Numeri
3 Nawr y rhain oedd disgynyddion Aaron a Moses ar yr adeg pan siaradodd Jehofa â Moses ar Fynydd Sinai. 2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf-anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 3 Dyma enwau meibion Aaron, y rhai a oedd wedi cael eu penodi i wasanaethu fel offeiriaid. 4 Ond, bu farw Nadab ac Abihu o flaen Jehofa pan wnaethon nhw offrymu tân anghyfreithlon o flaen Jehofa yn anialwch Sinai, a doedd ganddyn nhw ddim meibion. Ond parhaodd Eleasar ac Ithamar i wasanaethu fel offeiriaid ynghyd ag Aaron eu tad.
5 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 6 “Tyrd â llwyth Lefi ymlaen i sefyll o flaen Aaron yr offeiriad, a byddan nhw’n helpwyr iddo. 7 Dylen nhw gyflawni eu cyfrifoldebau tuag ato ef a thuag at y gynulleidfa gyfan o flaen pabell y cyfarfod drwy wneud eu gwaith sy’n gysylltiedig â’r tabernacl. 8 Mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar ôl holl offer pabell y cyfarfod a gofalu am eu cyfrifoldebau tuag at yr Israeliaid drwy gyflawni’r gwasanaethau sy’n ymwneud â’r tabernacl. 9 Dylet ti roi’r Lefiaid i Aaron a’i feibion. Maen nhw wedi eu haseinio o blith yr Israeliaid i fod yn helpwyr iddo. 10 Dylet ti benodi Aaron a’i feibion, a dylen nhw ofalu am eu dyletswyddau fel offeiriaid, a dylai unrhyw un arall* sy’n dod yn agos gael ei roi i farwolaeth.”
11 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 12 “Edrycha! Rydw i’n cymryd y Lefiaid o blith yr Israeliaid yn lle pob cyntaf-anedig, a bydd y Lefiaid yn eiddo i mi. 13 Oherwydd mae pob cyntaf-anedig yn eiddo i mi. Ar y diwrnod y gwnes i daro pob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, gwnes i neilltuo pob cyntaf-anedig o blith Israel, yn ddyn neu’n anifail, i fi fy hun. Byddan nhw’n dod yn eiddo imi. Fi ydy Jehofa.”
14 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses yn anialwch Sinai, gan ddweud: 15 “Cofrestra feibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. Dylet ti gofrestru pob gwryw sy’n fis oed neu’n hŷn.” 16 Felly gwnaeth Moses eu cofrestru nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo. 17 Dyma oedd enwau meibion Lefi: Gerson, Cohath, a Merari.
18 Nawr dyma oedd enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd: Libni a Simei.
19 Meibion Cohath yn ôl eu teuluoedd oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.
20 Meibion Merari yn ôl eu teuluoedd oedd Mali a Musi.
Y rhain oedd y teuluoedd a’r grwpiau o deuluoedd a oedd yn ddisgynyddion i Lefi.
21 O Gerson daeth teulu Libni a theulu Simei. Y rhain oedd teuluoedd y Gersoniaid. 22 Cyfanswm eu holl wrywod a oedd yn fis oed neu’n hŷn a gafodd eu cofrestru oedd 7,500. 23 Roedd teuluoedd y Gersoniaid yn gwersylla y tu ôl i’r tabernacl i gyfeiriad y gorllewin. 24 Eliasaff fab Lael oedd y pennaeth ar grwpiau o deuluoedd y Gersoniaid. 25 Cyfrifoldeb meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod oedd gofalu am y tabernacl a’r babell, ei orchudd, y sgrin* ar gyfer mynedfa pabell y cyfarfod, 26 llenni’r cwrt, y sgrin* ar gyfer mynedfa’r cwrt sydd o amgylch y tabernacl a’r allor, rhaffau’r* babell, a’r holl wasanaeth sy’n gysylltiedig â’r rhain.
27 O Cohath daeth teulu Amram, teulu Ishar, teulu Hebron, a theulu Ussiel. Y rhain oedd teuluoedd y Cohathiaid. 28 Cyfanswm yr holl wrywod a oedd yn fis oed neu’n hŷn oedd 8,600. Roedden nhw’n gyfrifol am ofalu am y lle sanctaidd. 29 Roedd teuluoedd y Cohathiaid yn gwersylla ar ochr ddeheuol y tabernacl. 30 Elisaffan fab Ussiel oedd y pennaeth ar grwpiau o deuluoedd y Cohathiaid. 31 Eu cyfrifoldeb nhw oedd gofalu am yr Arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, yr offer a oedd yn cael eu defnyddio i wasanaethu yn y lle sanctaidd, y sgrin,* a’r holl wasanaeth sy’n gysylltiedig â’r rhain.
32 Prif bennaeth y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, a oedd yn arolygu’r rhai a oedd yn gofalu am y lle sanctaidd.
33 O Merari daeth teulu Mali a theulu Musi. Y rhain oedd teuluoedd Merari. 34 Cyfanswm yr holl wrywod a oedd yn fis oed neu’n hŷn a gafodd eu cofrestru oedd 6,200. 35 Suriel fab Abihail oedd y pennaeth ar grwpiau o deuluoedd Merari. Roedden nhw’n gwersylla ar ochr ogleddol y tabernacl. 36 Roedd y Merariaid yn gyfrifol am fframiau’r tabernacl, ei bolion, ei golofnau, ei sylfeini,* ei holl offer, a’r holl wasanaeth a oedd yn gysylltiedig â’r rhain, 37 yn ogystal â’r colofnau a oedd yr holl ffordd o amgylch y cwrt a’i sylfeini,* pegiau’r babell, a rhaffau’r* babell.
38 Roedd Moses ac Aaron a’i feibion yn gwersylla o flaen y tabernacl, i gyfeiriad y dwyrain o flaen pabell y cyfarfod i gyfeiriad y wawr. Nhw oedd yn gyfrifol am ofalu am y cysegr—dyna oedd eu cyfrifoldeb ar ran yr Israeliaid. Byddai unrhyw un arall* a oedd yn dod yn agos yn cael ei roi i farwolaeth.
39 Cafodd 22,000 o Lefiaid gwryw a oedd yn fis oed neu’n hŷn eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd gan Moses ac Aaron ar orchymyn Jehofa.
40 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cofrestra bob mab cyntaf-anedig o blith yr Israeliaid sy’n fis oed neu’n hŷn. Cyfra nhw, a gwna restr o’u henwau. 41 Mae’n rhaid iti neilltuo’r Lefiaid i mi—fi ydy Jehofa—yn lle pob mab cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid, a neilltua anifeiliaid y Lefiaid yn lle holl anifeiliaid cyntaf-anedig yr Israeliaid.” 42 Yna dyma Moses yn cofrestru pob cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo. 43 Nifer yr holl feibion cyntaf-anedig a oedd yn fis oed neu’n hŷn a oedd wedi eu cofrestru yn ôl eu henwau oedd 22,273.
44 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 45 “Neilltua’r Lefiaid i mi yn lle pob mab cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid, a neilltua anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw, a bydd y Lefiaid yn eiddo i mi. Fi ydy Jehofa. 46 Mae ’na 273 yn fwy o feibion cyntaf-anedig yr Israeliaid nag o Lefiaid. Er mwyn prynu’r meibion cyntaf-anedig ychwanegol hyn yn ôl, 47 mae’n rhaid iti gasglu pum sicl* ar gyfer pob unigolyn, yn ôl sicl y lle sanctaidd.* Mae sicl yn gyfartal ag 20 gera.* 48 Dylet ti roi’r arian i Aaron a’i feibion i dalu am y rhai ychwanegol.” 49 Felly casglodd Moses yr arian hwn i brynu’n ôl y rhai a oedd yn ychwanegol i nifer y Lefiaid. 50 Casglodd yr arian hwn a oedd yn dâl ar gyfer meibion cyntaf-anedig yr Israeliaid, ac roedd ’na 1,365 sicl, yn cyfateb i sicl y lle sanctaidd. 51 Yna, rhoddodd Moses yr arian i Aaron a’i feibion yn ôl gair* Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.