LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Philipiaid 4
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Philipiaid

      • Undod, llawenhau, meddyliau cywir (1-9)

        • Peidio â phryderu am ddim byd (6, 7)

      • Gwerthfawrogi anrhegion y Philipiaid (10-20)

      • Cyfarchion olaf (21-23)

Philipiaid 4:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2019, tt. 9-10

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2016, tt. 14-15

Philipiaid 4:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “i’r menywod.”

  • *

    Neu “sydd wedi brwydro’n galed.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2022, tt. 15-16

Philipiaid 4:5

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2021, tt. 29-30

Philipiaid 4:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 191

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 9

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    2/2020, t. 22

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    6/2019, t. 6

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2017, t. 12

Philipiaid 4:7

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2024, tt. 21-22

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 9

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2019, tt. 8, 13

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2018, t. 23

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2017, tt. 9-14

Philipiaid 4:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “i feddwl am; i fyfyrio ar.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2022, t. 9

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 41

    Cariad Duw, tt. 71-72

Philipiaid 4:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “fy nghynnal fy hun.”

Philipiaid 4:13

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 189

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 40

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Philipiaid 4:1-23

At y Philipiaid

4 O ganlyniad, fy mrodyr annwyl, safwch yn gadarn fel hyn yn yr Arglwydd. Fy ffrindiau annwyl, rydw i’n hiraethu am eich gweld chi, fy llawenydd a fy nghoron.

2 Rydw i’n annog Euodia ac rydw i’n annog Syntyche i fod o’r un meddwl yn yr Arglwydd. 3 Yn wir, rydw i’n gofyn i tithau hefyd, fel gwir gyd-weithiwr, barhau i roi cymorth i’r merched* hyn sydd wedi ymdrechu* ochr yn ochr â mi yn achos y newyddion da, ynghyd â Clement a gweddill fy nghyd-weithwyr, sydd â’u henwau yn llyfr y bywyd.

4 Llawenhewch bob amser yn yr Arglwydd. Rydw i’n dweud eto, Llawenhewch! 5 Gadewch i bawb weld eich bod chi’n rhesymol. Mae’r Arglwydd yn agos. 6 Peidiwch â phryderu am ddim byd, ond ym mhob sefyllfa drwy weddïau ac erfyniadau ynghyd â diolchgarwch, rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio; 7 a bydd heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau drwy gyfrwng Crist Iesu.

8 Yn olaf, frodyr, beth bynnag sy’n wir, beth bynnag sy’n bwysig, beth bynnag sy’n gyfiawn, beth bynnag sy’n bur, beth bynnag sy’n hyrwyddo cariad, beth bynnag sy’n anrhydeddus, beth bynnag sy’n ddaionus, a beth bynnag sy’n haeddu canmoliaeth, parhewch i ystyried* y pethau hyn. 9 Y pethau rydych chi wedi eu dysgu yn ogystal â’u derbyn a’u clywed a’u gweld mewn cysylltiad â mi, gwnewch y pethau hyn, a bydd y Duw sy’n rhoi heddwch gyda chi.

10 Rydw i’n llawenhau yn fawr yn yr Arglwydd eich bod chi nawr o’r diwedd wedi dechrau meddwl amdana i eto. Er eich bod chi wedi bod yn meddwl amdana i, doedd gynnoch chi ddim cyfle i’w ddangos. 11 Dydw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, oherwydd rydw i wedi dysgu bod yn fodlon* er gwaethaf fy amgylchiadau. 12 Rydw i’n gwybod sut i fyw ar ychydig o bethau a sut i gael digonedd. Ym mhob peth ac o dan bob math o amgylchiadau rydw i wedi dysgu’r gyfrinach o sut i fod yn llawn a sut i fod yn llwglyd, sut i gael digonedd a sut i fynd heb ddigon. 13 Mae gen i’r grym i wynebu pob peth drwy’r un sy’n rhoi nerth imi.

14 Fodd bynnag, roeddech chi’n garedig iawn yn fy helpu i yn fy nhreialon. 15 Yn wir, rydych chi Philipiaid hefyd yn gwybod, ar ôl ichi ddysgu’r newyddion da am y tro cyntaf, pan wnes i adael Macedonia, ni wnaeth yr un gynulleidfa fy helpu i na derbyn fy help chwaith, heblaw amdanoch chi yn unig; 16 oherwydd tra oeddwn i yn Thesalonica, gwnaethoch chi anfon rhywbeth ata i er mwyn cwrdd â fy angen nid unwaith yn unig ond ddwywaith. 17 Nid fy mod i’n edrych am rodd, ond rydw i’n wir eisiau ichi dderbyn y bendithion sy’n dod â mwy o elw i’ch cyfri chi. 18 Fodd bynnag, mae gen i bopeth rydw i’n ei angen a mwy hyd yn oed. Dydw i ddim yn brin o unrhyw beth, nawr fy mod i wedi derbyn gan Epaffroditus yr hyn y gwnaethoch chi ei anfon, sef arogl hyfryd, aberth derbyniol, sy’n plesio Duw. 19 Yna bydd fy Nuw yn rhoi’n llwyr ichi bopeth sydd ei angen arnoch chi yn ôl cyfoeth ei ogoniant drwy gyfrwng Crist Iesu. 20 Nawr, rhowch ogoniant i’n Duw a’n Tad am byth bythoedd. Amen.

21 Cofiwch fi at yr holl rai sanctaidd sydd mewn undod â Christ Iesu. Mae’r brodyr sydd gyda mi yn anfon eu cyfarchion atoch chi. 22 Mae’r holl rai sanctaidd, yn enwedig y rhai ym mhalas Cesar, yn anfon eu cyfarchion atoch chi.

23 Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist fod gyda’r ysbryd rydych chi yn ei ddangos.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu