Lefiticus
26 “‘Peidiwch â gwneud duwiau diwerth i chi’ch hunain, a pheidiwch â chodi eilun wedi ei gerfio neu golofn gysegredig i chi’ch hunain, a pheidiwch â rhoi cerflun yn eich gwlad er mwyn plygu i lawr o’i flaen, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw. 2 Dylech chi gadw fy sabothau a dangos parch tuag at* fy nghysegr. Fi yw Jehofa.
3 “‘Os byddwch chi’n parhau i ddilyn fy neddfau ac yn cadw fy ngorchmynion ac yn ufuddhau iddyn nhw, 4 bydda i’n rhoi cawodydd o law ar yr adeg iawn, a bydd y tir yn ffrwythlon, a bydd ffrwyth yn tyfu ar goed y wlad. 5 Bydd tymor y dyrnu yn parhau tan gynhaeaf y grawnwin, a bydd cynhaeaf y grawnwin yn parhau tan dymor yr hau; a byddwch yn bwyta eich bara ac yn cael digonedd, a byddwch chi’n byw mewn heddwch yn eich gwlad. 6 Bydda i’n rhoi heddwch yn y wlad, a phan fyddwch chi’n gorwedd i lawr, ni fydd neb yn codi ofn arnoch chi; a bydda i’n cael gwared ar anifeiliaid ffyrnig a gwyllt o’r wlad, ac ni fydd neb yn ymosod ar eich gwlad. 7 Byddwch chi’n sicr yn mynd ar ôl eich gelynion, a byddwch chi’n eu trechu nhw â’r cleddyf. 8 Bydd pump ohonoch chi yn mynd ar ôl 100, a bydd 100 ohonoch chi yn mynd ar ôl 10,000, a byddwch chi’n trechu eich gelynion â’r cleddyf.
9 “‘Bydda i’n eich bendithio chi ac yn eich gwneud chi’n ffrwythlon a bydd gynnoch chi lawer o ddisgynyddion, a bydda i’n cadw fy nghyfamod â chi. 10 Tra eich bod chi’n dal i fwyta hen gynnyrch y flwyddyn gynt, bydd rhaid ichi gael gwared ar yr hen er mwyn gwneud lle i’r newydd. 11 Bydda i’n rhoi fy nhabernacl yn eich plith, a fydda i ddim yn eich gwrthod chi. 12 Bydda i’n cerdded yn eich plith a bydda i’n Dduw i chi, a byddwch chithau yn bobl i mi. 13 Fi yw Jehofa eich Duw, yr un a wnaeth eich rhyddhau chi o gaethiwed yn yr Aifft a’ch dod â chi allan o’r wlad, a thorri’r iau oddi ar eich gyddfau a gwneud ichi gerdded â’ch pennau’n uchel.
14 “‘Ond, os na fyddwch chi’n gwrando arna i, nac yn cadw’r holl orchmynion hyn, 15 ac os byddwch chi’n gwrthod fy neddfau, ac yn casáu fy marnedigaethau fel na fyddwch chi’n cadw fy holl orchmynion, ac os byddwch chi’n torri fy nghyfamod, 16 bydda i’n gwneud hyn ichi: bydda i’n eich cosbi chi drwy ddod â helbul arnoch chi, twbercwlosis* a thwymyn, gan wneud ichi golli eich golwg a’ch holl nerth. Byddwch chi’n hau eich hadau yn ofer, oherwydd bydd eich gelynion yn bwyta’r cnwd. 17 Bydda i’n eich gwrthod chi, a byddwch chi’n cael eich trechu gan eich gelynion; a bydd y rhai sy’n eich casáu chi yn sathru arnoch chi, a byddwch chi’n ffoi pan nad oes neb yn dod ar eich olau.
18 “‘Os nad ydy hyd yn oed hynny’n gwneud ichi wrando arna i, bydd rhaid imi eich cosbi chi saith gwaith yn fwy am eich pechodau. 19 Bydda i’n torri eich balchder ystyfnig ac yn gwneud y nefoedd fel haearn a’r ddaear fel copr. 20 Byddwch chi’n defnyddio eich holl nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn ffrwythlon, ac ni fydd ffrwyth yn tyfu ar goed y wlad.
21 “‘Ond os byddwch chi’n parhau i fy ngwrthwynebu ac yn gwrthod gwrando arna i, yna bydd rhaid imi eich taro chi saith gwaith yn fwy yn ôl eich pechodau. 22 Bydda i’n anfon anifeiliaid gwyllt yn eich plith a byddan nhw’n lladd eich plant a’ch anifeiliaid domestig, a dim ond ychydig ohonoch chi fydd ar ôl, a bydd eich ffyrdd yn wag.
23 “‘Os na fyddwch chi’n derbyn fy nisgyblaeth er gwaethaf hyn i gyd ac yn mynnu fy ngwrthwynebu i, 24 yna bydda innau hefyd yn eich gwrthwynebu chi, a bydda i fy hun yn eich taro chi saith gwaith am eich pechodau. 25 Bydda i’n dial arnoch chi ac yn gwneud i’ch gelynion ymosod arnoch chi â’r cleddyf am eich bod chi wedi torri’r cyfamod. Os byddwch chi’n ffoi i’ch dinasoedd, bydda i’n eich taro chi ag afiechyd, a bydda i’n eich rhoi chi yn nwylo eich gelynion. 26 Pan fydda i’n difetha eich cyflenwad bara,* bydd deg dynes* yn gallu pobi bara mewn un ffwrn* yn unig a byddan nhw’n dosbarthu’r bara wrth bwysau; a byddwch chi’n bwyta, ond fyddwch chi ddim yn cael digon.
