LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Effesiaid 3
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Effesiaid

      • Y gyfrinach gysegredig i gynnwys pobl y cenhedloedd (1-13)

        • Pobl y cenhedloedd yn gyd-etifeddion â Christ (6)

        • Pwrpas tragwyddol Duw (11)

      • Gweddi er mwyn i’r Effesiaid gael dirnadaeth (14-21)

Effesiaid 3:7

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2016, t. 22

Effesiaid 3:18

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2023, tt. 18-23

Effesiaid 3:20

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2016, t. 26

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Effesiaid 3:1-21

At yr Effesiaid

3 Am y rheswm hwn rydw i, Paul, yn y carchar oherwydd Crist Iesu er eich mwyn chi, bobl y cenhedloedd— 2 yn wir, fe glywsoch chi fy mod i wedi derbyn y cyfrifoldeb o’ch helpu chi i elwa ar garedigrwydd rhyfeddol Duw, 3 hynny yw, mai trwy ddatguddiad y ces i wybod am y gyfrinach gysegredig, yn union fel yr ysgrifennais o’r blaen am hyn mewn ychydig eiriau. 4 Felly wrth ichi ddarllen hyn, fe fyddwch chi’n sylweddoli fy mod i’n deall y gyfrinach gysegredig am y Crist. 5 Yn y cenedlaethau gynt, ni wnaeth Duw ddatguddio’n glir y gyfrinach hon i feibion dynion fel y mae nawr wedi ei datguddio i’w apostolion sanctaidd a’i broffwydi drwy’r ysbryd, 6 hynny yw, dylai pobl y cenhedloedd, mewn undod â Christ Iesu a thrwy’r newyddion da, fod yn gyd-etifeddion ac yn gyd-aelodau o’r corff ac yn gyfranogwyr gyda ni o’r addewid. 7 Fe ddes i’n weinidog i hyn yn ôl caredigrwydd rhyfeddol Duw a roddwyd i mi am ddim trwy gyfrwng ei rym.

8 I mi, dyn sy’n llai na’r lleiaf o’r holl rai sanctaidd, y rhoddwyd y caredigrwydd rhyfeddol hwn, er mwyn imi gyhoeddi i’r cenhedloedd y newyddion da am gyfoeth di-ben-draw’r Crist 9 ac er mwyn imi wneud i bawb weld sut mae’r gyfrinach gysegredig yn cael ei gweinyddu, cyfrinach sydd wedi cael ei chuddio drwy’r oesoedd yn Nuw, yr un a greodd bob peth. 10 Digwyddodd hyn er mwyn i’r llywodraethau a’r awdurdodau yn y llefydd nefol gael gwybod nawr, drwy’r gynulleidfa, am holl agweddau doethineb Duw. 11 Mae hyn yn unol â’r pwrpas tragwyddol y gwnaeth ef ei ffurfio yn gysylltiedig â’r Crist, Iesu ein Harglwydd, 12 yr un rydyn ni’n gallu siarad yn agored trwyddo, ac rydyn ni’n rhydd i weddïo’n hyderus drwy ein ffydd ynddo ef. 13 Felly rydw i’n gofyn ichi beidio â rhoi’r gorau iddi o achos fy nhreialon ar eich cyfer, oherwydd eu bod nhw’n golygu gogoniant ichi.

14 Am y rheswm hwn, rydw i’n plygu fy ngliniau mewn gweddi i’r Tad, 15 yr un mae pob teulu yn y nef ac ar y ddaear wedi derbyn ei enw oddi wrtho. 16 Rydw i’n gweddïo y bydd Duw, drwy ei ogoniant mawr, yn eich gwneud chi’n rymus ar y tu mewn gyda nerth drwy ei ysbryd, 17 ac y bydd Crist, drwy eich ffydd, yn byw yn eich calonnau â chariad. Rydw i’n gweddïo ichi gael eich gwreiddio a’ch sefydlu ar y sylfaen gadarn, 18 er mwyn ichi, ynghyd â’r holl rai sanctaidd, allu deall yn llawn beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder, 19 ac ichi wybod am gariad y Crist, sydd y tu hwnt i wybodaeth, er mwyn ichi gael eich llenwi â’r holl rinweddau mae Duw’n eu rhoi.

20 Mae Duw, yn ôl ei rym sy’n gweithredu ynon ni, yn gallu gwneud mwy na’r hyn sydd y tu hwnt i bob peth rydyn ni’n gofyn amdano neu’n ei ddychmygu. 21 Felly, mae ef yn haeddu’r gogoniant drwy gyfrwng y gynulleidfa a thrwy gyfrwng Crist Iesu, i bob cenhedlaeth byth bythoedd. Amen.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu