Exodus
26 “Dylet ti wneud y tabernacl gan ddefnyddio deg darn o ddefnydd wedi ei wneud o liain main, edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad. Dylet ti hefyd frodio lluniau o gerwbiaid arnyn nhw. 2 Bydd pob darn o ddefnydd yn 28 cufydd* o hyd a 4 cufydd o led. Mae’n rhaid i’r darnau o ddefnydd i gyd fod yr un maint. 3 Cysyllta bum darn o ddefnydd at ei gilydd i greu un darn mawr o ddefnydd, a gwna’r un peth i’r pum darn arall o ddefnydd fel bod ’na ddau ddarn mawr. 4 Ar bob darn mawr o ddefnydd, ar yr ochr lle mae’r darn o ddefnydd yn gorffen, mae’n rhaid iti wnïo dolenni o edau las fel bod y ddau ddarn yn gallu cael eu cysylltu. 5 Byddi di’n creu 50 dolen ar ymyl un darn mawr o ddefnydd a 50 dolen ar ymyl y darn mawr arall o ddefnydd, fel eu bod nhw gyferbyn â’i gilydd lle maen nhw’n cysylltu. 6 Dylet ti greu 50 bachyn aur a chysylltu’r darnau mawr o ddefnydd at ei gilydd â’r bachau hynny, a bydd y tabernacl yn un uned.
7 “Byddi di hefyd yn creu darnau o ddefnydd allan o flew geifr i roi dros y tabernacl. Byddi di’n creu 11 darn o ddefnydd. 8 Bydd pob darn o ddefnydd yn 30 cufydd o hyd a 4 cufydd o led. Mae’n rhaid i’r 11 darn o ddefnydd fod yr un maint. 9 Dylet ti gysylltu pum darn o ddefnydd at ei gilydd i greu un darn mawr a gwneud yr un fath â’r chwe darn arall o ddefnydd, ac mae’n rhaid iti blygu chweched rhan y darn mawr hwnnw yn ôl arno’i hun ar flaen y babell. 10 A dylet ti roi 50 dolen ar hyd ymyl un darn mawr o ddefnydd, lle mae’r darn o ddefnydd yn gorffen, a 50 dolen ar hyd ymyl y darn mawr arall o ddefnydd lle maen nhw’n cysylltu. 11 Dylet ti wneud 50 bachyn copr a’u bachu nhw ar y dolenni er mwyn cysylltu’r babell at ei gilydd a’i gwneud yn un uned. 12 Bydd gweddill y defnydd yn hongian dros gefn y tabernacl, hynny yw, hanner y darn mawr o ddefnydd. 13 Bydd y defnydd sy’n hongian dros ochrau’r tabernacl yn gufydd yn hirach na’r defnydd sydd oddi tano, er mwyn ei orchuddio.
14 “Byddi di hefyd yn gwneud gorchudd ar gyfer y babell allan o grwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, a gorchudd o grwyn morloi dros hynny.
15 “Ar gyfer ochrau’r tabernacl byddi di’n gwneud fframiau o goed acasia ac yn eu gosod nhw i sefyll yn syth i fyny. 16 Dylai pob ffrâm y tabernacl fod yn ddeg cufydd o uchder a chufydd a hanner o led. 17 Bydd gan bob ffrâm ddau denon* sydd wedi eu cysylltu â’i gilydd. Dyna sut dylet ti wneud holl fframiau’r tabernacl. 18 Dylet ti greu 20 ffrâm ar gyfer ochr ddeheuol y tabernacl, yn wynebu’r de.
19 “Byddi di’n creu 40 sylfaen arian* i’w rhoi o dan yr 20 ffrâm: dwy sylfaen* o dan bob ffrâm ar gyfer ei dau denon. 20 Ar gyfer ochr arall y tabernacl, yr ochr ogleddol, gwna 20 ffrâm 21 a gwna 40 sylfaen arian,* dwy sylfaen* o dan bob ffrâm. 22 Ar gyfer cefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, byddi di’n gwneud chwe ffrâm. 23 Byddi di’n gwneud dwy ffrâm a fydd yn ffurfio corneli cefn y tabernacl. 24 Dylai’r fframiau hyn gael eu gwneud allan o ddau ddarn o bren sy’n mynd o’r gwaelod i’r top. Dylen nhw gael eu cysylltu wrth ymyl y fodrwy gyntaf. Bydd y ddwy ffrâm yr un fath, a byddan nhw’n ffurfio’r ddwy gornel. 25 A bydd ’na wyth ffrâm ac 16 sylfaen arian,* dwy sylfaen* o dan bob ffrâm.
26 “Byddi di’n ffurfio polion o goed acasia, pump ar gyfer y fframiau ar un ochr y tabernacl, 27 pum polyn ar gyfer y fframiau ar ochr arall y tabernacl, a phum polyn ar gyfer y fframiau ar ochr orllewinol y tabernacl, sef y cefn. 28 Dylai’r polyn sy’n rhedeg ar draws canol y ffrâm estyn o un pen i’r llall.
29 “Byddi di’n gorchuddio’r fframiau ag aur, a byddi di’n creu modrwyau aur er mwyn dal y polion, a byddi di’n gorchuddio’r polion ag aur. 30 Mae’n rhaid iti roi’r tabernacl at ei gilydd yn ôl y cynllun a gafodd ei ddangos iti ar y mynydd.
31 “Dylet ti wneud llen o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. Bydd lluniau o gerwbiaid yn cael eu brodio ar y llen. 32 Byddi di’n hongian y llen ar bedair colofn o acasia wedi eu gorchuddio ag aur. Bydd bachau’r colofnau* yn cael eu gwneud allan o aur. Bydd y colofnau’n cael eu gosod ar bedair sylfaen arian.* 33 Byddi di’n hongian y llen o dan y bachau ac yn rhoi arch y Dystiolaeth y tu ôl i’r llen. Bydd y llen yn gwahanu’r Sanctaidd oddi wrth y Mwyaf Sanctaidd. 34 Mae’n rhaid iti roi’r caead dros arch y Dystiolaeth yn y Mwyaf Sanctaidd.
35 “Byddi di’n rhoi’r bwrdd o flaen y llen, gyda’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl; a byddi di’n rhoi’r bwrdd ar yr ochr ogleddol. 36 Byddi di’n gwneud sgrin* ar gyfer mynedfa’r babell allan o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main wedi eu gweu gyda’i gilydd. 37 Byddi di’n gwneud pum colofn o acasia ar gyfer y sgrin* ac yn eu gorchuddio nhw ag aur. Bydd y bachau’n cael eu gwneud o aur, a byddi di’n castio pum sylfaen gopr* ar eu cyfer nhw.