27 “‘Os na fyddwch chi’n gwrando arna i er gwaethaf hyn i gyd, ac os byddwch chi’n mynnu fy ngwrthwynebu i, 28 bydda i’n eich gwrthwynebu chi yn fwy byth, a bydd rhaid imi eich cosbi chi saith gwaith am eich pechodau. 29 Felly bydd rhaid ichi fwyta cnawd eich meibion, a byddwch chi’n bwyta cnawd eich merched. 30 Bydda i’n dinistrio eich uchelfannau cysegredig ac yn torri i lawr eich allorau arogldarth ac yn pentyrru eich cyrff marw ar ben eich eilunod ffiaidd* difywyd, a bydda i’n cefnu arnoch chi am eich bod chi mor ffiaidd imi. 31 Bydda i’n dinistrio eich dinasoedd a’ch cysegrau, ac ni fydd arogl eich aberthau yn fy mhlesio. 32 Bydda i’n difetha’r tir, a bydd eich gelynion sy’n byw yno yn synnu o’i weld. 33 A bydda i’n eich gwasgaru chi ymhlith y cenhedloedd, a bydda i’n achosi i’ch gelynion ddod i ymladd yn eich erbyn chi â’r cleddyf, a bydd eich tir wedi ei ddifetha a bydd eich dinasoedd wedi eu dinistrio.
34 “‘Tra byddwch chi yng ngwlad eich gelynion, bydd eich tir wedi ei ddifetha, ac fe fydd yn gorffwys fel y dylech chi fod wedi gadael iddo orffwys bob seithfed flwyddyn. 35 Tra bod y tir yn ddiffaith fe fydd yn gorffwys, oherwydd, tra oeddech chi yno, ni wnaethoch chi gadw cyfraith y Saboth ac ni wnaethoch chi adael iddo orffwys.
36 “‘Ynglŷn â’r rhai sy’n goroesi, bydda i’n llenwi eu calonnau ag ofn yng ngwlad eu gelynion; a bydd sŵn deilen yn chwythu yn y gwynt yn achosi iddyn nhw ffoi, a byddan nhw’n ffoi fel rhywun yn rhedeg oddi wrth gleddyf ac yn cwympo heb i unrhyw un fynd ar eu holau. 37 Byddan nhw’n baglu dros ei gilydd fel y rhai sy’n ffoi oddi wrth gleddyf, er nad oes neb yn mynd ar eu holau. Ni fyddwch chi’n gallu dal eich tir yn erbyn eich gelynion. 38 Byddwch chi’n marw ymhlith y cenhedloedd, byddwch chi’n marw yng ngwlad eich gelynion. 39 Bydd y rhai ohonoch chi sydd ar ôl yng ngwlad eich gelynion yn pydru yno oherwydd eich pechod. Yn sicr, byddan nhw’n pydru oherwydd pechodau eu tadau. 40 A byddan nhw’n cyffesu eu bod nhw a’u tadau wedi fy ngwrthwynebu i ac wedi bod yn anffyddlon ac wedi pechu yn fy erbyn i, 41 gan fy ngorfodi i’w gwrthwynebu nhwthau a’u dod â nhw i mewn i wlad eu gelynion.
“‘Efallai wedyn byddan nhw’n darostwng eu calonnau ystyfnig, ac yn talu am eu pechodau. 42 A bydda i’n cofio fy nghyfamod â Jacob, a fy nghyfamod ag Isaac, a bydda i’n cofio fy nghyfamod ag Abraham, a bydda i’n cofio’r wlad. 43 Pan nad oedden nhw yno, roedd y tir yn talu ei sabothau ac yn aros yn ddiffaith hebddyn nhw, ac roedden nhw’n talu am eu pechodau, am eu bod nhw wedi gwrthod fy marnedigaethau ac wedi casáu fy neddfau. 44 Ond er gwaethaf hyn i gyd, tra eu bod nhw yng ngwlad eu gelynion, wna i ddim eu gwrthod nhw yn gyfan gwbl nac eu casáu nhw gymaint nes imi eu dinistrio nhw’n llwyr, oherwydd byddai hynny’n mynd yn erbyn y cyfamod wnes i â nhw, oherwydd fi yw Jehofa eu Duw. 45 Er eu lles nhw, bydda i’n cofio’r cyfamod wnes i â’u cyndadau, y rhai gwnes i eu harwain allan o wlad yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, er mwyn profi fy mod i’n Dduw iddyn nhw. Fi yw Jehofa.’”
46 Dyna’r deddfau, y barnedigaethau, a’r cyfreithiau gwnaeth Jehofa eu sefydlu rhyngddo ef ei hun a’r Israeliaid ar Fynydd Sinai drwy Moses.