At Philemon
1 Paul, carcharor er mwyn Crist Iesu, a Timotheus ein brawd, at Philemon ein cyd-weithiwr annwyl, 2 ac at Apffia ein chwaer, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at y gynulleidfa sydd yn dy dŷ:
3 Rydyn ni’n gweddïo y bydd Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn rhoi caredigrwydd rhyfeddol a heddwch ichi.
4 Rydw i’n wastad yn diolch i fy Nuw pan fydda i’n sôn amdanat ti yn fy ngweddïau, 5 wrth i mi ddal i glywed am dy ffydd a’r cariad sydd gen ti tuag at yr Arglwydd Iesu a thuag at yr holl rai sanctaidd. 6 Rydw i’n gweddïo y bydd y ffydd sy’n gyffredin i ti a dy gyd-gredinwyr yn dy gymell di i gydnabod popeth da sydd gynnon ni drwy Grist. 7 Oherwydd fe ges i gymaint o lawenydd a chysur o glywed am dy gariad, gan fod calonnau’r rhai sanctaidd wedi cael eu hadfywio drwyddot ti, fy mrawd.
8 Am yr union reswm hwn, er bod gen i ryddid llwyr yn enw Crist i dy orchymyn di i wneud yr hyn sy’n iawn, 9 byddai’n well gen i apelio atat ti ar sail cariad, oherwydd fy mod i, Paul, bellach yn hen ddyn sydd hefyd yn garcharor er mwyn Crist Iesu. 10 Rydw i’n apelio atat ti dros fy mhlentyn, Onesimus, a minnau wedi dod yn dad iddo tra oeddwn i yn y carchar.* 11 Roedd ef ar un adeg yn dda i ddim iti, ond nawr mae’n werthfawr i tithau ac i minnau. 12 Rydw i’n ei anfon ef, yr un sy’n agos iawn at fy nghalon i, yn ôl atat ti.
13 Hoffwn i ei gadw yma i mi fy hun er mwyn iddo allu fy ngwasanaethu yn dy le di tra fy mod i yn y carchar dros y newyddion da. 14 Ond dydw i ddim eisiau gwneud unrhyw beth heb dy ganiatâd, er mwyn i dy garedigrwydd gael ei wneud oherwydd dy ewyllys rhydd, ac nid o dan orfodaeth. 15 Efallai dyna’r gwir reswm iddo ddianc oddi wrthot ti am gyfnod byr,* er mwyn iti ei dderbyn yn ôl am byth, 16 nid fel caethwas mwyach, ond fel un sy’n fwy na chaethwas, fel un sy’n frawd annwyl, yn enwedig i mi, ond yn fwy annwyl byth i ti, fel dyn ac fel brawd yn yr Arglwydd. 17 Felly os wyt ti’n fy ystyried yn ffrind, rho groeso cynnes iddo fel y byddet ti’n ei wneud i mi. 18 Ar ben hynny, os gwnaeth ef unrhyw gam â ti, neu os yw ef mewn dyled iti, fe wna i dy dalu di am hynny. 19 Rydw i, Paul, yn ysgrifennu â fy llaw fy hun: Fe wna i dalu’r ddyled yn ôl iti—heb sôn am y ffaith dy fod tithau’n ddyledus i mi am dy fywyd dy hun hyd yn oed. 20 Ie, fy mrawd, gad imi dderbyn y cymorth hwn gen ti yn yr Arglwydd; adfywia fy nghalon yng Nghrist.
21 Rydw i’n hyderus y byddi di’n gwrando arna i, felly rydw i’n ysgrifennu atat ti, gan wybod y byddi di’n gwneud mwy na’r hyn rydw i’n ei ofyn. 22 Ond yn ogystal â hynny, paratoa hefyd rywle imi aros, oherwydd fy mod i’n gobeithio y bydda i, drwy gyfrwng eich gweddïau, yn gallu dod yn ôl atoch chi.*
23 Mae Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu, yn anfon ei gyfarchion atat ti, 24 a hefyd Marc, Aristarchus, Demas, a Luc, fy nghyd-weithwyr.
25 Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist fod gyda’r ysbryd rydych chi yn ei ddangos.