Datguddiad i Ioan
13 A safodd y ddraig yn stond ar dywod y môr.
Ac fe welais fwystfil gwyllt yn codi allan o’r môr, ac roedd ganddo ddeg corn a saith pen, ac ar ei gyrn ddeg diadem,* ond ar ei bennau enwau cableddus. 2 Nawr roedd y bwystfil gwyllt a welais yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel traed arth, ac roedd ei geg fel ceg llew. A gwnaeth y ddraig roi i’r bwystfil ei rym a’i orsedd ac awdurdod mawr.
3 Fe welais fod un o’i bennau yn edrych fel petai wedi cael ei frifo’n ddifrifol, ond roedd ei friw marwol wedi cael ei iacháu, a gwnaeth yr holl ddaear ddilyn y bwystfil gwyllt yn llawn edmygedd. 4 Ac fe wnaethon nhw addoli’r ddraig gan ei bod hi wedi rhoi’r awdurdod i’r bwystfil gwyllt, a gwnaethon nhw addoli’r bwystfil gwyllt gan ddweud: “Pwy sy’n debyg i’r bwystfil gwyllt, a phwy sy’n gallu brwydro yn ei erbyn?” 5 Cafodd ceg ei roi iddo i ddweud pethau mawr a chableddau, ac fe gafodd awdurdod ei roi iddo i weithredu am 42 o fisoedd. 6 Ac fe agorodd ei geg mewn cableddau yn erbyn Duw i gablu ei enw a’i babell, hyd yn oed y rhai sy’n byw yn y nef. 7 Cafodd ef ganiatâd i ryfela yn erbyn y rhai sanctaidd a’u concro nhw, ac fe gafodd awdurdod ei roi iddo dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl. 8 A bydd yr holl rai sy’n byw ar y ddaear yn ei addoli. Ers i’r byd gael ei seilio, does yr un o’u henwau wedi cael eu hysgrifennu yn sgrôl bywyd yr Oen a gafodd ei ladd.
9 Os oes gan rywun glust, dylai wrando. 10 Os oes rhaid i rywun gael ei gaethiwo, fe fydd yn cael ei gaethiwo. Os bydd rhywun yn lladd â’r cleddyf,* mae’n rhaid iddo gael ei ladd â’r cleddyf. Mae hyn yn gofyn am ddyfalbarhad a ffydd ar ran y rhai sanctaidd.
11 Yna fe welais fwystfil gwyllt arall yn codi allan o’r ddaear, ac roedd ganddo ddau gorn fel oen, ond dechreuodd siarad fel draig. 12 Ac mae’n defnyddio’r un awdurdod ag sydd gan y bwystfil gwyllt cyntaf a hynny o flaen ei lygaid. Ac mae’n gwneud i’r ddaear a’r rhai sy’n byw ynddi addoli’r bwystfil gwyllt cyntaf, yr un â’r briw marwol a gafodd ei iacháu. 13 Ac mae’n gwneud arwyddion mawr, gan wneud hyd yn oed i dân ddod i lawr o’r nef i’r ddaear yng ngolwg dynolryw.
14 Mae’n camarwain y rhai sy’n byw ar y ddaear, oherwydd yr arwyddion y cafodd yr hawl i’w gwneud yng ngolwg y bwystfil gwyllt, wrth iddo ddweud wrth y rhai sy’n byw ar y ddaear am wneud delw i’r bwystfil gwyllt a gafodd ei daro gan y cleddyf ond a arhosodd yn fyw. 15 Ac fe gafodd ganiatâd i roi anadl* i ddelw y bwystfil gwyllt, er mwyn i ddelw y bwystfil gwyllt siarad ac achosi i’r rhai sy’n gwrthod addoli delw’r bwystfil gwyllt gael eu lladd.
16 Mae’n rhoi o dan orfodaeth yr holl bobl—y rhai bach a’r rhai mawr, y rhai cyfoethog a’r rhai tlawd, y rhai rhydd a’r caethweision—er mwyn i’r rhain gael eu marcio ar eu llaw dde neu ar eu talcen, 17 ac fel na all unrhyw un brynu neu werthu heblaw am berson sydd â’r marc, enw’r bwystfil gwyllt neu rif ei enw. 18 Dyma lle mae angen doethineb: Dylai’r un sydd â dealltwriaeth gyfri rhif y bwystfil gwyllt, oherwydd mae’n rhif dynol, a’i rif yw 666.