Jona
2 Yna gweddïodd Jona ar Jehofa ei Dduw o fol y pysgodyn, 2 gan ddweud:
“Galwais ar Jehofa yn fy helbul, a gwnaeth ef fy ateb i.
Gwaeddais am help allan o ddyfnderoedd y Bedd.*
Gwnest ti glywed fy llais.
3 Pan wnest ti fy nhaflu i’r dyfnderoedd, i ganol y môr agored,
Caeodd y cerrynt amdana i.
Torrodd dy holl donnau cryf dros fy mhen.
4 A dywedais, ‘Rydw i wedi cael fy ngyrru allan o dy olwg!
Sut galla i edrych ar dy deml sanctaidd unwaith eto?’
5 Roedd y dŵr yn fy ysgubo i ffwrdd ac yn bygwth fy mywyd;
Roedd y dyfroedd yn cau amdana i.
Roedd gwymon wedi ei lapio o gwmpas fy mhen.
6 Suddais i waelodion y mynyddoedd.
Roedd giatiau’r ddaear am gau y tu ôl imi am byth.
Ond dest ti â fi i fyny o’r pydew yn fyw, O Jehofa fy Nuw.
7 Pan oedd fy mywyd* ar drai,* Jehofa oedd yr Un roeddwn i’n ei gofio.
Yna daeth fy ngweddi atat ti, i mewn i dy deml sanctaidd.
8 Mae’r rhai sy’n addoli eilunod diwerth yn cefnu ar yr Un sy’n dangos cariad ffyddlon tuag atyn nhw.*
9 Ond bydda i’n dy glodfori, ac yn aberthu i ti.
Bydda i’n talu beth rydw i wedi ei addo.
Bydd achubiaeth yn dod oddi wrthot ti, O Jehofa.”
10 Ymhen amser, rhoddodd Jehofa orchymyn, a dyma’r pysgodyn yn chwydu Jona allan ar dir sych.