Nehemeia
8 Yna dyma’r bobl i gyd yn casglu at ei gilydd yn unedig yn y sgwâr cyhoeddus o flaen Porth y Dŵr, a dywedon nhw wrth Esra y copïwr* i ddod â llyfr Cyfraith Moses gydag ef, y gyfraith roedd Jehofa wedi gorchymyn i Israel ei chadw. 2 Felly daeth Esra yr offeiriad â’r Gyfraith allan o flaen y gynulleidfa o ddynion, merched,* a phawb a oedd yn gallu deall beth roedden nhw’n ei glywed, ar y diwrnod cyntaf o’r seithfed mis. 3 A darllenodd yn uchel o’r llyfr gan wynebu’r sgwâr cyhoeddus o flaen Porth y Dŵr, o doriad y wawr hyd ganol dydd, i’r dynion, i’r merched,* ac i bawb a oedd yn gallu deall; a gwrandawodd y bobl yn astud ar lyfr y Gyfraith. 4 Ac roedd Esra y copïwr* yn sefyll ar lwyfan bren a oedd wedi cael ei gwneud ar gyfer yr achlysur, ac yn sefyll ar ei ochr dde roedd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia, a Maaseia; ac ar ei ochr chwith roedd Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Has-badana, Sechareia, a Mesulam.
5 Roedd Esra’n sefyll yn uwch na’r bobl, ac agorodd y llyfr yng ngolwg pawb. Wrth iddo ei agor, safodd y bobl i gyd. 6 Yna dyma Esra’n moli Jehofa y gwir Dduw, yr Un mawr, ac atebodd y bobl i gyd, “Amen!* Amen!” a chodon nhw eu dwylo. Wedyn, dyma nhw’n plygu’n isel ac yn ymgrymu i Jehofa â’u hwynebau ar y llawr. 7 Ac roedd Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, a Pelaia, a oedd yn Lefiaid, yn esbonio’r Gyfraith i’r bobl tra oedd y bobl yn dal i sefyll. 8 A dalion nhw ati i ddarllen yn uchel o’r llyfr, o Gyfraith y gwir Dduw, gan ei hesbonio’n glir a gwneud ei hystyr yn amlwg; felly gwnaethon nhw helpu’r bobl i ddeall beth roedd yn cael ei ddarllen.
9 A dyma Nehemeia y llywodraethwr,* Esra yr offeiriad a’r copïwr,* a’r Lefiaid a oedd yn dysgu’r bobl yn dweud wrth bawb: “Mae’r diwrnod hwn yn sanctaidd i Jehofa eich Duw. Peidiwch â galaru nac wylo.” Oherwydd roedd y bobl i gyd yn wylo wrth iddyn nhw glywed geiriau’r Gyfraith. 10 Dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i fwyta’r pethau mwyaf blasus ac i yfed beth sy’n felys, ac anfonwch fwyd at y rhai sydd heb unrhyw beth, oherwydd mae’r diwrnod hwn yn sanctaidd i’n Harglwydd, a pheidiwch â theimlo’n drist, oherwydd mae llawenydd Jehofa yn gaer gadarn ichi.”* 11 Ac roedd y Lefiaid yn tawelu’r bobl i gyd gan ddweud: “Peidiwch â chrio, oherwydd mae’r diwrnod hwn yn sanctaidd. Peidiwch â theimlo’n drist.” 12 Felly aeth yr holl bobl i ffwrdd i fwyta ac i yfed ac i rannu bwyd ac i lawenhau, oherwydd eu bod nhw wedi deall y geiriau roedden nhw wedi eu clywed.
13 Ac ar yr ail ddiwrnod, dyma bennau teuluoedd estynedig y bobl i gyd, yr offeiriaid, a’r Lefiaid yn casglu o gwmpas Esra y copïwr* er mwyn dysgu mwy am eiriau’r Gyfraith. 14 Yna, gwnaethon nhw ddarganfod yn y Gyfraith bod Jehofa wedi gorchymyn trwy Moses y dylai’r Israeliaid fyw mewn pebyll yn ystod yr ŵyl yn y seithfed mis 15 ac y dylen nhw hefyd gyhoeddi’r datganiad canlynol drwy eu dinasoedd i gyd a thrwy Jerwsalem: “Ewch i’r ardal fynyddig a chasglu canghennau deiliog o goed olewydd, o goed pin, o goed myrtwydd, o goed palmwydd, ac o goed eraill er mwyn gwneud pebyll, yn ôl beth sydd wedi cael ei ysgrifennu.”
16 Felly aeth y bobl allan i’w casglu nhw er mwyn gwneud pebyll, pob un ar ei do; gwnaethon nhw hefyd adeiladu pebyll yng nghyrtiau eu tai, yng nghyrtiau tŷ’r gwir Dduw, yn sgwâr cyhoeddus Porth y Dŵr, ac yn sgwâr cyhoeddus Porth Effraim. 17 Felly dyma bawb a oedd wedi dychwelyd o’r gaethglud yn gwneud pebyll ac yn byw yn y pebyll, oherwydd doedd yr Israeliaid ddim wedi dathlu’r ŵyl yn y ffordd hon ers dyddiau Josua fab Nun hyd y diwrnod hwnnw, felly roedden nhw’n llawen iawn. 18 Ac o ddydd i ddydd roedd llyfr Cyfraith y gwir Dduw yn cael ei ddarllen, o’r diwrnod cyntaf hyd y diwrnod olaf. A gwnaethon nhw gynnal yr ŵyl am saith diwrnod ac roedd ’na gynulliad sanctaidd ar yr wythfed diwrnod, yn unol â’r gofynion.