Ail Cronicl
33 Roedd Manasse yn 12 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 55 mlynedd yn Jerwsalem.
2 Gwnaeth beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, gan ddilyn arferion ffiaidd y cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen pobl Israel. 3 Ailadeiladodd yr uchelfannau roedd ei dad Heseceia wedi eu chwalu, a chododd allorau i’r duwiau Baal a gwneud polion cysegredig. Ac ymgrymodd i holl fyddin y nefoedd a’u gwasanaethu nhw. 4 Hefyd, adeiladodd allorau yn nhŷ Jehofa, y lle roedd Jehofa wedi dweud amdano: “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.” 5 Ac adeiladodd allorau i holl fyddin y nefoedd mewn dau gwrt yn nhŷ Jehofa. 6 A gwnaeth i’w feibion ei hun fynd drwy’r tân yn Nyffryn Mab Hinnom; roedd yn dewino, yn defnyddio hudoliaeth, ac yn penodi cyfryngwyr ysbrydion* a phobl sy’n dweud ffortiwn. Gwnaeth ar raddfa enfawr beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, er mwyn ei ddigio.
7 Rhoddodd y ddelw roedd ef wedi ei cherfio yn nhŷ’r gwir Dduw, y tŷ roedd Duw wedi sôn amdano wrth Dafydd a’i fab Solomon, gan ddweud: “Bydda i’n rhoi fy enw i yn barhaol yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle rydw i wedi ei ddewis allan o holl lwythau Israel. 8 Ac ni fydda i byth eto yn gyrru pobl Israel allan o’r wlad y gwnes i ei rhoi i’w cyndadau, ar yr amod eu bod nhw’n cadw at yr holl orchmynion rydw i wedi eu rhoi iddyn nhw, y Gyfraith gyfan, y deddfau, a’r penderfyniadau barnwrol a gafodd eu rhoi drwy Moses.” 9 Parhaodd Manasse i arwain Jwda a phobl Jerwsalem ar gyfeiliorn, gan achosi iddyn nhw wneud pethau gwaeth na’r cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu dinistrio o flaen yr Israeliaid.
10 Parhaodd Jehofa i siarad â Manasse a’i bobl, ond ni wnaethon nhw dalu unrhyw sylw. 11 Felly dyma Jehofa’n dod â phenaethiaid byddin brenin Asyria yn eu herbyn nhw, a dyma nhw’n dal Manasse â bachau* ac yn ei rwymo â dwy gadwyn gopr* ac yn mynd ag ef i Fabilon. 12 Yn ei helynt, gweddïodd ar Jehofa ei Dduw ac erfyn arno am drugaredd, a dangosodd ostyngeiddrwydd mawr o flaen Duw ei gyndadau. 13 Parhaodd i weddïo arno, a chafodd Duw ei gyffwrdd gan hyn, a chlywodd ei erfyniad am drugaredd, a daeth ag ef yn ôl i Jerwsalem i fod yn frenin eto. Yna daeth Manasse i wybod mai Jehofa ydy’r gwir Dduw.
14 Ar ôl hyn, adeiladodd wal allanol ar gyfer Dinas Dafydd, i’r gorllewin o Gihon yn y dyffryn* a oedd yn mynd mor bell â Phorth y Pysgod, ac roedd yn parhau hyd at Offel, ac adeiladodd y wal yn uchel iawn. Hefyd, penododd benaethiaid milwrol yn holl ddinasoedd caerog Jwda. 15 Yna, tynnodd y duwiau estron a’r ddelw allan o dŷ Jehofa, a chael gwared ar yr holl allorau roedd ef wedi eu hadeiladu ar fynydd tŷ Jehofa ac yn Jerwsalem a’u taflu nhw allan o’r ddinas. 16 Ar ben hynny, paratôdd allor Jehofa a dechrau offrymu aberthau heddwch ac aberthau o ddiolch arni, a gorchmynnodd i Jwda wasanaethu Jehofa, Duw Israel. 17 Er hynny, roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr uchelfannau, ond i Jehofa eu Duw yn unig.
18 Ynglŷn â gweddill hanes Manasse, ei weddi ar ei Dduw, a geiriau’r gweledyddion a siaradodd ag ef yn enw Jehofa, Duw Israel, maen nhw wedi eu cofnodi yn hanes brenhinoedd Israel. 19 Hefyd, ynglŷn â’i weddi a’r ateb ffafriol a gafodd i’w erfyniad, ei holl bechodau a’i anffyddlondeb, lleoliadau yr uchelfannau, y polion cysegredig, a’r delwau cerfiedig gwnaeth ef eu gosod cyn iddo ddangos gostyngeiddrwydd, mae hyn i gyd wedi cael ei ysgrifennu ymysg geiriau ei weledyddion. 20 Yna bu farw Manasse,* a gwnaethon nhw ei gladdu wrth ei dŷ, a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.
21 Roedd Amon yn 22 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. 22 A pharhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd ei dad Manasse wedi gwneud; ac aberthodd Amon i’r holl ddelwau roedd ei dad Manasse wedi eu cerfio, a daliodd ati i’w gwasanaethu nhw. 23 Ond ni wnaeth ef ddangos gostyngeiddrwydd o flaen Jehofa, fel roedd ei dad Manasse wedi gwneud. Yn hytrach, daliodd Amon ati i wneud mwy a mwy o bethau drwg. 24 Yn y pen draw, cynllwyniodd ei weision yn ei erbyn a’i ladd yn ei dŷ ei hun. 25 Ond dyma bobl y wlad yn taro i lawr bawb oedd wedi cynllwynio yn erbyn y Brenin Amon, ac yn gwneud ei fab Joseia yn frenin yn ei le.