At yr Hebreaid
5 Mae pob dyn sy’n cael ei benodi i wasanaethu fel archoffeiriad yn gwasanaethu dynion yn y pethau sy’n ymwneud â’u haddoliad i Dduw, er mwyn iddo offrymu rhoddion ac aberthau dros eu pechodau. 2 Mae’n gallu delio’n drugarog* â’r rhai anwybodus a’r rhai sy’n mynd ar gyfeiliorn, gan ei fod yntau hefyd yn gorfod wynebu ei wendid ei hun, 3 ac oherwydd hynny, mae’n rhaid iddo offrymu dros ei bechodau ei hun yn union fel mae’n gwneud dros bechodau’r bobl.
4 Dydy dyn ddim yn ei benodi ei hun i’r anrhydedd hwn, ond mae’n ei dderbyn dim ond pan fydd Duw’n ei benodi, yn union fel gwnaeth Duw benodi Aaron. 5 Felly, hefyd, ni wnaeth y Crist ei ogoneddu ei hun drwy ddod yn archoffeiriad, ond fe gafodd ei ogoneddu gan yr Un a ddywedodd wrtho: “Ti yw fy mab; heddiw rydw i wedi dod yn dad iti.” 6 Fel y mae hefyd yn dweud mewn lle arall, “Rwyt ti’n offeiriad am byth yn yr un ffordd â Melchisedec.”
7 Yn ystod ei fywyd ar y ddaear, offrymodd Crist erfyniadau a hefyd geisiadau, gyda chri uchel a dagrau, i’r Un a oedd yn gallu ei achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei glywed yn ffafriol o achos ei ofn duwiol. 8 Er ei fod yn fab, fe ddysgodd ufudd-dod drwy’r pethau a ddioddefodd. 9 Ac ar ôl iddo gael ei wneud yn berffaith, fe ddaeth yn gyfrifol am achubiaeth dragwyddol i bawb sy’n ufuddhau iddo, 10 oherwydd ei fod wedi cael ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad yn yr un ffordd â Melchisedec.
11 Mae gynnon ni lawer i’w ddweud amdano, ac mae’n anodd ei esbonio, oherwydd eich bod chi wedi mynd yn araf i ddeall yr hyn rydych chi’n ei glywed. 12 Oherwydd, er y dylech chi erbyn hyn fod yn athrawon, mae angen rhywun arnoch chi i’ch dysgu chi o’r cychwyn bethau sylfaenol neges Dduw, ac rydych chi wedi mynd yn ôl i fod angen llaeth, nid bwyd solet. 13 Oherwydd mae pawb sy’n parhau i fwydo ar laeth yn anghyfarwydd â gair cyfiawn Duw, oherwydd ei fod yn blentyn bach. 14 Ond mae bwyd solet yn perthyn i bobl aeddfed, i’r rhai sydd wedi dysgu i ddefnyddio eu gallu meddyliol i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.