth Effraim, Hosea fab Nun; 9 o lwyth Benjamin, Palti fab Raffu; 10 o lwyth Sabulon, Gadiel fab Sodi; 11 o lwyth Joseff ar gyfer llwyth Manasse, Gadi fab Susi; 12 o lwyth Dan, Ammiel fab Gemali; 13 o lwyth Aser, Sethur fab Michael; 14 o lwyth Nafftali, Nahbi fab Foffsi; 15 o lwyth Gad, Geuel fab Maci. 16 Dyma oedd enwau’r dynion gwnaeth Moses eu hanfon i ysbïo’r wlad. A rhoddodd Moses yr enw Josua* ar Hosea fab Nun.
17 Pan oedd Moses yn eu hanfon nhw i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i fyny yno i’r Negef, ac yna ewch i fyny i’r ardal fynyddig. 18 Mae’n rhaid ichi ddarganfod sut fath o wlad ydy hi, p’un a ydy’r bobl sy’n byw ynddi yn gryf neu’n wan, yn ychydig neu’n niferus, 19 p’un a ydy’r wlad yn dda neu’n ddrwg, ac a oes ’na waliau amddiffynnol o gwmpas y dinasoedd maen nhw’n byw ynddyn nhw. 20 Ac mae’n rhaid ichi ddarganfod a ydy’r wlad yn gyfoethog neu’n dlawd, ac a oes ’na goed ynddi. Mae’n rhaid ichi fod yn ddewr a chymryd peth o ffrwyth y wlad.” Nawr roedd hi’n dymor y grawnwin aeddfed cyntaf.
21 Felly aethon nhw i fyny ac ysbïo’r wlad o anialwch Sin i Rehob, yn agos at Lebo-hamath.* 22 Pan aethon nhw i fyny i’r Negef, daethon nhw i Hebron lle roedd Ahiman, Sesai, a Talmai, sef yr Anacim, yn byw. (Roedd Hebron wedi cael ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) 23 Pan ddaethon nhw i Ddyffryn* Escol, dyma nhw’n torri cangen a oedd ag un clwstwr o rawnwin arni. Roedd mor drwm roedd rhaid i ddau ddyn gario’r grawnwin ar bolyn. Hefyd cymeron nhw rai o’r pomgranadau a’r ffigys. 24 Rhoddon nhw’r enw Dyffryn* Escol* ar y lle hwnnw oherwydd y clwstwr roedd yr Israeliaid wedi ei gymryd oddi yno.
25 Ymhen 40 diwrnod, daethon nhw yn ôl ar ôl ysbïo’r wlad. 26 Felly daethon nhw yn ôl at Moses ac Aaron a holl gynulleidfa’r Israeliaid yn anialwch Paran, yn Cades. Dywedon nhw wrth y gynulleidfa gyfan am beth roedden nhw wedi ei weld, a dangos ffrwyth y wlad iddyn nhw. 27 Dyma beth ddywedon nhw wrth Moses: “Aethon ni i mewn i’r wlad gwnest ti ein hanfon ni iddi, ac yn wir, mae llaeth a mêl yn llifo yno, a dyma ei ffrwyth. 28 Ond er hynny, mae’r bobl sy’n byw yn y wlad yn gryf, ac mae eu dinasoedd caerog yn fawr iawn. Hefyd, gwelson ni’r Anacim yno. 29 Mae’r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef, ac mae’r Hethiaid, y Jebusiaid, a’r Amoriaid yn byw yn yr ardal fynyddig, ac mae’r Canaaneaid yn byw wrth y môr ac ar hyd glannau’r Iorddonen.”
30 Yna dyma Caleb yn ceisio tawelu meddyliau’r bobl wrth iddyn nhw sefyll o flaen Moses, drwy ddweud: “Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith, a byddwn ni’n bendant yn meddiannu’r wlad, oherwydd yn sicr gallwn ni ei choncro hi.” 31 Ond dywedodd y dynion a aeth i fyny gydag ef: “Allwn ni ddim mynd i fyny yn erbyn y bobl hyn, oherwydd maen nhw’n gryfach na ni.” 32 Ac roedden nhw’n parhau i roi adroddiad drwg i’r Israeliaid am y wlad roedden nhw wedi ei hysbïo, gan ddweud: “Mae’r wlad aethon ni drwyddi i’w hysbïo yn wlad beryglus, lle byddwch chi’n siŵr o farw, ac roedd yr holl bobl a welson ni ynddi yn bobl enfawr. 33 Ac yno gwelson ni’r Neffilim, meibion Anac, sy’n ddisgynyddion i’r Neffilim, ac o’n cymharu ni â nhw roedden ni’n edrych fel sioncod y gwair,* yn ein llygaid ni a’u llygaid nhw.”