LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Colosiaid 4
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Colosiaid

      • Cyngor i feistri (1)

      • ‘Dal ati i weddïo’ (2-4)

      • Cerdded mewn doethineb wrth ddelio â’r rhai ar y tu allan (5, 6)

      • Cyfarchion olaf (7-18)

Colosiaid 4:5

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “gan brynu’r amser penodedig.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    2/2023, tt. 18-19

Colosiaid 4:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 22

Colosiaid 4:10

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 118

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Colosiaid 4:1-18

At y Colosiaid

4 Chi feistri, dylech chi drin eich caethweision mewn ffordd gyfiawn a theg, gan wybod bod gynnoch chithau hefyd Feistr yn y nef.

2 Daliwch ati i weddïo, ac wrth ichi wneud hynny, arhoswch yn effro a byddwch yn ddiolchgar. 3 Ar yr un pryd, gweddïwch hefyd droston ni, fel bod Duw yn agor drws i’r gair er mwyn inni allu cyhoeddi’r gyfrinach gysegredig am y Crist, y gyfrinach rydw i yn y carchar drosti, 4 ac fel fy mod i’n gallu ei chyhoeddi mor eglur ag y dylwn i.

5 Parhewch i gerdded mewn doethineb wrth ddelio â’r rhai ar y tu allan, gan ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau.* 6 Gadewch i’ch geiriau fod yn garedig drwy’r amser, wedi eu blasu â halen, fel y byddwch chi’n gwybod sut y dylech chi ateb pob person.

7 Bydd Tychicus, fy mrawd annwyl a gweinidog ffyddlon a chyd-gaethwas yn yr Arglwydd, yn rhannu’r holl newyddion amdana i gyda chi. 8 Rydw i’n ei anfon atoch chi er mwyn ichi wybod sut rydyn ni ac er mwyn iddo gysuro eich calonnau. 9 Mae ef yn dod gydag Onesimus, fy mrawd ffyddlon ac annwyl, sy’n dod o’ch ardal chi; byddan nhw’n sôn wrthoch chi am yr holl bethau sy’n digwydd yma.

10 Mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn anfon ei gyfarchion, a Marc hefyd, cefnder Barnabas (yr un gwnaethon ni eich cyfarwyddo i’w groesawu os yw’n dod atoch chi), 11 ac Iesu sy’n cael ei alw’n Jwstus. Maen nhw ymhlith y rhai sydd wedi cael eu henwaedu. Dim ond y nhw sy’n gyd-weithwyr imi dros Deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi dod yn gysur mawr imi. 12 Mae Epaffras, caethwas i Grist Iesu sydd o’ch plith chi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Y mae’n wastad yn ymdrechu ar eich rhan yn ei weddïau, er mwyn ichi allu parhau i fod yn aeddfed a chredu’n llwyr yn holl ewyllys Duw. 13 Oherwydd rydw i’n tystiolaethu ei fod yn gwneud ymdrech fawr ar eich rhan chi ac ar ran y rhai yn Laodicea a Hierapolis.

14 Mae Luc, y meddyg annwyl, yn anfon ei gyfarchion atoch chi, a Demas hefyd. 15 Cofiwch fi at y brodyr yn Laodicea ac at Nymffa ac at y gynulleidfa sydd yn ei thŷ. 16 Ac ar ôl i’r llythyr hwn gael ei ddarllen yn eich plith, trefnwch iddo hefyd gael ei ddarllen yng nghynulleidfa’r Laodiceaid ac i chithau hefyd ddarllen y llythyr gwnes i ei anfon at Laodicea. 17 Hefyd, dywedwch wrth Archipus: “Rho dy sylw i’r weinidogaeth gwnest ti ei derbyn yn yr Arglwydd, er mwyn ei chyflawni.”

18 Mae’r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod i mewn cadwyni. Rydw i’n gweddïo y bydd caredigrwydd rhyfeddol Duw gyda chi.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu