LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 22
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Ahaseia, brenin Jwda (1-9)

      • Athaleia yn cipio’r orsedd (10-12)

2 Cronicl 22:6

Troednodiadau

  • *

    Mewn rhai llawysgrifau Hebraeg, “Asareia.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 22:1-12

Ail Cronicl

22 Yna dyma bobl Jerwsalem yn gwneud ei fab ieuengaf, Ahaseia, yn frenin yn ei le, oherwydd roedd y grŵp o ladron a ddaeth gyda’r Arabiaid i’r gwersyll wedi lladd ei frodyr hŷn i gyd. Felly dechreuodd Ahaseia fab Jehoram deyrnasu fel brenin ar Jwda. 2 Roedd Ahaseia yn 22 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am flwyddyn yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Athaleia, wyres Omri.

3 Roedd yntau hefyd yn ymddwyn yn yr un ffordd â theulu Ahab, oherwydd roedd ei fam yn ei arwain i wneud pethau drwg. 4 Ac roedd yn parhau i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, fel y gwnaeth teulu Ahab, oherwydd daethon nhw yn gynghorwyr iddo ar ôl i’w dad farw, a dyna wnaeth arwain at ei ddinistr. 5 Dilynodd eu cyngor a mynd gyda Jehoram fab Ahab, brenin Israel, i ryfela yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead, lle cafodd Jehoram ei anafu gan y bwasaethwyr. 6 Aeth yn ôl i Jesreel i wella o’r anafiadau a gafodd ef ganddyn nhw yn Rama pan frwydrodd yn erbyn Hasael brenin Syria.

Aeth Ahaseia* fab Jehoram brenin Jwda i lawr i Jesreel i weld Jehoram fab Ahab, am ei fod wedi cael ei anafu. 7 Ond pan aeth Ahaseia i ymweld â Jehoram, gwnaeth Duw achosi ei gwymp. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, aeth allan gyda Jehoram i gyfarfod Jehu ŵyr Nimsi, yr un roedd Jehofa wedi ei eneinio i gael gwared ar deulu Ahab. 8 Pan ddechreuodd Jehu gosbi teulu Ahab, daeth o hyd i dywysogion Jwda a meibion brodyr Ahaseia, gweision Ahaseia, a’u lladd nhw. 9 Yna chwiliodd am Ahaseia; daethon nhw o hyd iddo lle roedd yn cuddio yn Samaria, a daethon nhw ag ef at Jehu. Yna dyma nhw’n ei ladd ac yn ei gladdu, oherwydd dywedon nhw: “Ef yw ŵyr Jehosaffat, a wnaeth geisio Jehofa â’i holl galon.” Doedd ’na neb o dŷ Ahaseia a oedd â’r nerth i reoli’r deyrnas.

10 Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, dyma hi’n mynd ati i ddinistrio llinach frenhinol gyfan tŷ Jwda. 11 Ond dyma Jehosabeath, merch y brenin, yn cymryd Jehoas fab Ahaseia i ffwrdd yn ddistaw bach oddi wrth feibion y brenin a oedd am gael eu lladd, ac yn ei gadw ef a’i nyrs mewn ystafell wely fewnol. Llwyddodd Jehosabeath, merch y Brenin Jehoram (roedd hi’n wraig i Jehoiada yr offeiriad ac yn chwaer i Ahaseia) i’w guddio oddi wrth Athaleia fel na chafodd ei ladd ganddi. 12 Arhosodd yno gyda nhw am chwe mlynedd, yn cuddio yn nhŷ’r gwir Dduw, tra oedd Athaleia yn teyrnasu dros y wlad.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu