Datguddiad i Ioan
5 Ac fe welais yn llaw dde’r Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd sgrôl ag ysgrifen ar y ddwy ochr,* wedi ei selio’n dynn â saith sêl. 2 Ac fe welais angel cryf yn cyhoeddi â llais uchel: “Pwy sy’n deilwng i agor y sgrôl a thorri ei seliau?” 3 Ond doedd neb yn y nef nac ar y ddaear nac o dan y ddaear yn gallu agor y sgrôl nac edrych arni. 4 Fe wnes i ddechrau beichio crio oherwydd doedd neb yn deilwng i agor y sgrôl nac i edrych arni. 5 Ond dywedodd un o’r henuriaid wrtho i: “Stopia dy grio. Edrycha! Mae’r Llew o lwyth Jwda, gwreiddyn Dafydd, wedi concro er mwyn iddo allu agor y sgrôl a’i saith sêl.”
6 Ac fe welais oen yn sefyll yng nghanol yr orsedd a’r pedwar creadur byw, ac yng nghanol yr henuriaid, ac roedd yr oen yn ymddangos fel petai wedi cael ei ladd, ac roedd ganddo saith corn a saith llygad, ac mae’r llygaid yn golygu saith ysbryd Duw sydd wedi cael eu hanfon allan i’r holl ddaear. 7 Ar unwaith fe ddaeth yn ei flaen a chymryd y sgrôl o law dde’r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. 8 Pan gymerodd y sgrôl, gwnaeth y pedwar creadur byw a’r 24 henuriad syrthio o flaen yr Oen, ac roedd gan bob un ohonyn nhw delyn a phowlenni aur yn llawn o arogldarth. (Mae’r arogldarth yn golygu gweddïau’r rhai sanctaidd.) 9 Ac maen nhw’n canu cân newydd, gan ddweud: “Rwyt ti’n deilwng i gymryd y sgrôl ac i agor ei seliau, oherwydd dy fod ti wedi cael dy ladd ac wedi prynu â dy waed bobl i Dduw allan o bob llwyth ac iaith a hil a chenedl, 10 ac fe wnest ti eu gwneud nhw’n deyrnas ac yn offeiriaid i’n Duw, ac fe fyddan nhw’n rheoli fel brenhinoedd dros y ddaear.”
11 Ac fe welais lawer o angylion o amgylch yr orsedd a’r creaduriaid byw a’r henuriaid, ac fe glywais eu llais nhw hefyd, a’u rhif oedd myrdd myrddiynau* a miloedd ar filoedd, 12 ac roedden nhw’n dweud â llais uchel: “Mae’r Oen a gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn y grym a chyfoeth a doethineb a nerth ac anrhydedd a gogoniant a bendith.”
13 Ac fe glywais bob creadur yn y nef ac ar y ddaear ac o dan y ddaear ac ar y môr, a phob peth ynddyn nhw, yn dweud: “I’r Un sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen mae’r fendith a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r grym yn perthyn am byth bythoedd.” 14 Roedd y pedwar creadur byw yn dweud: “Amen!” a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addoli.