Exodus
27 “Byddi di’n gwneud allor allan o goed acasia; fe fydd yn bum cufydd* o hyd a phum cufydd o led. Dylai’r allor fod yn sgwâr ac yn dri chufydd o uchder. 2 Byddi di’n gwneud cyrn ar y pedair cornel; bydd y cyrn yn rhan o’r allor, a byddi di’n gorchuddio’r allor â chopr. 3 Byddi di’n gwneud bwcedi er mwyn clirio’r lludw,* ynghyd â rhawiau, powlenni, ffyrc, a llestri i ddal tân, a byddi di’n creu’r holl offer hyn allan o gopr. 4 Byddi di’n creu gratin ar gyfer yr allor, rhwydwaith o gopr, ac ar y rhwydwaith hwnnw byddi di’n creu pedair modrwy gopr ar y pedair cornel. 5 Byddi di’n ei osod o dan rimyn yr allor, a bydd y rhwydwaith yn mynd hanner ffordd i lawr y tu mewn i’r allor. 6 Byddi di’n ffurfio polion allan o goed acasia ar gyfer yr allor ac yn eu gorchuddio nhw â chopr. 7 Bydd y polion yn mynd trwy’r modrwyau fel bod y polion ar ddwy ochr yr allor pan fydd yn cael ei chario. 8 Byddi di’n creu’r allor i edrych fel cist wag, gan ddefnyddio planciau. Dylai’r allor gael ei chreu yn union fel y dangosodd Ef iti ar y mynydd.
9 “Byddi di’n creu cwrt y tabernacl. Ar gyfer yr ochr ddeheuol, sy’n wynebu’r de, bydd gan y cwrt lenni wedi eu gwneud o liain main, yn hongian 100 cufydd o hyd ar un ochr. 10 Bydd ganddo 20 colofn ac 20 sylfaen gopr.* Bydd bachau a chysylltwyr* y colofnau yn cael eu gwneud allan o arian. 11 Bydd y llenni a fydd yn hongian ar yr ochr ogleddol hefyd yn 100 cufydd o hyd, ynghyd â’u 20 colofn a’u 20 sylfaen gopr,* gyda bachau a chysylltwyr* arian ar gyfer y colofnau. 12 Bydd y llenni a fydd yn hongian ar yr ochr orllewinol yn mesur 50 cufydd ar draws lled y cwrt, gyda deg colofn a deg sylfaen.* 13 Bydd lled y cwrt ar yr ochr ddwyreiniol i gyfeiriad y wawr yn 50 cufydd. 14 Fe fydd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian ar un ochr, gyda thair colofn a thair sylfaen.* 15 Ac ar yr ochr arall, fe fydd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian, gyda thair colofn a thair sylfaen.*
16 “Dylai mynedfa’r cwrt gael sgrin* 20 cufydd o hyd wedi ei gwneud o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main wedi eu gweu gyda’i gilydd, gyda phedair colofn a phedair sylfaen.* 17 Bydd gan bob colofn o amgylch y cwrt fachau a chysylltwyr arian, ond bydd eu sylfeini* yn cael eu gwneud allan o gopr. 18 Dylai’r cwrt fod yn 100 cufydd o hyd, 50 cufydd o led, a dylai’r llenni o amgylch y cwrt fod yn 5 cufydd o uchder, wedi eu gwneud o liain main, gyda sylfeini copr.* 19 Bydd rhaid i’r holl offer a’r eitemau sy’n cael eu defnyddio i wasanaethu yn y tabernacl, gan gynnwys pegiau’r pebyll a holl begiau’r cwrt, gael eu gwneud allan o gopr.
20 “Gorchmynna i’r Israeliaid ddod ag olew olewydd pur atat ti ar gyfer y goleuadau, fel bydd y lampau’n parhau i losgi drwy’r adeg. 21 Y tu mewn i babell y cyfarfod, y tu allan i’r llen sydd wrth ymyl y Dystiolaeth, bydd Aaron a’i feibion yn trefnu i gadw’r lampau’n llosgi o flaen Jehofa o fachlud yr haul tan y bore. Mae hyn yn ddeddf barhaol dylai’r Israeliaid ei chadw drwy eu holl genedlaethau.