Actau’r Apostolion
18 Ar ôl hyn gadawodd ef Athen a daeth i Gorinth. 2 Ac fe ddaeth o hyd i Iddew o’r enw Acwila, brodor o Pontus a oedd wedi dod o’r Eidal yn ddiweddar gyda’i wraig Priscila, oherwydd gwnaeth Clawdius orchymyn i’r holl Iddewon adael Rhufain. Felly fe aeth atyn nhw, 3 ac oherwydd ei fod yn gwneud yr un gwaith â nhw, sef gwneud pebyll, arhosodd yn eu tŷ a gweithio gyda nhw. 4 Byddai ef yn rhoi anerchiad* yn y synagog bob saboth ac yn perswadio Iddewon a Groegiaid.
5 Nawr, pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul roi ei holl amser i bregethu’r gair, gan dystiolaethu i’r Iddewon i brofi mai Iesu yw’r Crist. 6 Ond ar ôl iddyn nhw barhau i’w wrthwynebu a siarad yn gas, gwnaeth Paul ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad a dweud wrthyn nhw: “Ar eich pennau chi y bydd eich gwaed. Rydw innau’n lân. O hyn ymlaen bydda i’n mynd at bobl y cenhedloedd.” 7 Felly gadawodd ef y synagog ac aeth i mewn i dŷ dyn o’r enw Titius Jwstus, a oedd yn addoli Duw, ac roedd ei dŷ y drws nesaf i’r synagog. 8 Ond dechreuodd Crispus, arweinydd y synagog, gredu yn yr Arglwydd, ynghyd â phawb yn ei dŷ. A dyma llawer o’r Corinthiaid a glywodd y newyddion da yn dechrau credu a chael eu bedyddio. 9 Ar ben hynny, dywedodd yr Arglwydd wrth Paul mewn gweledigaeth yn ystod y nos: “Paid ag ofni, ond parha i siarad a phaid â chadw’n dawel, 10 oherwydd rydw i gyda ti ac ni fydd unrhyw ddyn yn ymosod arnat ti i wneud niwed iti; oherwydd mae gen i lawer o bobl yn y ddinas hon.” 11 Felly arhosodd yno am flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith.
12 Tra oedd Galio yn broconswl* ar Achaia, gwnaeth yr Iddewon ymosod ar Paul ar y cyd a’i arwain i sedd y barnwr, 13 gan ddweud: “Mae’r dyn yma yn perswadio pobl i addoli Duw mewn ffordd sy’n groes i’r gyfraith.” 14 Ond pan oedd Paul ar fin siarad, dywedodd Galio wrth yr Iddewon: “Petai’r dyn yma wedi gwneud rhywbeth o’i le neu wedi troseddu’n ddifrifol, O Iddewon, byddai’n rhesymol imi wrando arnoch chi’n amyneddgar. 15 Ond os ydy hyn yn ddadl dros eiriau ac enwau a’ch cyfraith eich hunain, bydd yn rhaid i chi’ch hunain ddelio â’r mater. Dydw i ddim eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn.” 16 Ar hynny dyma’n eu gyrru nhw i ffwrdd o’r sedd farnu. 17 Felly gwnaethon nhw i gyd afael yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a dechrau ei guro o flaen sedd y barnwr. Ond doedd Galio ddim yn ymwneud â’r pethau hyn o gwbl.
18 Fodd bynnag, ar ôl aros cryn dipyn o ddyddiau ychwanegol, dywedodd Paul ffarwel wrth y brodyr a dechrau hwylio i Syria, gyda Priscila ac Acwila. Roedd ef wedi torri ei wallt yn fyr yn Cenchreae, oherwydd ei fod wedi gwneud adduned. 19 Felly dyma nhw’n cyrraedd Effesus, a gadawodd ef y lleill yno; ond aeth yntau i mewn i’r synagog a rhesymodd â’r Iddewon. 20 Er eu bod nhw’n dal ati i ofyn iddo aros yn hirach, doedd ef ddim yn cytuno 21 ond dywedodd hwyl fawr wrthyn nhw ac ychwanegodd: “Bydda i’n dod yn ôl atoch chi eto, os ydy Jehofa yn dymuno.” A hwyliodd ef o Effesus 22 a daeth i lawr i Cesarea. Ac fe aeth i fyny* a chyfarch y gynulleidfa ac yna aeth i lawr i Antiochia.
23 Ar ôl iddo dreulio tipyn o amser yno, gadawodd a mynd o le i le drwy wlad Galatia a Phrygia, yn cryfhau’r holl ddisgyblion.
24 Nawr dyma Iddew o’r enw Apolos, brodor o Alecsandria, yn cyrraedd Effesus; roedd yn siaradwr medrus a oedd yn adnabod yr Ysgrythurau’n dda. 25 Roedd y dyn hwn wedi cael ei ddysgu am ffordd Jehofa, ac yntau’n llawn sêl oherwydd yr ysbryd, roedd yn siarad ac yn dysgu am Iesu yn hollol gywir, ond yr unig beth roedd yn gwybod amdano oedd y bedydd roedd Ioan yn ei bregethu. 26 Dechreuodd siarad yn eofn yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, gwnaethon nhw ei gymryd i un ochr ac esbonio ffordd Duw yn fwy cywir iddo. 27 Ar ben hynny, oherwydd ei fod eisiau mynd drosodd i Achaia, ysgrifennodd y brodyr at y disgyblion, gan eu hannog nhw i roi croeso cynnes iddo. Felly ar ôl iddo gyrraedd yno, roedd yn help mawr i’r rhai a oedd wedi dod yn gredinwyr drwy garedigrwydd rhyfeddol Duw; 28 oherwydd gwnaeth ef brofi’n llwyr, yn gyhoeddus ac yn frwd iawn, fod yr Iddewon yn anghywir, a dangos iddyn nhw o’r Ysgrythurau mai Iesu yw’r Crist.