Numeri
9 Siaradodd Jehofa â Moses yn anialwch Sinai yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft, gan ddweud: 2 “Dylai’r Israeliaid baratoi aberth y Pasg ar yr amser penodedig. 3 Ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis hwn yn y gwyll,* dylech chi ei baratoi ar yr amser penodedig. Dylech chi ei baratoi yn ôl ei holl ddeddfau ac yn ôl yr holl drefniadau sydd wedi eu gosod.”
4 Felly dywedodd Moses wrth yr Israeliaid i baratoi aberth y Pasg. 5 Yna, gwnaethon nhw baratoi aberth y Pasg ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis cyntaf yn y gwyll* yn anialwch Sinai. Gwnaeth yr Israeliaid bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses.
6 Nawr doedd rhai dynion ddim yn gallu paratoi aberth y Pasg ar y diwrnod hwnnw am eu bod nhw’n aflan o ganlyniad i gyffwrdd â chorff marw. Felly aethon nhw o flaen Moses ac Aaron ar y diwrnod hwnnw 7 a dweud wrtho: “Rydyn ni’n aflan o ganlyniad i gyffwrdd â chorff marw. Pam dylai hynny ein rhwystro ni rhag cyflwyno offrwm i Jehofa ar yr amser penodedig ymysg yr Israeliaid?” 8 Yna, dywedodd Moses wrthyn nhw: “Arhoswch yna, a gadewch imi glywed beth bydd Jehofa’n ei orchymyn ynglŷn â chi.”
9 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 10 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Hyd yn oed os bydd dyn yn eich plith neu un o’ch disgynyddion yn dod yn aflan o ganlyniad i gyffwrdd â chorff marw neu os bydd ef ar daith yn bell i ffwrdd, bydd yn dal yn gorfod paratoi aberth y Pasg i Jehofa. 11 Dylen nhw ei baratoi yn yr ail fis ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* yn y gwyll.* Dylen nhw ei fwyta gyda bara croyw a llysiau gwyrdd chwerw. 12 Ni ddylen nhw gadw unrhyw ran ohono tan y bore, ac ni ddylen nhw dorri unrhyw asgwrn ynddo. Dylen nhw ei baratoi yn ôl pob deddf ynglŷn â’r Pasg. 13 Ond os nad oedd dyn yn aflan nac ar daith, ac er hynny doedd ef ddim wedi paratoi aberth y Pasg, bydd rhaid i’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth,* oherwydd doedd ef ddim wedi cyflwyno offrwm i Jehofa ar yr amser penodedig. Bydd y dyn yn atebol am ei bechod.
14 “‘Ac os oes ’na rywun estron yn eich plith, dylai ef hefyd baratoi aberth y Pasg i Jehofa. Dylai ef wneud hynny yn ôl deddfau’r Pasg a’r drefn sydd wedi ei gosod. Bydd ’na un ddeddf ar eich cyfer chi ac ar gyfer yr estroniaid.’”
15 Nawr ar y diwrnod y cafodd y tabernacl ei osod, gwnaeth cwmwl orchuddio’r tabernacl, pabell y Dystiolaeth; ond gyda’r nos roedd yr hyn a oedd yn ymddangos fel tân yn aros dros y tabernacl tan y bore. 16 Dyma beth oedd yn parhau i ddigwydd: Roedd y cwmwl yn ei orchuddio yn ystod y dydd, ac yn ystod y nos roedd yn ymddangos fel tân. 17 Bryd bynnag roedd y cwmwl yn codi o’r babell, roedd yr Israeliaid yn gadael ar unwaith, a lle bynnag roedd y cwmwl yn aros, dyna lle roedd yr Israeliaid yn gwersylla. 18 Yn ôl gorchymyn Jehofa roedd yr Israeliaid yn gadael, ac yn ôl gorchymyn Jehofa roedd yr Israeliaid yn gwersylla. Pan oedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl, roedd y gwersyll yn aros hefyd. 19 Pan oedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, roedd yr Israeliaid yn ufudd i Jehofa ac yn aros yn eu lle. 20 Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig o ddyddiau. Yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n dal i wersylla, ac yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n gadael. 21 Weithiau roedd y cwmwl ond yn aros o’r noswaith tan y bore, ac yn y bore pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw’n gadael. P’un a oedd y cwmwl yn codi yn ystod y dydd neu yn ystod y nos, roedden nhw’n gadael. 22 Os oedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddau ddiwrnod, am fis, neu’n hirach, roedd yr Israeliaid yn dal i wersylla. Ond pan oedd yn codi, roedden nhw’n gadael. 23 Yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n gwersylla, ac yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n gadael. Roedden nhw’n ufudd i Jehofa yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses.