Numeri
11 Nawr dechreuodd y bobl gwyno’n ofnadwy o flaen Jehofa. Pan glywodd Jehofa hynny, gwylltiodd yn lân, ac anfonodd Jehofa dân i losgi yn eu mysg ac i ddinistrio rhai o’r bobl ar ffiniau’r gwersyll. 2 Pan ddechreuodd y bobl erfyn ar Moses am help, gwnaeth ef weddïo ar Jehofa a dyma’r tân yn diffodd. 3 Felly cafodd y lle hwnnw yr enw Tabera,* oherwydd gwnaeth tân gan Jehofa losgi yn eu herbyn nhw.
4 Dechreuodd yr estroniaid* yn eu plith ddangos agwedd farus, a dechreuodd yr Israeliaid hefyd wylo, gan ddweud: “Pwy fydd yn rhoi cig inni i’w fwyta? 5 Mae gynnon ni atgofion mor felys o’r pysgod roedden ni’n eu bwyta heb gost yn yr Aifft, a hefyd y ciwcymberau, y melonau dŵr, y cennin, y nionod,* a’r garlleg! 6 Ond nawr rydyn ni’n gwywo. Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw beth o gwbl heblaw am y manna hwn.”
7 Yn digwydd bod, roedd y manna yn debyg i hadau coriander, ac roedd yn edrych fel gwm bdeliwm. 8 Roedd y bobl yn mynd allan i’w gasglu ac yn defnyddio morter neu felin law i’w falu. Yna, bydden nhw’n ei ferwi mewn padelli coginio neu’n ei ddefnyddio i wneud torthau crwn, ac roedd yn blasu fel cacen felys oedd wedi ei phobi ag olew. 9 Pan oedd y gwlith yn disgyn ar y gwersyll yn ystod y nos, roedd y manna hefyd yn disgyn.
10 Clywodd Moses y bobl yn wylo, teulu ar ôl teulu, pob dyn wrth fynedfa ei babell. Trodd Jehofa’n ddig iawn, a digiodd Moses hefyd. 11 Yna dywedodd Moses wrth Jehofa: “Pam rwyt ti’n gwneud i dy was ddioddef? Pam rydw i wedi colli dy ffafr, fel bod rhaid imi ysgwyddo’r baich o ofalu am yr holl bobl yma? 12 A ydw i’n fam i’r bobl hyn? A wnes i eu geni nhw, fel dy fod ti’n dweud wrtho i, ‘Caria nhw, fel y mae nyrs* yn cario babi bach,’ wrth inni fynd i’r wlad gwnest ti addo ei rhoi i’w cyndadau? 13 Ble bydda i’n cael hyd i gig i’w roi i’r holl bobl yma? Oherwydd maen nhw’n wylo o fy mlaen i o hyd, gan ddweud, ‘Rho inni gig i’w fwyta!’ 14 Alla i ddim gofalu am yr holl bobl hyn ar fy mhen fy hun; mae’n ormod imi. 15 Os mai dyma sut rwyt ti am fy nhrin i, plîs lladd fi nawr. Os ydw i wedi dy blesio di, paid â gwneud imi weld mwy o helynt.”
16 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Casgla 70 o ddynion o blith henuriaid Israel, dynion rwyt ti’n eu hadnabod fel henuriaid a swyddogion y bobl. Cymera nhw at babell y cyfarfod, a gwna iddyn nhw sefyll yno gyda ti. 17 Bydda i’n dod i lawr ac yn siarad â ti yno, ac fe wna i gymryd ychydig o’r ysbryd sydd arnat ti a’i roi arnyn nhw, a byddan nhw’n dy helpu di i gario baich y bobl fel nad oes rhaid iti ei gario ar dy ben dy hun. 18 Dylet ti ddweud wrth y bobl, ‘Sancteiddiwch eich hunain ar gyfer yfory, oherwydd byddwch chi’n bendant yn bwyta cig, gan fod Jehofa wedi eich clywed chi’n wylo ac yn dweud: “Pwy fydd yn rhoi cig inni i’w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft.” Yn sicr bydd Jehofa’n rhoi cig ichi, a byddwch chi’n bwyta. 19 Byddwch chi’n bwyta, nid am un diwrnod nac am 2 ddiwrnod nac am 5 diwrnod nac am 10 diwrnod nac am 20 diwrnod, 20 ond am fis cyfan, nes iddo ddod allan o’ch ffroenau ac nes ei fod yn rhywbeth ffiaidd ichi, oherwydd gwnaethoch chi wrthod Jehofa sydd yn eich plith, ac roeddech chi’n wylo o’i flaen gan ddweud, “Pam rydyn ni wedi gadael yr Aifft?”’”
21 Yna dywedodd Moses: “Mae ’na 600,000 o ddynion* gyda fi, ond eto rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i’n rhoi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan’! 22 Petai preiddiau cyfan o ddefaid a gwartheg yn cael eu lladd, a fyddai hynny’n ddigon iddyn nhw? Neu petai holl bysgod y môr yn cael eu dal, a fyddai hynny’n ddigon iddyn nhw?”
23 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Ydy hynny’n amhosib i Jehofa?* Nawr byddi di’n gweld os bydd yr hyn rydw i’n ei ddweud yn dod yn wir neu beidio.”
24 Felly aeth Moses allan a rhannodd eiriau Jehofa â’r bobl, yna fe gasglodd 70 o ddynion o blith henuriaid y bobl a gwneud iddyn nhw sefyll o gwmpas y babell. 25 Yna daeth Jehofa i lawr mewn cwmwl a siaradodd ag ef, a chymerodd i ffwrdd ychydig o’r ysbryd a oedd arno a’i roi ar bob un o’r 70 henuriad. Unwaith iddyn nhw dderbyn yr ysbryd, dechreuon nhw ymddwyn fel proffwydi,* ond dyna’r unig dro gwnaethon nhw hynny.
26 Roedd dau o’r dynion yn dal i fod yn y gwersyll, a’u henwau oedd Eldad a Medad. Dechreuodd yr ysbryd setlo arnyn nhw, am eu bod nhw ymysg y rhai a oedd wedi cael eu cofrestru yn ôl eu henwau, ond doedden nhw ddim wedi mynd allan at y babell. Felly dechreuon nhw ymddwyn fel proffwydi yn y gwersyll. 27 Rhedodd dyn ifanc at Moses ac adrodd wrtho: “Mae Eldad a Medad yn ymddwyn fel proffwydi yn y gwersyll!” 28 Yna, dyma Josua fab Nun, a oedd wedi bod yn was i Moses ers iddo fod yn ifanc, yn ymateb gan ddweud: “Fy arglwydd Moses, stopia nhw!” 29 Ond atebodd Moses: “A wyt ti’n genfigennus ar fy rhan i? Na, byddwn i wrth fy modd petai pob un o bobl Jehofa yn proffwydo, a phetai Jehofa’n rhoi ei ysbryd arnyn nhw!” 30 Yn nes ymlaen, daeth Moses yn ôl i’r gwersyll gyda henuriaid Israel.
31 Felly achosodd Jehofa i wynt chwythu soflieir o’r môr, ac achosodd iddyn nhw ddisgyn yr holl ffordd o amgylch y gwersyll, gan ymestyn dros bellter o tua thaith diwrnod ar un ochr a thaith diwrnod ar yr ochr arall. Roedden nhw wedi pentyrru ar y llawr, ac roedd y pentyrrau tua dau gufydd* o uchder. 32 Felly trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy’r nos a’r diwrnod wedyn, casglodd y bobl y soflieir. Doedd neb wedi casglu llai na deg homer,* ac roedden nhw’n eu gosod nhw o gwmpas y gwersyll iddyn nhw eu hunain. 33 Ond tra bod y cig yn dal i fod rhwng eu dannedd, cyn iddyn nhw ddechrau cnoi, gwylltiodd Jehofa’n lân â’r bobl, a dechreuodd Jehofa daro i lawr y bobl a lladd nifer enfawr ohonyn nhw.
34 Felly rhoddon nhw’r enw Cibroth-hattaafa* ar y lle hwnnw, oherwydd dyna lle gwnaethon nhw gladdu’r bobl a ddangosodd chwant hunanol. 35 Gadawodd y bobl Cibroth-hattaafa a mynd i Haseroth ac aros yno.