Numeri
31 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Dylet ti ddial ar y Midianiaid am beth wnaethon nhw i’r Israeliaid. Wedyn byddi di’n cael dy gasglu at dy bobl.”*
3 Felly siaradodd Moses â’r bobl, gan ddweud: “Arfogwch ddynion o’ch plith i ryfela yn erbyn Midian ac i ddial arnyn nhw ar ran Jehofa. 4 Dylech chi anfon 1,000 o ddynion o bob un o lwythau Israel i’r fyddin.” 5 Felly o blith teuluoedd Israel,* cafodd 1,000 eu haseinio o bob llwyth, 12,000 wedi eu harfogi ar gyfer brwydro.
6 Yna dyma Moses yn eu hanfon nhw allan i frwydro, 1,000 o bob llwyth, ac aeth Phineas fab Eleasar yr offeiriad gyda’r fyddin, ac roedd ef yn cario’r llestri sanctaidd a’r trwmpedi rhyfel. 7 Dyma nhw’n rhyfela yn erbyn Midian, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses, gan ladd pob gwryw. 8 Ymhlith y rhai y gwnaethon nhw eu lladd oedd brenhinoedd Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur, a Reba, pum brenin Midian. Lladdon nhw hefyd Balaam fab Beor â’r cleddyf. 9 Ond dyma’r Israeliaid yn caethgludo merched* a phlant Midian, gan ysbeilio eu holl wartheg, eu holl breiddiau, a’u holl eiddo. 10 A llosgon nhw â thân yr holl ddinasoedd roedd y Midianiaid wedi setlo ynddyn nhw a’u holl wersylloedd. 11 Gwnaethon nhw ysbeilio popeth a oedd yn perthyn iddyn nhw, y bobl a’r anifeiliaid. 12 Yna daethon nhw â’r caethion a’r ysbail i gyd at Moses ac Eleasar yr offeiriad ac at gynulleidfa’r Israeliaid, at y gwersyll yn anialwch Moab wrth ymyl yr Iorddonen gyferbyn â Jericho.
13 Yna aeth Moses ac Eleasar yr offeiriad a holl benaethiaid y gynulleidfa allan i’w cyfarfod nhw y tu allan i’r gwersyll. 14 Ond digiodd Moses â’r dynion a oedd wedi eu penodi dros y fyddin, y penaethiaid ar filoedd ac ar gannoedd, a oedd yn dod yn ôl o’r frwydr. 15 Dywedodd Moses wrthyn nhw: “Ydych chi wedi cadw’r holl ferched* yn fyw? 16 Edrychwch! Nhw a wrandawodd ar Balaam a pherswadio’r Israeliaid i fod yn anffyddlon i Jehofa ac i addoli Baal Peor, fel bod y pla wedi dod ar bobl Jehofa. 17 Nawr dylech chi ladd pob bachgen, a dylech chi hefyd ladd pob dynes* sydd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn. 18 Ond cewch chi gadw’n fyw yr holl ferched ifanc sydd heb gael cyfathrach rywiol â dyn. 19 A dylech chi wersylla y tu allan i’r gwersyll am saith diwrnod. Dylai pob un ohonoch chi sydd wedi lladd rhywun a phob un ohonoch chi sydd wedi cyffwrdd â chorff marw ei buro ei hun ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod, y chi a’ch caethion. 20 A dylech chi buro pob dilledyn, popeth wedi ei wneud o groen, popeth wedi ei wneud o flew gafr, a phopeth wedi ei wneud o bren.”
21 Yna dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y milwyr a oedd wedi mynd i’r frwydr: “Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd Jehofa i Moses, 22 ‘Dim ond yr aur, yr arian, y copr, yr haearn, y tun, a’r plwm, 23 popeth sy’n gallu gwrthsefyll tân, y dylech chi ei buro yn y tân, a bydd yn lân. Ond, dylech chi hefyd ei lanhau yn y dŵr sy’n puro. Ynglŷn â phopeth sydd ddim yn gallu gwrthsefyll tân, dylech chi ei lanhau â’r dŵr. 24 A dylech chi olchi eich dillad ar y seithfed diwrnod ac ymolchi, ac yna gallwch chi ddod i mewn i’r gwersyll.’”
25 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 26 “Gwna restr o’r ysbail, gan gyfri’r caethion, yr anifeiliaid, a’r bobl; gwna hyn gydag Eleasar yr offeiriad a phenaethiaid teuluoedd estynedig y bobl. 27 Rhanna’r ysbail yn ddwy a’i dosbarthu rhwng y milwyr a gymerodd ran yn y frwydr a gweddill y bobl. 28 Fel treth i Jehofa, oddi wrth y milwyr a aeth allan i frwydro dylet ti gymryd un enaid* allan o bob 500 o’r bobl, o’r gwartheg, o’r asynnod, ac o’r praidd. 29 Dylech chi gymryd y dreth oddi wrth yr hanner sydd wedi cael ei roi i’r milwyr, a’i rhoi i Eleasar yr offeiriad fel cyfraniad i Jehofa. 30 O’r hanner sydd wedi cael ei roi i’r Israeliaid, dylet ti gymryd un allan o bob 50 o’r bobl, o’r gwartheg, o’r asynnod, o’r praidd, ac o bob math o anifeiliaid domestig, a’u rhoi nhw i’r Lefiaid, sy’n gofalu am y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â thabernacl Jehofa.”
31 Felly gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 32 Cyfanswm yr ysbail a oedd ar ôl o beth gymerodd y milwyr oedd 675,000 o’r praidd, 33 72,000 o wartheg, 34 a 61,000 o asynnod. 35 Cyfanswm y merched* a oedd heb gael cyfathrach rywiol â dyn oedd 32,000. 36 Cyfanswm yr hanner a gafodd y milwyr fel eu rhan oedd 337,500 o’r praidd. 37 Cyfanswm treth Jehofa o’r praidd oedd 675. 38 Ac roedd ’na 36,000 o wartheg, ac roedd 72 ohonyn nhw yn dreth i Jehofa. 39 Ac roedd ’na 30,500 o asynnod, ac roedd 61 ohonyn nhw yn dreth i Jehofa. 40 Ac roedd ’na 16,000 o bobl, ac roedd 32 ohonyn nhw yn dreth i Jehofa. 41 Yna rhoddodd Moses i Eleasar yr offeiriad y dreth sy’n gyfraniad i Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
42 O’r hanner a oedd yn perthyn i’r Israeliaid, yr hanner roedd Moses wedi ei wahanu oddi wrth hanner y milwyr, 43 cyfanswm yr hanner yna o’r praidd oedd 337,500, 44 o’r gwartheg, 36,000, 45 o’r asynnod, 30,500, 46 ac o’r bobl, 16,000. 47 Yna cymerodd Moses o’r hanner sy’n perthyn i’r Israeliaid un allan o bob 50, o’r bobl a’r anifeiliaid, a’u rhoi nhw i’r Lefiaid a oedd yn gofalu am y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â thabernacl Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
48 Yna dyma’r dynion a oedd wedi cael eu penodi dros grwpiau’r fyddin, y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd, yn dod at Moses, 49 a dywedon nhw wrth Moses: “Mae dy weision wedi cyfri’r milwyr sydd o dan ein hawdurdod, a does neb ohonyn nhw ar goll. 50 Felly gad i bob un ohonon ni gyflwyno beth mae ef wedi dod ar ei draws fel offrwm i Jehofa, pethau wedi eu gwneud o aur, cadwyni,* breichledau, modrwyau,* clustdlysau, a mathau eraill o emwaith, er mwyn inni gael maddeuant am ein pechodau o flaen Jehofa.”
51 Felly derbyniodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur oddi wrthyn nhw, yr holl emwaith. 52 Cyfanswm yr aur gwnaethon nhw ei gyfrannu i Jehofa oedd 16,750 sicl,* oddi wrth y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd. 53 Cymerodd pob un o ddynion y fyddin ysbail iddo’i hun. 54 Derbyniodd Moses ac Eleasar yr aur oddi wrth y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd, a daethon nhw â’r aur i mewn i babell y cyfarfod er mwyn atgoffa’r bobl o bopeth roedd Jehofa wedi ei wneud drostyn nhw.*