Numeri
12 Nawr dechreuodd Miriam ac Aaron siarad yn erbyn Moses am ei fod wedi priodi dynes* o Cus. 2 Roedden nhw’n dweud: “Ai dim ond trwy Moses mae Jehofa wedi siarad? Onid ydy ef hefyd wedi siarad trwyddon ni?” Ac roedd Jehofa’n gwrando. 3 Nawr roedd Moses yn llawer iawn mwy addfwyn* nag unrhyw ddyn arall ar wyneb y ddaear.
4 Yn sydyn, dywedodd Jehofa wrth Moses, Aaron, a Miriam: “Ewch allan, y tri ohonoch chi, at babell y cyfarfod.” Felly aeth y tri ohonyn nhw allan. 5 A daeth Jehofa i lawr yn y golofn o gwmwl a sefyll wrth fynedfa’r babell a galw ar Aaron a Miriam. Camodd y ddau ohonyn nhw ymlaen. 6 Dywedodd: “Gwrandewch arna i, plîs. Petai un o broffwydi Jehofa yn eich plith, byddwn i’n ymddangos iddo mewn gweledigaeth, a byddwn i’n siarad ag ef mewn breuddwyd. 7 Ond nid felly mae hi gyda fy ngwas Moses! Rydw i’n ei drystio â fy nhŷ cyfan.* 8 Rydw i’n siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn glir, heb ddefnyddio geiriau cymhleth,* ac rydw i, Jehofa, yn ymddangos iddo. Felly pam doeddech chi ddim yn ofni siarad yn erbyn fy ngwas, yn erbyn Moses?”
9 Felly gwylltiodd Jehofa yn lân â nhw a’u gadael nhw. 10 Symudodd y cwmwl i ffwrdd o’r babell, ac edrycha! cafodd Miriam ei tharo â’r gwahanglwyf gan wneud ei chroen mor wyn ag eira. Yna, trodd Aaron at Miriam, a gwelodd ei bod hi wedi cael ei tharo â’r gwahanglwyf. 11 Ar unwaith dywedodd Aaron wrth Moses: “Rydw i’n erfyn arnat ti, fy arglwydd! Plîs, paid â dal y pechod hwn yn ein herbyn ni! Rydyn ni wedi gwneud rhywbeth gwirion. 12 Plîs, paid â gadael iddi barhau fel plentyn sydd wedi cael ei eni’n farw, a hanner ei gnawd wedi pydru!” 13 A dechreuodd Moses erfyn ar Jehofa, gan ddweud: “O Dduw, plîs iachâ hi! Plîs!”
14 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Petai ei thad yn poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi’n byw mewn cywilydd am saith diwrnod? Gorchmynna iddi gael ei hynysu am saith diwrnod y tu allan i’r gwersyll, ac ar ôl hynny caiff hi ddod yn ôl.” 15 Felly cafodd Miriam ei hynysu y tu allan i’r gwersyll am saith diwrnod, ac ni wnaeth y bobl symud y gwersyll nes bod Miriam wedi dod yn ôl. 16 Yna gadawodd y bobl Haseroth a dechrau gwersylla yn anialwch Paran.