LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Corinthiaid 13
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Corinthiaid

      • Rhybuddion ac anogaeth olaf (1-14)

        • ‘Dal ati i chwilio i weld a ydych chi yn y ffydd’ (5)

        • Cael eich cywiro; meddwl yn gytûn (11)

2 Corinthiaid 13:1

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “ceg.”

2 Corinthiaid 13:5

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2024, tt. 12-13

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2023, tt. 9-10

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2018, t. 10

2 Corinthiaid 13:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2020, tt. 18-23

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Corinthiaid 13:1-14

Yr Ail at y Corinthiaid

13 Dyma’r trydydd tro rydw i’n dod atoch chi. “Dylai pob mater gael ei wneud yn glir ar sail tystiolaeth* dau neu dri o dystion.” 2 Er fy mod i’n absennol nawr, mae fel petaswn i’n bresennol am yr eildro, ac rydw i’n rhoi fy rhybudd ymlaen llaw i’r rhai sydd wedi pechu gynt ac i’r lleill i gyd: os ydw i’n dod eto wna i ddim eu harbed nhw, 3 gan eich bod chi’n chwilio am dystiolaeth fod Crist, sydd ddim yn wan tuag atoch chi ond sy’n gryf yn eich plith, yn wir yn siarad drwyddo i. 4 Fe gafodd ei ddienyddio ar y stanc oherwydd gwendid, ond mae’n fyw oherwydd grym Duw. Yn wir, rydyn ninnau hefyd yn wan gydag ef, ond fe fyddwn ni’n byw gydag ef oherwydd grym Duw tuag atoch chi.

5 Daliwch ati i chwilio eich hunain i weld a ydych chi yn y ffydd; daliwch ati i brofi pa fath o berson ydych chi. Onid ydych chi’n cydnabod bod Iesu Grist mewn undod â chi? Oni bai nad ydych chi’n gymeradwy. 6 Rydw i’n wir yn gobeithio y byddwch chi’n cydnabod ein bod ni’n gymeradwy.

7 Nawr rydyn ni’n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi’n gwneud dim byd drwg, nid er mwyn inni ymddangos yn gymeradwy, ond er mwyn ichi wneud yr hyn sy’n dda, hyd yn oed os ydyn ni’n ymddangos fel nad ydyn ni’n gymeradwy. 8 Oherwydd allwn ni ddim gwneud dim byd yn erbyn y gwir, dim ond o blaid y gwir. 9 Rydyn ni’n bendant yn llawenhau pan fyddwn ni’n wan a chithau’n gryf. A dyma beth rydyn ni’n gweddïo amdano, i chi ddod yn ôl i’r ffordd gywir. 10 Dyna pam rydw i’n ysgrifennu’r pethau hyn atoch chi a minnau’n absennol, er mwyn i mi, pan fydda i’n bresennol, beidio â bod yn llym yn defnyddio’r awdurdod a roddodd yr Arglwydd imi, i adeiladu ac nid i dynnu i lawr.

11 Yn olaf, frodyr, parhewch i lawenhau, i gael eich cywiro, i gael eich cysuro, i feddwl yn gytûn, i fyw’n heddychlon; a bydd Duw cariad a heddwch gyda chi. 12 Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. 13 Mae’r rhai sanctaidd i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.

14 Rydw i’n gweddïo i garedigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist a chariad Duw a bendithion yr ysbryd glân fod gyda chi i gyd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu