Lefiticus
20 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dylet ti ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd unrhyw ddyn yn Israel neu unrhyw estronwr sy’n byw yn Israel yn rhoi ei blant i Molech, dylai’r dyn hwnnw gael ei ladd heb os. Dylai pobl y wlad ei labyddio i farwolaeth. 3 Bydda i’n gwrthod y dyn hwnnw a bydda i’n ei ladd* am ei fod wedi rhoi rhai o’i blant i Molech ac wedi llygru fy lle sanctaidd ac wedi amharchu fy enw sanctaidd. 4 Os bydd pobl y wlad yn anwybyddu’r ffaith fod y dyn wedi rhoi ei blant i Molech a dydyn nhw ddim yn ei ladd, 5 yna, yn sicr, bydda i’n gwrthod y dyn hwnnw a’i deulu. Bydda i’n lladd y dyn hwnnw* yn ogystal â phawb sy’n ymuno ag ef ac yn eu puteinio eu hunain i Molech.
6 “‘Ynglŷn â’r person sy’n troi at y cyfryngwyr ysbrydion* a’r rhai sy’n dweud ffortiwn ac yn eu puteinio eu hunain yn ysbrydol, bydda i, yn sicr, yn gwrthwynebu’r person hwnnw ac yn ei ladd.*
7 “‘Mae’n rhaid ichi eich sancteiddio eich hunain a bod yn sanctaidd, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw. 8 Ac mae’n rhaid ichi gadw fy neddfau a’u dilyn nhw. Fi yw Jehofa, yr un sy’n eich gwneud chi’n sanctaidd.
9 “‘Os bydd unrhyw ddyn yn melltithio ei dad neu ei fam, dylai’r dyn hwnnw gael ei ladd heb os. Gan ei fod wedi melltithio ei dad neu ei fam, mae’n gyfrifol am ei farwolaeth ei hun.*
10 “‘Nawr, ynglŷn â’r dyn sy’n godinebu gyda gwraig dyn arall: Dylai’r dyn sy’n godinebu gyda gwraig dyn arall gael ei ladd heb os. Dylai’r ddau ohonyn nhw* gael eu lladd. 11 Bydd dyn sy’n gorwedd gyda gwraig ei dad yn dwyn gwarth ar ei dad. Dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.* 12 Os bydd dyn yn gorwedd gyda’i ferch-yng-nghyfraith, dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw wedi mynd yn groes i beth sy’n naturiol. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.*
13 “‘Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn arall fel mae rhywun yn gorwedd gyda dynes,* mae’r ddau ohonyn nhw wedi gwneud rhywbeth ffiaidd. Dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.*
14 “‘Os bydd dyn yn cymryd dynes* a’i mam, mae hynny’n weithred anweddus.* Dylai’r tri ohonyn nhw gael eu llosgi yn y tân, fel na fydd ymddygiad anweddus yn parhau yn eich plith.
15 “‘Os bydd dyn yn cael rhyw gydag anifail, dylai’r dyn gael ei ladd heb os, a dylech chi ladd yr anifail hefyd. 16 Os bydd dynes* yn ceisio cael rhyw gydag anifail, dylech chi ladd y ddynes* a’r anifail. Dylen nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.*
17 “‘Os bydd dyn yn cael rhyw gyda’i chwaer, merch ei dad neu ferch ei fam, ac mae ef yn gweld ei noethni hi ac mae hi’n gweld ei noethni ef, mae hynny’n warthus. Dylen nhw gael eu lladd* o flaen y bobl. Mae ef wedi dwyn gwarth ar ei chwaer. Fe fydd yn atebol am ei bechod.
18 “‘Os bydd dyn yn gorwedd gyda dynes* yn nyddiau ei misglwyf ac yn cael rhyw gyda hi, mae’r ddau ohonyn nhw wedi dangos diffyg parch tuag at ei gwaed. Dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd.*
19 “‘Paid â chael rhyw gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, oherwydd byddai hynny’n dwyn gwarth ar berthynas agos. Bydd unrhyw un sy’n gwneud y fath beth yn atebol am ei bechod. 20 Bydd dyn sy’n gorwedd gyda gwraig ei ewythr yn dwyn gwarth ar ei ewythr. Byddan nhw’n atebol am eu pechod. Dylen nhw farw heb gael plant. 21 Os bydd dyn yn cymryd gwraig ei frawd, mae hynny’n rhywbeth ffiaidd. Mae wedi dwyn gwarth ar ei frawd. Dylen nhw farw heb gael plant.
22 “‘Mae’n rhaid ichi gadw fy holl ddeddfau a fy holl farnedigaethau a’u dilyn nhw, fel na fydd y wlad lle rydw i’n mynd â chi i fyw ynddi yn eich chwydu chi allan. 23 Peidiwch â dilyn deddfau’r cenhedloedd rydw i’n eu gyrru allan o’ch blaenau chi, oherwydd maen nhw wedi gwneud yr holl bethau hyn, ac rydw i’n eu casáu nhw. 24 Dyna pam dywedais wrthoch chi: “Byddwch chi’n meddiannu eu gwlad a bydda i’n ei rhoi ichi fel etifeddiaeth, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi yw Jehofa eich Duw sydd wedi eich gosod chi ar wahân i’r bobloedd.” 25 Mae’n rhaid ichi wahaniaethu rhwng yr anifeiliaid glân a’r rhai aflan, a rhwng yr adar aflan a’r rhai glân, a pheidiwch â’ch llygru eich hunain ag unrhyw anifeiliaid, adar, ymlusgiaid, na phryfed rydw i wedi eu gosod ar wahân i chi fel rhywbeth aflan. 26 Mae’n rhaid ichi fod yn sanctaidd i mi oherwydd rydw i, Jehofa, yn sanctaidd, ac rydw i’n eich gosod chi ar wahân i’r bobloedd fel eiddo i mi.
27 “‘Dylai unrhyw ddyn neu ddynes* sy’n gyfryngwr ysbrydion* neu sy’n dweud ffortiwn gael ei ladd heb os. Dylai’r bobl ei labyddio i farwolaeth. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.’”*