Yn Ôl Ioan
21 Ar ôl hyn, ymddangosodd Iesu unwaith eto i’r disgyblion, wrth ymyl Môr Tiberias. Dyma sut gwnaeth ef ymddangos. 2 Roedd Simon Pedr, Tomos (a oedd yn cael ei alw yr Efaill), Nathanael o Gana Galilea, meibion Sebedeus, a dau arall o’i ddisgyblion, i gyd gyda’i gilydd. 3 Dywedodd Simon Pedr wrthyn nhw: “Rydw i’n mynd i bysgota.” Dywedon nhw wrtho: “Rydyn ni’n dod gyda ti.” Fe aethon nhw allan a mynd i mewn i’r cwch, ond yn ystod y noson honno ni wnaethon nhw ddal unrhyw beth.
4 Fodd bynnag, pan oedd hi’n dechrau gwawrio, roedd Iesu’n sefyll ar y traeth, ond doedd y disgyblion ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd yno. 5 Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Blant, oes gynnoch chi unrhyw beth* i’w fwyta?” Atebon nhw: “Nac oes!” 6 Dywedodd wrthyn nhw: “Taflwch y rhwyd ar yr ochr dde i’r cwch ac fe fyddwch chi’n dod o hyd i rai.” Felly dyma nhw’n taflu’r rhwyd, ond doedden nhw ddim yn gallu ei thynnu i mewn oherwydd bod cymaint o bysgod ynddi. 7 Yna dywedodd y disgybl roedd Iesu’n ei garu wrth Pedr: “Yr Arglwydd sydd yno!” Nawr pan glywodd Simon Pedr mai’r Arglwydd oedd yno, rhoddodd ei gôt amdano, oherwydd roedd yn noeth,* a neidiodd i mewn i’r môr. 8 Ond daeth y disgyblion eraill yn y cwch bach, yn llusgo’r rhwyd oedd yn llawn o bysgod, oherwydd doedden nhw ddim yn bell oddi wrth y tir, dim ond tua 300 troedfedd* i ffwrdd.
9 Pan ddaethon nhw i’r lan, fe welson nhw dân siarcol yno a physgod yn gorwedd arno, a bara. 10 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dewch â rhai o’r pysgod rydych chi newydd eu dal.” 11 Felly aeth Simon Pedr i mewn i’r cwch a thynnu’r rhwyd i’r lan a oedd yn llawn o bysgod mawr, 153 ohonyn nhw. Ac er bod ’na gymaint ohonyn nhw, wnaeth y rhwyd ddim rhwygo. 12 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dewch i fwyta eich brecwast.” Doedd yr un o’r disgyblion yn ddigon dewr i ofyn iddo: “Pwy wyt ti?” oherwydd eu bod nhw’n gwybod mai’r Arglwydd oedd ef. 13 Daeth Iesu a chymryd y bara a’i roi iddyn nhw, a gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod. 14 Dyma’r trydydd tro i Iesu ymddangos i’r disgyblion ar ôl iddo gael ei godi o’r meirw.
15 Ar ôl iddyn nhw orffen cael brecwast, dywedodd Iesu wrth Simon Pedr: “Simon fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Atebodd ef: “Ydw, Arglwydd, rwyt ti’n gwybod dy fod ti’n annwyl iawn imi.” Dywedodd ef wrtho: “Bwyda fy ŵyn.” 16 Wedyn, dywedodd wrtho am yr ail dro: “Simon fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” Atebodd ef: “Ydw, Arglwydd, rwyt ti’n gwybod dy fod ti’n annwyl iawn imi.” Dywedodd wrtho: “Bugeilia fy nefaid bach.” 17 Dywedodd wrtho y drydedd waith: “Simon fab Ioan, ydw i’n annwyl iti?” Aeth Pedr yn drist gan ei fod wedi gofyn iddo’r drydedd waith: “Ydw i’n annwyl iti?” Felly dywedodd wrtho: “Arglwydd, rwyt ti’n ymwybodol o bob peth; rwyt ti’n gwybod dy fod ti’n annwyl iawn imi.” Dywedodd Iesu wrtho: “Bwyda fy nefaid bach. 18 Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, pan oeddet ti’n ifanc, roeddet ti’n arfer dy wisgo dy hun ac yn cerdded o gwmpas ble bynnag roeddet ti eisiau. Ond pan fyddi di’n mynd yn hen, byddi di’n estyn dy ddwylo a bydd dyn arall yn dy wisgo di ac yn dy gario di lle dwyt ti ddim eisiau mynd.” 19 Dywedodd hyn er mwyn dangos drwy ba fath o farwolaeth y byddai’n gogoneddu Duw. Ar ôl iddo ddweud hyn, dywedodd wrtho: “Dal ati i fy nilyn i.”
20 Trodd Pedr a gweld y disgybl roedd Iesu’n ei garu yn dilyn, yr un a oedd wedi pwyso’n ôl ar frest Iesu yn ystod y swper a dweud: “Arglwydd, pwy yw’r un sy’n dy fradychu di?” 21 Felly pan welodd Pedr ef, dywedodd wrth Iesu: “Arglwydd, beth am y dyn hwn?” 22 Dywedodd Iesu wrtho: “Os ydw i’n dymuno iddo aros nes imi ddod, beth yw hynny i ti? Dal di ati i fy nilyn i.” 23 Felly aeth y gair ar led ymhlith y brodyr na fyddai’r disgybl hwn yn marw. Fodd bynnag, ni wnaeth Iesu ddweud wrtho na fyddai’n marw, ond fe ddywedodd: “Os ydw i’n dymuno iddo aros nes imi ddod, beth yw hynny i ti?”
24 Hwn yw’r disgybl sy’n rhoi’r dystiolaeth hon am y pethau hyn ac sydd wedi ysgrifennu’r pethau hyn, ac rydyn ni’n gwybod bod ei dystiolaeth yn wir.
25 Yn wir, mae ’na hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai’r pethau hyn yn cael eu hysgrifennu’n llawn, dydw i ddim yn meddwl y byddai’r byd ei hun yn gallu dal y sgroliau a fyddai’n cael eu hysgrifennu.