Josua
2 Yna dyma Josua fab Nun yn anfon dau ddyn allan o Sittim i ysbïo. Dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i edrych ar y wlad, yn enwedig Jericho.” Felly aethon nhw, a chyrraedd tŷ putain o’r enw Rahab, ac arhoson nhw yno. 2 Dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho: “Edrycha! Mae dynion o Israel wedi dod i mewn heno i ysbïo’r wlad.” 3 A gyda hynny, anfonodd brenin Jericho neges at Rahab: “Tyrd â’r dynion allan, y rhai ddaeth yma ac sy’n aros yn dy dŷ, oherwydd maen nhw wedi dod i ysbïo’r wlad i gyd.”
4 Ond dyma’r ddynes* yn cuddio’r ddau ddyn. Yna dywedodd hi: “Do, fe ddaeth y dynion ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o le roedden nhw’n dod. 5 Ac wrth iddi nosi, pan oedd giât y ddinas ar fin cael ei chau, aeth y dynion allan. Dydw i ddim yn gwybod i le aethon nhw, ond os ewch chi ar eu holau nhw’n gyflym, byddwch chi’n dal i fyny â nhw.” 6 (Ond, roedd hi wedi mynd â nhw i fyny ar ben y to, a’u cuddio nhw yno o dan bentyrrau o lin.)* 7 Felly, aeth dynion y brenin ar eu holau nhw i gyfeiriad rhydau’r Iorddonen, a chafodd giât y ddinas ei chau unwaith iddyn nhw fynd allan.
8 Cyn i’r dynion orwedd i lawr i gysgu, aeth hi i fyny atyn nhw ar y to. 9 Dywedodd hi wrth y dynion: “Rydw i’n gwybod yn iawn y bydd Jehofa yn rhoi’r wlad ichi. Rydyn ni’n eich ofni chi. Mae pawb yn y wlad wedi dychryn o’ch achos chi, 10 oherwydd rydyn ni wedi clywed sut gwnaeth Jehofa eich arwain chi drwy’r Môr Coch ar ôl ichi adael yr Aifft, a sut gwnaethoch chi ladd dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, ar ochr arall* yr Iorddonen. 11 Pan glywson ni am y peth, suddodd ein calonnau, ac mae pawb wedi colli hyder o’ch achos chi, oherwydd mae Jehofa eich Duw yn Dduw yn y nefoedd uwchben ac yma ar y ddaear. 12 Nawr am fy mod i wedi dangos cariad ffyddlon tuag atoch chi, wnewch chi plîs addo imi yn enw Jehofa y byddwch chithau hefyd yn dangos cariad ffyddlon tuag at deulu fy nhad; a rhowch arwydd* imi y byddwch chi’n cadw at eich gair. 13 Mae’n rhaid ichi beidio â lladd fy nhad na fy mam, fy mrodyr na fy chwiorydd, nac unrhyw un sy’n perthyn iddyn nhw, ac mae’n rhaid ichi ein hachub ni* rhag marwolaeth.”
14 Yna dyma’r dynion yn dweud wrthi: “Gad inni farw* os nad ydyn ni’n cadw at ein gair! Os nad wyt ti’n sôn am beth rydyn ni’n ei wneud, gelli di ddibynnu arnon ni i ddangos cariad ffyddlon tuag atat ti pan fydd Jehofa yn rhoi’r wlad inni.” 15 Ar ôl hynny, gwnaeth hi ollwng rhaff allan o’r ffenest iddyn nhw gael dringo i lawr, oherwydd roedd ei thŷ yn rhan o wal y ddinas. Roedd hi’n byw ar y wal. 16 Yna, dyma hi’n dweud wrthyn nhw: “Ewch i’r mynyddoedd a chuddiwch yno am dri diwrnod, fel na fydd dynion y brenin yn gallu cael hyd ichi. Yna, ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl yma, gallwch chi fynd ar eich ffordd.”
17 Dywedodd y dynion wrthi: “Byddwn ni’n cadw’r llw gwnest ti ofyn inni ei dyngu 18 dim ond os byddi di’n clymu’r rhaff ysgarlad hon y tu allan i dy ffenest pan fyddwn ni’n dod i mewn i’r wlad—y ffenest gwnest ti adael inni ddringo drwyddi. Dylet ti gasglu dy dad, dy fam, dy frodyr, a phawb sy’n perthyn i deulu dy dad i mewn i’r tŷ gyda ti. 19 Felly, os bydd unrhyw un yn mynd allan drwy ddrysau dy dŷ ac yn marw, ei fai ef ei hun fydd hynny, a fyddwn ni ddim yn euog. Ond os bydd niwed yn dod ar unrhyw un sy’n aros gyda ti yn y tŷ, ac mae’n marw, ein bai ni fydd hynny. 20 Ond os byddi di’n sôn am ein cynllun, fyddwn ni ddim yn euog o dorri’r llw gwnest ti ofyn inni ei dyngu.” 21 Atebodd hi: “Iawn, bydda i’n gwneud fel rydych chi wedi gofyn.”
A gyda hynny, gwnaeth hi eu hanfon nhw i ffwrdd. Wedyn, clymodd hi’r rhaff ysgarlad yn y ffenest. 22 Felly gadawon nhw, a mynd i’r mynyddoedd ac aros yno am dri diwrnod, nes i ddynion y brenin fynd yn ôl i’r ddinas. Roedd dynion y brenin wedi bod yn chwilio amdanyn nhw ar hyd pob ffordd, ond wnaethon nhw ddim cael hyd iddyn nhw. 23 Daeth y ddau ddyn i lawr o’r mynyddoedd, croesi’r afon, a mynd at Josua fab Nun. A dyma nhw’n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd iddyn nhw. 24 Yna dywedon nhw wrth Josua: “Mae Jehofa wedi rhoi’r wlad gyfan inni. A dweud y gwir, mae pawb yn y wlad wedi dychryn o’n hachos ni.”