Llythyr Iago
5 Dewch, nawr, chi ddynion cyfoethog, dylech chi fod yn wylo ac yn griddfan o achos y trychinebau sy’n dod arnoch chi. 2 Mae eich cyfoeth wedi pydru, ac mae gwyfyn wedi bwyta eich dillad. 3 Mae eich aur a’ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi ac yn bwyta eich cnawd. Bydd yr hyn rydych chi wedi ei gasglu fel tân yn y dyddiau olaf. 4 Edrychwch! Mae’r cyflogau wnaethoch chi ddim eu talu i’r gweithwyr a oedd yn cynaeafu eich caeau yn dal i weiddi allan, ac mae clustiau Jehofa y lluoedd wedi clywed cri’r rhai a fu’n casglu’r cynhaeaf. 5 Rydych chi wedi byw yn foethus ar y ddaear ac wedi rhoi eich bryd ar bleserau. Rydych chi wedi pesgi eich calonnau* ar ddydd y lladdfa. 6 Rydych chi wedi condemnio; rydych chi wedi llofruddio’r un cyfiawn. Dyna pam mae’n eich gwrthwynebu.
7 Byddwch yn amyneddgar felly, frodyr, hyd bresenoldeb yr Arglwydd. Edrychwch! Mae ffermwr yn parhau i aros am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, yn llawn amynedd nes i law’r hydref a glaw’r gwanwyn ddod. 8 Chithau hefyd, byddwch yn amyneddgar; gwnewch eich calonnau yn gadarn, oherwydd mae presenoldeb yr Arglwydd wedi dod yn agos.
9 Peidiwch â grwgnach* yn erbyn eich gilydd, frodyr, er mwyn ichi beidio â chael eich barnu. Edrychwch! Mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10 Frodyr, byddwch yn debyg i’r proffwydi a siaradodd yn enw Jehofa. Fe wnaethon nhw ddioddef llawer o dreialon ac fe wnaethon nhw ddyfalbarhau yn amyneddgar. 11 Edrychwch! Rydyn ni’n ystyried bod y rhai sydd wedi dyfalbarhau yn hapus.* Rydych chi wedi clywed am ddyfalbarhad Job ac wedi gweld y canlyniad a roddodd Jehofa iddo, a bod Jehofa yn fawr ei dosturi a’i drugaredd.
12 Uwchlaw popeth, fy mrodyr, stopiwch wneud llwon, naill ai wrth y nefoedd neu wrth y ddaear neu wrth unrhyw lw arall. Ond gadewch i’ch “Ie” olygu ie ac i’ch “Nage” olygu nage, fel nad ydych chi’n cael eich barnu.
13 Oes ’na rywun sy’n dioddef caledi yn eich plith chi? Fe ddylai barhau i weddïo. Oes ’na rywun sydd mewn hwyliau da? Fe ddylai ganu salmau. 14 Oes ’na rywun sy’n sâl yn eich plith chi? Fe ddylai alw henuriaid y gynulleidfa ato, a dylen nhw weddïo drosto, a rhoi olew arno yn enw Jehofa. 15 A bydd y weddi sydd wedi cael ei hoffrymu mewn ffydd yn gwneud yr un sâl* yn well, a bydd Jehofa yn ei godi i fyny. Hefyd, os ydy ef wedi cyflawni pechodau, bydd yn cael maddeuant.
16 Felly, cyffeswch yn agored eich pechodau i’ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn ichi gael eich iacháu. Mae erfyniad dyn cyfiawn yn cael effaith bwerus. 17 Dyn oedd Elias ac roedd ganddo’r un teimladau â ni, ond eto pan weddïodd yn daer am iddi beidio â glawio, ni wnaeth hi lawio ar y tir am dair blynedd a chwe mis. 18 Yna fe weddïodd eto, a rhoddodd y nefoedd law a dyma’r tir yn cynhyrchu ffrwyth.
19 Fy mrodyr, os oes rhywun yn eich plith chi yn cael ei arwain ar gyfeiliorn oddi wrth y gwir a rhywun arall yn ei droi yn ôl, 20 dylech chi wybod bod pwy bynnag sy’n troi pechadur yn ei ôl oddi wrth ei ddrwgweithredu yn ei achub ef* rhag marwolaeth a bydd yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.