LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Brenhinoedd 9
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Brenhinoedd

      • Jehofa yn ymddangos i Solomon eto (1-9)

      • Anrheg Solomon i’r Brenin Hiram (10-14)

      • Prosiectau amrywiol Solomon (15-28)

1 Brenhinoedd 9:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “palas.”

1 Brenhinoedd 9:7

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “a bydd Israel yn ddihareb ymysg y bobloedd.”

1 Brenhinoedd 9:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “a phalas y brenin.”

1 Brenhinoedd 9:13

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “y Wlad Sy’n Dda i Ddim.”

1 Brenhinoedd 9:14

Troednodiadau

  • *

    Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).

1 Brenhinoedd 9:15

Troednodiadau

  • *

    Neu “ei balas.”

  • *

    Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”

1 Brenhinoedd 9:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “anrheg briodas.”

1 Brenhinoedd 9:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “cryfhau.”

1 Brenhinoedd 9:24

Troednodiadau

  • *

    Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Brenhinoedd 9:1-28

Cyntaf Brenhinoedd

9 Cyn gynted ag yr oedd Solomon wedi gorffen adeiladu tŷ Jehofa, tŷ* y brenin, a phopeth roedd Solomon eisiau ei adeiladu, 2 ymddangosodd Jehofa i Solomon am yr ail dro, yn union fel roedd wedi ymddangos iddo yn Gibeon. 3 Dywedodd Jehofa wrtho: “Rydw i wedi clywed dy weddi a’r erfyniad wnest ti o fy mlaen i. Rydw i wedi sancteiddio’r tŷ hwn rwyt ti wedi ei adeiladu a bydd fy enw i yno yn barhaol, a bydd fy llygaid a fy nghalon i’n wastad yno. 4 Ac os byddi di’n cerdded o fy mlaen i fel gwnaeth dy dad Dafydd, â chalon bur ac â chyfiawnder, drwy wneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iti, ac os byddi di’n ufuddhau i fy neddfau a fy marnedigaethau, 5 yna bydda i’n sefydlu gorsedd dy deyrnas dros Israel am byth, yn union fel gwnes i addo i dy dad Dafydd drwy ddweud, ‘Bydd ’na wastad un o dy ddisgynyddion di yn eistedd ar orsedd Israel.’ 6 Ond os byddwch chi bobl a’ch meibion yn stopio fy nilyn i, ac os na fyddwch chi’n cadw’r gorchmynion a’r deddfau rydw i wedi eu rhoi o’ch blaenau chi, ac os byddwch chi’n mynd ac yn gwasanaethu duwiau eraill ac yn ymgrymu iddyn nhw, 7 bydda i’n cael gwared ar Israel o’r wlad rydw i wedi ei rhoi iddyn nhw, a bydda i’n gwrthod y tŷ rydw i wedi ei sancteiddio ar gyfer fy enw gan dynnu fy llygaid oddi arno, a bydd yr holl bobloedd yn dirmygu Israel* ac yn gwneud sbort am eu pennau. 8 A bydd y tŷ hwn yn adfeilion. A bydd pawb sy’n mynd heibio yn syllu ac yn rhyfeddu, a byddan nhw’n chwibanu ac yn dweud, ‘Pam gwnaeth Jehofa hynny i’r wlad hon ac i’r tŷ hwn?’ 9 Yna byddan nhw’n dweud, ‘Oherwydd gwnaethon nhw gefnu ar Jehofa eu Duw a oedd wedi dod â’u cyndadau nhw allan o’r Aifft, a gwnaethon nhw groesawu duwiau eraill ac ymgrymu iddyn nhw a’u gwasanaethu nhw. Dyna pam daeth Jehofa â’r trychineb hwn i gyd arnyn nhw.’”

10 Adeiladodd Solomon y ddau dŷ, tŷ Jehofa a thŷ’r brenin,* mewn 20 mlynedd. 11 Roedd Hiram brenin Tyrus wedi rhoi trawstiau cedrwydd a meryw i Solomon, yn ogystal â chymaint o aur ag yr oedd ef eisiau, felly rhoddodd y Brenin Solomon 20 dinas i Hiram yng ngwlad Galilea. 12 Felly aeth Hiram allan o Tyrus i weld y dinasoedd roedd Solomon wedi eu rhoi iddo, ond doedd ef ddim yn fodlon â nhw. 13 Dywedodd: “Sut fath o ddinasoedd ydy’r rhain rwyt ti wedi eu rhoi imi fy mrawd?” Felly cawson nhw’r enw Gwlad Cabwl* a dyna yw eu henw hyd heddiw. 14 Yn y cyfamser, anfonodd Hiram 120 talent* o aur at y brenin.

15 Dyma hanes y rhai roedd y Brenin Solomon wedi eu gorfodi i weithio iddo er mwyn adeiladu tŷ Jehofa, ei dŷ* ei hun, y Bryn,* wal Jerwsalem, Hasor, Megido, a Geser. 16 (Roedd Pharo brenin yr Aifft wedi dod i fyny a chipio Geser ac wedi ei llosgi â thân, ac roedd ef hefyd wedi lladd y Canaaneaid oedd yn byw yn y ddinas. Felly rhoddodd y ddinas fel anrheg* i’w ferch, gwraig Solomon.) 17 Dyma Solomon yn ailadeiladu* Geser, Beth-horon Isaf, 18 Baalath, a Tamar yn yr anialwch, o fewn y wlad, 19 yn ogystal â’r holl ddinasoedd lle roedd Solomon yn storio nwyddau, dinasoedd y cerbydau, dinasoedd y marchogion, a beth bynnag roedd Solomon eisiau ei adeiladu yn Jerwsalem, yn Lebanon, ac yn yr holl wlad oedd o dan ei awdurdod. 20 Ynglŷn â’r holl bobl oedd ar ôl o blith yr Amoriaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nad oedden nhw’n perthyn i bobl Israel, 21 eu disgynyddion oedd ar ôl yn y wlad—y rhai doedd yr Israeliaid ddim wedi gallu eu dinistrio—cawson nhw eu gorfodi gan Solomon i lafurio fel caethweision hyd heddiw. 22 Ond wnaeth Solomon ddim gwneud unrhyw un o’r Israeliaid yn gaethweision, oherwydd nhw oedd ei filwyr, ei weision, ei dywysogion, ei swyddogion, a phenaethiaid ei yrwyr cerbydau a’i farchogion. 23 Roedd ’na 550 o benaethiaid dros y swyddogion oedd yn goruchwylio’r gwaith roedd Solomon wedi ei gomisiynu, y fformyn dros y bobl a oedd yn gwneud y gwaith.

24 Ond daeth merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i’r tŷ roedd ef wedi ei adeiladu iddi; yna gwnaeth ef adeiladu’r Bryn.*

25 Dair gwaith y flwyddyn, roedd Solomon yn cyflwyno aberthau llosg ac aberthau heddwch ar yr allor roedd wedi ei hadeiladu i Jehofa, hefyd gwnaeth i fwg godi oddi ar yr aberthau ar yr allor a oedd o flaen Jehofa, a dyna sut gwnaeth Solomon gwblhau’r tŷ.

26 Hefyd, adeiladodd y Brenin Solomon lynges yn Esion-geber, sydd wrth ymyl Eloth ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom. 27 Anfonodd Hiram ei weision ei hun gyda’r llynges, morwyr profiadol, i wasanaethu ochr yn ochr â gweision Solomon. 28 Aethon nhw i Offir a chymryd 420 talent o aur o fan ’na a mynd â’r aur at y Brenin Solomon.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu