Y Cyntaf at y Thesaloniaid
1 Paul, Silfanus,* a Timotheus, at gynulleidfa y Thesaloniaid sy’n perthyn i Dduw y Tad a’r Arglwydd Iesu Grist:
Rydyn ni’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch.
2 Rydyn ni bob amser yn diolch i Dduw pan fyddwn ni’n sôn amdanoch chi i gyd yn ein gweddïau, 3 oherwydd ein bod ni’n wastad yn cofio am eich gwaith ffyddlon, eich llafur cariadus, a’ch dyfalbarhad o achos eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist ym mhresenoldeb ein Duw a’n Tad. 4 Rydyn ni’n gwybod bod Duw wedi eich dewis chi, chi frodyr sy’n annwyl iddo, 5 oherwydd ni ddaeth y newyddion da rydyn ni’n eu pregethu atoch chi mewn gair yn unig, ond hefyd mewn nerth a gydag ysbryd glân a gydag argyhoeddiad cryf, yn union fel rydych chi’n gwybod sut gwnaethon ni ymddwyn yn eich plith, er eich mwyn chi. 6 A gwnaethoch chi ein hefelychu ni a’r Arglwydd, gan eich bod chi wedi derbyn y gair o dan erledigaeth fawr gyda llawenydd yr ysbryd glân, 7 fel y daethoch chi’n esiampl i’r holl gredinwyr ym Macedonia ac yn Achaia.
8 Y gwir yw, nid yn unig y mae gair Jehofa* wedi atseinio oddi wrthoch chi ym Macedonia ac Achaia ond mae eich ffydd yn Nuw wedi mynd ar led ym mhobman, fel nad oes rhaid i ninnau ddweud unrhyw beth. 9 Oherwydd maen nhw’n dal i sôn am y tro cyntaf inni gwrdd â chi ac am sut y gwnaethoch chi droi at Dduw oddi wrth eich eilunod i wasanaethu Duw byw a gwir, 10 ac i ddisgwyl am ei Fab o’r nefoedd, yr un y gwnaeth ef ei godi o’r meirw, sef Iesu, sy’n ein hachub ni rhag y dicter sy’n dod.