LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 8
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Agor y seithfed sêl (1-6)

      • Canu’r pedwar trwmped cyntaf (7-12)

      • Cyhoeddi tri gwae (13)

Datguddiad 8:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “cesair.”

  • *

    Neu “holl borfa ei llosgi.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 8:1-13

Datguddiad i Ioan

8 Pan agorodd ef y seithfed sêl, roedd ’na ddistawrwydd yn y nef am tua hanner awr. 2 Ac fe welais y saith angel sy’n sefyll o flaen Duw, ac fe gafodd saith trwmped eu rhoi iddyn nhw.

3 Cyrhaeddodd angel arall, yn dal llestr aur ar gyfer llosgi arogldarth, a sefyll wrth yr allor, ac fe gafodd llawer iawn o arogldarth ei roi iddo i’w offrymu gyda gweddïau’r rhai sanctaidd ar yr allor aur a oedd o flaen yr orsedd. 4 Gwnaeth mwg yr arogldarth godi o law’r angel o flaen Duw gyda gweddïau’r rhai sanctaidd. 5 Ond ar unwaith cymerodd yr angel y llestr arogldarth, a’i lenwi ag ychydig o’r tân o’r allor a’i daflu i’r ddaear. Ac roedd ’na daranau a lleisiau a fflachiadau o fellt a daeargryn. 6 A dyma’r saith angel a oedd â’r saith trwmped yn paratoi i’w canu nhw.

7 Canodd yr un cyntaf ei drwmped. Ac fe gafodd cenllysg* a thân yn gymysg â gwaed eu bwrw i’r ddaear; ac fe gafodd traean o’r ddaear ei llosgi, a thraean o’r coed eu llosgi, a’r holl laswellt ei losgi.*

8 Canodd yr ail angel ei drwmped. Ac fe gafodd rhywbeth tebyg i fynydd mawr a oedd yn llosgi â thân ei fwrw i mewn i’r môr. A throdd traean o’r môr yn waed; 9 a bu farw traean o’r creaduriaid byw yn y môr, ac fe gafodd traean o’r llongau eu dinistrio.

10 Canodd y trydydd angel ei drwmped. A syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a syrthiodd y seren ar draean o’r afonydd ac ar ffynhonnau’r dyfroedd. 11 Enw’r seren ydy Wermod. Ac fe drodd traean o’r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos y dyfroedd, oherwydd bod y rhain wedi cael eu gwneud yn chwerw.

12 Canodd y pedwerydd angel ei drwmped. Ac fe gafodd traean o’r haul ei daro a thraean o’r lleuad a thraean o’r sêr, er mwyn i draean ohonyn nhw gael eu tywyllu, er mwyn i’r dydd beidio â chael golau am draean ohono, a’r nos yr un modd.

13 Ac fe welais, ac fe glywais eryr yn hedfan yng nghanol y nef yn dweud â llais uchel: “Gwae, gwae, gwae y rhai sy’n byw ar y ddaear oherwydd yr hyn sy’n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu trwmpedi yn fuan!”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu