At yr Hebreaid
8 Nawr, prif bwynt yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ydy hyn: Dyma’r math o archoffeiriad sydd gynnon ni, ac mae ef wedi eistedd ar law dde gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd, 2 yn weinidog y lle sanctaidd a’r wir babell, a gafodd ei gosod gan Jehofa, nid dynion. 3 Oherwydd mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau; felly roedd hi’n angenrheidiol i Iesu hefyd gael rhywbeth i’w offrymu. 4 Petai ef ar y ddaear, ni fyddai’n offeiriad, gan fod ’na eisoes ddynion sy’n offrymu’r rhoddion yn ôl y Gyfraith. 5 Mae’r dynion hyn yn offrymu gwasanaeth cysegredig sy’n enghraifft o’r pethau nefol; yn union fel y cafodd Moses y gorchymyn dwyfol pan oedd ar fin codi’r babell: “Gwna’n siŵr dy fod ti’n gwneud pob peth yn ôl y patrwm a gafodd ei ddangos iti yn y mynydd.” 6 Ond nawr mae Iesu wedi cael gweinidogaeth sy’n fwy ardderchog oherwydd ei fod hefyd yn ganolwr cyfamod cyfatebol sy’n llawer gwell, sydd wedi cael ei sefydlu’n gyfreithiol ar addewidion gwell.
7 Petai’r cyfamod cyntaf hwnnw wedi bod yn ddi-fai, byddai’r ail un wedi bod yn ddiangen. 8 Oherwydd mae ef yn gweld bai ar y bobl wrth iddo ddweud: “‘Edrychwch! Mae’r dyddiau’n dod,’ meddai Jehofa, ‘pan fydda i’n gwneud cyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. 9 Fydd hi ddim yn debyg i’r cyfamod a wnes i â’u cyndadau ar y dydd y gwnes i afael yn eu llaw i’w harwain nhw allan o wlad yr Aifft, oherwydd wnaethon nhw ddim aros yn fy nghyfamod, felly gwnes i stopio gofalu amdanyn nhw,’ meddai Jehofa.
10 “‘Oherwydd dyma’r cyfamod bydda i’n ei wneud â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,’ meddai Jehofa. ‘Bydda i’n rhoi fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu hysgrifennu nhw yn eu calonnau. A bydda i’n dod yn Dduw iddyn nhw, a byddan nhw’n dod yn bobl i mi.
11 “‘Ac ni fydd yr un ohonyn nhw bellach yn dweud wrth ei gyd-ddinesydd a’i frawd: “Rhaid ichi adnabod Jehofa!” Oherwydd byddan nhw i gyd yn fy adnabod i, o’r lleiaf i’r mwyaf ohonyn nhw. 12 Oherwydd bydda i’n drugarog wrth eu gweithredoedd anghyfiawn, ac ni fydda i’n dwyn i gof eu pechodau bellach.’”
13 Wrth iddo ddweud “cyfamod newydd,” mae ef wedi disodli’r un blaenorol. Nawr mae’r hyn sydd wedi cael ei ddisodli ac sy’n mynd yn hen ar fin diflannu.