LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Rhufeiniaid 14
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Rhufeiniaid

      • Paid â barnu eich gilydd (1-12)

      • Paid ag achosi i eraill faglu (13-18)

      • Gweithio tuag at heddwch ac undod (19-23)

Rhufeiniaid 14:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 35

Rhufeiniaid 14:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “croesawu.”

Rhufeiniaid 14:4

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “a yw ef yn sefyll neu’n syrthio.”

  • *

    Llyth., “Gall Jehofa wneud iddo sefyll.”

Rhufeiniaid 14:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “condemnio.”

  • *

    Llyth., “Byddwn ni i gyd yn sefyll o flaen sedd farnu Duw.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 35

Rhufeiniaid 14:11

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “i mi y bydd pob glin yn plygu.”

  • *

    Llyth., “i bob tafod.”

Rhufeiniaid 14:13

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “rhoi carreg rwystr o flaen dy frawd.”

Rhufeiniaid 14:14

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “aflan.”

Rhufeiniaid 14:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “gweithio fel caethwas i Grist.”

Rhufeiniaid 14:20

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “mae pob peth yn lân.”

  • *

    Neu “yn gwanhau ffydd person arall.” Llyth., “yn achosi person i faglu.”

Rhufeiniaid 14:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “sy’n gwanhau ffydd dy frawd.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 43

Rhufeiniaid 14:22

Troednodiadau

  • *

    Neu “credu.”

Rhufeiniaid 14:23

Troednodiadau

  • *

    Neu “wedi ei gondemnio.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Rhufeiniaid 14:1-23

At y Rhufeiniaid

14 Rhowch groeso i’r person sydd â ffydd wan, ond peidiwch â barnu’r rhai sy’n gweld pethau yn wahanol i chi. 2 Mae gan un person ffydd gref a bydd ef yn bwyta pob math o fwyd. Ond bydd y dyn sydd â ffydd wan yn bwyta llysiau yn unig. 3 Ni ddylai’r un sy’n bwyta pob math o fwyd edrych i lawr ar yr un sydd ddim yn bwyta popeth. Ac ni ddylai’r un sydd ddim yn bwyta pob math o fwyd farnu’r un sydd yn bwyta popeth. Mae Duw wedi derbyn* y person hwnnw. 4 Pwy wyt ti i farnu gwas rhywun arall? Ei feistr ei hun sy’n penderfynu a yw ef yn gywir neu’n anghywir.* Gyda help Jehofa, mae’n gallu llwyddo.*

5 Mae rhai yn meddwl bod un diwrnod yn fwy pwysig na’r diwrnodau eraill; mae eraill yn meddwl bod pob diwrnod yr un fath â’i gilydd. Dylai pob person fod yn hollol sicr yn ei feddwl ei hun. 6 Mae’r rhai sy’n trin un diwrnod yn fwy pwysig yn gwneud hynny i anrhydeddu Jehofa. Mae’r rhai sy’n bwyta pob math o fwyd yn bwyta i anrhydeddu Jehofa, gan eu bod nhw’n rhoi diolch i Dduw am y bwyd. Ac mae’r rhai sydd ddim yn bwyta hefyd yn anrhydeddu Jehofa, ac maen nhw’n rhoi diolch i Dduw. 7 Does neb ohonon ni’n byw i ni’n hunain yn unig. A does neb ohonon ni’n marw i ni’n hunain yn unig. 8 Os ydyn ni’n byw, rydyn ni’n byw i Jehofa, ac os ydyn ni’n marw, rydyn ni’n marw i Jehofa. Felly os ydyn ni’n byw neu’n marw, rydyn ni’n perthyn i Jehofa. 9 Mewn gwirionedd, dyma pam y gwnaeth Crist farw a dod yn ôl yn fyw eto, er mwyn iddo allu bod yn Arglwydd dros y rhai marw a’r rhai byw.

10 Ond pam rwyt ti’n barnu* dy frawd? Neu pam rwyt ti’n edrych i lawr ar dy frawd? Byddwn ni i gyd yn sefyll o flaen Duw, a bydd ef yn ein barnu ni i gyd.* 11 Oherwydd mae’r Ysgrythurau’n dweud: “‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n byw,’ meddai Jehofa, ‘bydd pawb yn plygu i lawr o fy mlaen i,* a bydd rhaid i bawb* gydnabod mai fi ydy Duw.’” 12 Felly, bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb droston ni’n hunain o flaen Duw.

13 Felly peidiwch â barnu eich gilydd mwyach. Yn hytrach, byddwch yn benderfynol o beidio byth â gwneud unrhyw beth i wanhau ffydd un o’ch brodyr neu i achosi iddo syrthio.* 14 Oherwydd fy mod i’n ddilynwr i’r Arglwydd Iesu, rydw i’n hollol sicr nad oes unrhyw beth rydyn ni’n ei fwyta yn aflan ynddo’i hun. Ond pan fydd person yn meddwl bod rhywbeth yn aflan, yna mae hi’n anghywir* iddo ei fwyta. 15 Os ydy dy frawd wedi cael ei bechu oherwydd y bwyd rwyt ti’n ei fwyta, dwyt ti ddim yn dangos cariad bellach. Gwnaeth Crist farw dros y person hwnnw. Paid â dinistrio ei ffydd oherwydd y bwyd rwyt ti’n ei fwyta. 16 Peidiwch â rhoi rheswm i unrhyw un ddweud pethau drwg am y pethau da rydych chi’n eu gwneud. 17 Dydy Teyrnas Dduw ddim yn golygu’r hyn rydyn ni’n ei fwyta a’r hyn rydyn ni’n ei yfed; yr hyn sy’n fwy pwysig ydy bod yn gyfiawn a chael heddwch a llawenydd drwy’r ysbryd glân. 18 Oherwydd mae pwy bynnag sy’n gwasanaethu Crist* fel hyn yn dderbyniol i Dduw a bydd ef yn cael cymeradwyaeth gan ddynion.

19 Felly dylen ni wneud beth bynnag a allwn ni er mwyn gwneud heddwch a chryfhau ein gilydd. 20 Stopiwch ddinistrio gwaith Duw o achos bwyd yn unig. Yn wir, mae pob math o fwyd yn dderbyniol i’w fwyta,* ond mae hi’n anghywir i fwyta rhywbeth pan fydd hynny’n gwneud i berson arall syrthio.* 21 Mae hi’n well peidio â bwyta cig nac yfed gwin na gwneud unrhyw beth sy’n gwneud i dy frawd syrthio.* 22 Mae’r hyn rwyt ti’n ei gredu am bethau o’r fath rhyngot ti a Duw. Byddi di’n hapus pan na fyddi di’n teimlo’n euog am wneud beth rwyt ti’n meddwl* sy’n iawn. 23 Ond os oes gan berson amheuon am fwyta, mae’n euog* yn barod os yw’n bwyta. Mae hynny oherwydd dydy beth mae’n ei wneud ddim wedi ei seilio ar ffydd. Mae unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud sydd ddim wedi ei seilio ar ffydd yn bechod.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu