LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 7
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Pedwar angel yn dal gwyntoedd dinistriol yn ôl (1-3)

      • Selio’r 144,000 (4-8)

      • Tyrfa fawr mewn mentyll gwyn (9-17)

Datguddiad 7:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “o godiad yr haul.”

Datguddiad 7:3

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2016, t. 21

Datguddiad 7:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 116

Datguddiad 7:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    5/2022, t. 16

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, t. 16

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2019, tt. 26-31

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 2

Datguddiad 7:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, t. 16

Datguddiad 7:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, t. 16

Datguddiad 7:14

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, t. 16

Datguddiad 7:15

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2023, t. 29

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, tt. 16-17

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    12/2019, t. 2

Datguddiad 7:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, t. 17

Datguddiad 7:17

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2022, t. 16

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, t. 17

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 7:1-17

Datguddiad i Ioan

7 Ar ôl hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair cornel y ddaear, yn gafael yn dynn ym mhedwar gwynt y ddaear, fel na fyddai unrhyw wynt yn gallu chwythu ar y ddaear nac ar y môr nac ar unrhyw goeden. 2 A gwelais angel arall yn codi o’r dwyrain,* ac roedd ganddo sêl y Duw byw; a dyma’n galw â llais uchel ar y pedwar angel sydd wedi cael yr awdurdod i niweidio’r ddaear a’r môr, 3 gan ddweud: “Peidiwch â niweidio’r ddaear na’r môr na’r coed, nes inni selio caethweision ein Duw ar eu talcennau.”

4 A chlywais nifer y rhai a gafodd eu selio, 144,000, wedi eu selio allan o bob llwyth o feibion Israel:

5 Allan o lwyth Jwda cafodd 12,000 eu selio;

allan o lwyth Reuben 12,000;

allan o lwyth Gad 12,000;

6 allan o lwyth Aser 12,000;

allan o lwyth Nafftali 12,000;

allan o lwyth Manasse 12,000;

7 allan o lwyth Simeon 12,000;

allan o lwyth Lefi 12,000;

allan o lwyth Issachar 12,000;

8 allan o lwyth Sabulon 12,000;

allan o lwyth Joseff 12,000;

allan o lwyth Benjamin 12,000 wedi eu selio.

9 Ar ôl hyn, edrychwch! fe welais dyrfa fawr doedd neb yn gallu ei rhifo, allan o bob cenedl a llwyth a hil ac iaith, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, yn gwisgo mentyll gwyn; ac roedd ganddyn nhw ganghennau palmwydd yn eu dwylo. 10 Ac maen nhw’n parhau i weiddi â llais uchel, gan ddweud: “Rydyn ni’n ddyledus i’n Duw, sy’n eistedd ar yr orsedd, ac i’r Oen, am ein hachubiaeth.”

11 Roedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a’r henuriaid a’r pedwar creadur byw, a dyma nhw’n syrthio ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw, 12 gan ddweud: “Amen! Mae’r clod a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolchgarwch a’r anrhydedd a’r grym a’r nerth yn perthyn i’n Duw am byth bythoedd. Amen.”

13 Dyma un o’r henuriaid yn ateb drwy ddweud wrtho i: “Y rhai hyn sy’n gwisgo mentyll gwyn, pwy ydyn nhw ac o le maen nhw’n dod?” 14 Felly yn syth dywedais wrtho: “Fy arglwydd, ti ydy’r un sy’n gwybod.” A dywedodd yntau wrtho i: “Dyma’r rhai sy’n dod allan o’r trychineb mawr, ac maen nhw wedi golchi eu mentyll a’u gwneud nhw’n wyn yng ngwaed yr Oen. 15 Dyna pam maen nhw o flaen gorsedd Duw, ac maen nhw’n cyflawni gwasanaeth cysegredig ddydd a nos yn ei deml; a bydd yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd yn lledaenu ei babell drostyn nhw. 16 Ni fyddan nhw’n llwgu nac yn sychedu byth eto, ac ni fydd yr haul yn eu taro nhw nac unrhyw wres tanbaid, 17 oherwydd bydd yr Oen, sydd yng nghanol yr orsedd, yn eu bugeilio nhw ac yn eu harwain nhw i ffynhonnau o ddŵr y bywyd. A bydd Duw’n sychu pob deigryn o’u llygaid nhw.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu