Lefiticus
5 “‘Os bydd rhywun yn dyst i ddrwgweithred, neu’n dysgu amdani, ac yn clywed cyhoeddiad i roi tystiolaeth* ond yn dweud dim, fe fydd yn atebol am ei bechod.
2 “‘Neu os bydd rhywun yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, naill ai corff marw anifail gwyllt aflan, anifail domestig aflan, neu greadur aflan sy’n heidio, bydd ef yn aflan ac yn euog hyd yn oed os nad yw’n sylweddoli. 3 Neu os bydd rhywun yn cyffwrdd ag aflendid corfforol heb fod yn ymwybodol ohono—unrhyw beth a all ei wneud yn aflan—ac mae’n dod i wybod am y peth, yna fe fydd yn euog.
4 “‘Neu os bydd rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth—naill ai rhywbeth da neu ddrwg—ond yna mae’n sylweddoli ei fod wedi tyngu llw yn fyrbwyll, fe fydd yn euog.*
5 “‘Os bydd ef yn euog o wneud unrhyw un o’r pethau hyn, yna bydd rhaid iddo gyffesu ei bechod. 6 Bydd rhaid iddo hefyd gyflwyno offrwm dros euogrwydd o flaen Jehofa ar gyfer ei bechod, hynny yw, benyw o’r praidd, naill ai oen fenyw neu afr ifanc, fel offrwm dros bechod. Yna bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod.
7 “‘Ond, os nad ydy’r person hwnnw yn gallu fforddio dafad, bydd rhaid iddo fynd â dwy durtur at Jehofa, neu ddwy golomen ifanc, fel offrwm dros euogrwydd ar gyfer ei bechod, un fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg. 8 Dylai fynd â nhw at yr offeiriad, ac fe fydd yntau yn cyflwyno’r un ar gyfer yr offrwm dros bechod yn gyntaf, gan dorri ei phen wrth ei gwddf heb dorri’r pen i ffwrdd yn gyfan gwbl. 9 Yna fe fydd yn taenellu ychydig o waed yr offrwm dros bechod ar ochr yr allor, ond bydd gweddill y gwaed yn cael ei wasgu allan wrth droed yr allor. Mae’n offrwm dros bechod. 10 Bydd ef yn trin yr aderyn arall fel offrwm llosg yn ôl y drefn arferol; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.
11 “‘Nawr os nad ydy’r person hwnnw yn gallu fforddio dwy durtur na dwy golomen ifanc, bydd rhaid iddo gyflwyno degfed ran o effa* o’r blawd* gorau fel offrwm dros bechod. Ni ddylai ychwanegu olew ato na rhoi thus arno, gan ei fod yn offrwm dros bechod. 12 Dylai fynd â’r offrwm at yr offeiriad, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw ohono fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, ar ben offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân. Mae’n offrwm dros bechod. 13 Bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo. Bydd gweddill yr offrwm yn perthyn i’r offeiriad, yn union fel yr offrwm grawn.’”
14 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 15 “Os bydd rhywun yn anffyddlon i Dduw ac yn pechu’n anfwriadol drwy gamddefnyddio pethau sanctaidd Jehofa, dylai gyflwyno hwrdd* di-nam o’r praidd fel offrwm dros euogrwydd i Jehofa; bydd ei werth mewn siclau* arian yn cael ei osod yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 16 A bydd ef yn talu iawndal am ei fod wedi pechu yn erbyn y lle sanctaidd, gan ychwanegu pumed o’i werth ato. Fe fydd yn ei roi i’r offeiriad, a bydd yr offeiriad yn aberthu hwrdd* yr offrwm dros euogrwydd er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.
17 “Os bydd rhywun* yn pechu drwy wneud unrhyw beth mae Jehofa wedi gorchymyn iddo beidio â’i wneud, hyd yn oed os nad yw’n ymwybodol ohono, fe fydd yn dal yn euog a bydd yn atebol am ei bechod. 18 Dylai fynd â hwrdd* di-nam o’r praidd at yr offeiriad yn ôl y gwerth cywir, fel offrwm dros euogrwydd. Yna bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn iddo gael maddeuant am y camgymeriad anfwriadol a wnaeth heb wybod, a bydd Duw yn maddau iddo. 19 Mae’n offrwm dros euogrwydd. Mae ef yn bendant yn euog o bechu yn erbyn Jehofa.”