LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Corinthiaid 8
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Corinthiaid

      • Ynglŷn â bwyd a offrymir i eilunod (1-13)

        • Dim ond un Duw sydd ’na i ni (5, 6)

1 Corinthiaid 8:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2018, tt. 8-13

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2017, t. 29

1 Corinthiaid 8:3

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2019, t. 12

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2018, t. 4

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Corinthiaid 8:1-13

Y Cyntaf at y Corinthiaid

8 Nawr ynglŷn â bwyd sydd wedi ei offrymu i eilunod: Rydyn ni’n gwybod bod gynnon ni i gyd wybodaeth. Mae gwybodaeth yn chwyddo, ond mae cariad yn adeiladu. 2 Os oes rhywun yn meddwl ei fod yn gwybod rhywbeth, nid yw eto’n gwybod popeth y dylai ei wybod am y peth hwnnw. 3 Ond os ydy unrhyw un yn caru Duw, mae’n cael ei adnabod ganddo.

4 Nawr ynglŷn â bwyta bwyd sydd wedi ei offrymu i eilunod, rydyn ni’n gwybod bod eilun yn ddim byd o gwbl ac mai dim ond un Duw sydd. 5 Oherwydd, er bod ’na rai sy’n cael eu galw’n dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear, yn union fel mae llawer o “dduwiau” a llawer o “arglwyddi,” 6 mewn gwirionedd un Duw sydd i ni, sef y Tad, ac mae pob peth wedi dod oddi wrtho ef ac rydyn ninnau’n byw ar ei gyfer ef; ac un Arglwydd sydd, sef Iesu Grist, ac mae pob peth wedi dod trwyddo ef ac rydyn ninnau’n byw trwyddo ef.

7 Fodd bynnag, nid oes gan bawb y wybodaeth hon. Ond, oherwydd bod rhai wedi addoli’r eilun, maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n addoli eilun pan fyddan nhw’n bwyta bwyd a gafodd ei offrymu i eilun, ac oherwydd bod eu cydwybod yn wan, mae’n cael ei llygru. 8 Ond ni fydd bwyd yn dod â ni’n agosach at Dduw; dydyn ni ddim ar ein colled os nad ydyn ni’n bwyta, nac ar ein hennill os ydyn ni’n bwyta. 9 Ond parhewch i wylio nad yw eich hawl i ddewis, rywsut neu’i gilydd, yn troi’n garreg rwystr i’r rhai sy’n wan. 10 Oherwydd petai rhywun yn dy weld di, ti sydd â gwybodaeth, yn bwyta pryd o fwyd mewn teml eilunod, oni fydd cydwybod yr un hwnnw sy’n wan yn cael ei hannog i fwyta bwyd sydd wedi ei offrymu i eilunod? 11 Felly trwy dy wybodaeth di mae’r dyn sy’n wan yn cael ei niweidio, dy frawd y gwnaeth Crist farw drosto. 12 Pan fyddwch chi’n pechu yn erbyn eich brodyr yn y ffordd hon ac yn brifo eu cydwybod wan, rydych chi’n pechu yn erbyn Crist. 13 Felly os ydy bwyd yn gwneud i fy mrawd faglu, fydda i byth eto yn bwyta cig, fel na fydda i’n achosi i fy mrawd faglu.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu