At yr Hebreaid
9 Roedd gan y cyfamod blaenorol ofynion cyfreithiol ar gyfer gwasanaeth cysegredig a’i le sanctaidd ar y ddaear. 2 Oherwydd fe gafodd y rhan gyntaf o’r babell ei chodi, lle roedd y lamp ar ei stand a’r bwrdd a’r bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw;* ac mae’n cael ei alw Y Lle Sanctaidd. 3 Ond y tu ôl i’r ail len roedd y rhan o’r babell sy’n cael ei alw Y Mwyaf Sanctaidd. 4 Yno roedd ’na lestr* aur ar gyfer llosgi arogldarth ac arch y cyfamod wedi ei gorchuddio’n llwyr ag aur, ac y tu mewn iddi roedd jar aur yn cynnwys y manna, a ffon Aaron a wnaeth flaguro, a llechau’r cyfamod; 5 ac uwch ei phen roedd y cerwbiaid gogoneddus yn cysgodi’r caead.* Ond nid nawr ydy’r amser i siarad yn fanwl am y pethau hyn.
6 Ar ôl i’r pethau yma gael eu trefnu fel hyn, mae’r offeiriaid yn mynd i mewn i’r rhan gyntaf o’r babell yn rheolaidd er mwyn cyflawni’r gwasanaethau cysegredig; 7 ond mae’r archoffeiriad yn mynd i mewn ar ei ben ei hun i’r ail ran unwaith y flwyddyn, nid heb waed, sy’n cael ei offrymu drosto ef ei hun a thros bechodau’r bobl a gafodd eu cyflawni mewn anwybodaeth. 8 Felly mae’r ysbryd glân yn ei gwneud hi’n eglur nad oedd y ffordd i mewn i’r lle sanctaidd wedi cael ei datgelu eto tra oedd y babell gyntaf yn sefyll. 9 Mae’r babell hon yn cynrychioli’r hyn sy’n bodoli nawr, ac yn ôl y trefniant hwn, mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymu. Fodd bynnag, dydy’r rhain ddim yn gallu gwneud cydwybod y dyn sy’n cyflawni gwasanaeth cysegredig yn berffaith lân. 10 Maen nhw’n ymwneud dim ond â bwydydd a diodydd a gwahanol fathau o ymolchi seremonïol. Roedden nhw’n ofynion cyfreithiol a oedd yn ymwneud â’r corff ac a oedd wedi cael eu gorfodi hyd at yr amser penodedig i wneud pethau’n iawn.
11 Fodd bynnag, pan ddaeth Crist yn archoffeiriad y pethau da sydd eisoes wedi digwydd, fe aeth drwy’r babell fwy pwysig a mwy perffaith, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r greadigaeth hon. 12 Fe aeth i mewn i’r lle sanctaidd, nid â gwaed geifr a theirw ifanc, ond â’i waed ei hun, unwaith ac am byth, ac fe wnaeth ein rhyddhau ni* am byth. 13 Oherwydd os ydy gwaed geifr a theirw a lludw heffer,* sydd wedi eu taenu ar y rhai sydd wedi cael eu llygru, yn sancteiddio er mwyn glanhau’r cnawd, 14 faint mwy bydd gwaed y Crist, a wnaeth drwy ysbryd tragwyddol ei offrymu ei hun heb nam i Dduw, yn glanhau ein cydwybodau o weithredoedd marw er mwyn inni allu cyflawni gwasanaeth cysegredig i’r Duw byw?
15 Dyna pam mae’n ganolwr cyfamod newydd. Fe ddaeth yn ganolwr er mwyn i’r rhai sydd wedi cael eu galw allu derbyn yr addewid o etifeddiaeth dragwyddol. Fe ddaeth hyn i gyd yn bosib oherwydd ei farwolaeth, a thrwy ei farwolaeth y cawson nhw eu prynu a’u rhyddhau* o’u pechodau o dan y cyfamod blaenorol. 16 Oherwydd lle mae ’na gyfamod, mae’n rhaid i farwolaeth yr un a wnaeth y cyfamod gael ei sefydlu, 17 oherwydd mae cyfamod mewn grym ar ôl i rywun farw, gan nad yw mewn grym cyn belled â bod y person a wnaeth y cyfamod yn fyw. 18 O ganlyniad, nid oedd hyd yn oed y cyfamod blaenorol yn gallu cael ei roi mewn grym heb waed. 19 Oherwydd ar ôl i Moses gyhoeddi pob gorchymyn yn y Gyfraith i’r holl bobl, cymerodd waed y teirw ifanc a’r geifr, gyda dŵr, a’u taenu nhw ar y llyfr* a’r holl bobl gan ddefnyddio gwlân ysgarlad ac isop, 20 gan ddweud: “Hwn ydy gwaed y cyfamod mae Duw wedi gorchymyn i chi ei gadw.” 21 Yn yr un modd fe wnaeth daenu’r gwaed ar y babell ac ar holl lestri’r gwasanaeth sanctaidd. 22 Yn wir, yn ôl y Gyfraith mae bron i bob peth yn cael ei lanhau â gwaed, ac oni bai fod gwaed yn cael ei dywallt* does dim maddeuant.
23 Felly, roedd yn angenrheidiol i ddarlun symbolaidd y pethau yn y nefoedd gael ei lanhau yn y modd hwn, ond mae angen aberthau llawer gwell ar y pethau nefol. 24 Oherwydd ni aeth Crist i mewn i le sanctaidd o waith llaw, sy’n gopi o’r lle sanctaidd go iawn, ond i mewn i’r nef ei hun, fel ei fod nawr yn ymddangos o flaen* Duw ar ein rhan ni. 25 Nid i’w offrymu ei hun yn aml oedd hyn, fel pan fydd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i’r lle sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn â gwaed anifeiliaid, nid ei waed ei hun. 26 Fel arall, byddai ef wedi gorfod dioddef yn aml ers i’r byd gael ei sefydlu. Ond nawr mae wedi ymddangos unwaith ac am byth ar ddiwedd y system bresennol* er mwyn cael gwared ar bechod drwy ei aberthu ei hun. 27 Ac yn union fel nad ydy dynion yn gallu osgoi marw unwaith ac am byth, ac ar ôl hynny cael eu barnu, 28 felly hefyd cafodd y Crist ei offrymu unwaith ac am byth i gario pechodau llawer o bobl; a’r ail dro y bydd yn ymddangos, ni fydd yn delio â phechod, ac fe fydd yn cael ei weld gan y rhai sy’n edrych yn ddyfal amdano er mwyn iddyn nhw gael achubiaeth.