Numeri
10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Gwna ddau drwmped i ti dy hun; mae’n rhaid iti eu gwneud nhw o arian wedi ei guro â morthwyl, a’u defnyddio nhw i alw’r gynulleidfa at ei gilydd ac i symud y gwersylloedd. 3 Pan fydd y ddau drwmped yn cael eu chwythu, mae’n rhaid i’r gynulleidfa gyfan ddod atat ti wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 4 Ond os mai un yn unig sy’n cael ei chwythu, dim ond y penaethiaid, y pennau ar grwpiau o filoedd Israel, a fydd yn dod atat ti.
5 “Pan fyddwch chi’n gwneud i ganiad y trwmped amrywio, bydd rhaid i’r rhai yn y gwersylloedd i’r dwyrain adael. 6 Pan fyddwch chi’n gwneud i ganiad y trwmped amrywio am yr ail waith, dylai’r rhai yn y gwersylloedd i’r de adael. Dylen nhw seinio’r trwmpedi fel hyn bob tro mae un ohonyn nhw yn gadael.
7 “Nawr pan fyddwch chi’n galw’r gynulleidfa at ei gilydd, dylech chi chwythu’r trwmpedi, ond ni ddylech chi wneud i’r caniad amrywio. 8 Dylai meibion Aaron, yr offeiriaid, chwythu’r trwmpedi, a bydd hyn yn ddeddf barhaol i chi drwy gydol eich cenedlaethau.
9 “Os byddwch chi’n mynd i ryfel yn eich gwlad, yn erbyn gormeswr sy’n ymosod arnoch chi, dylech chi seinio bloedd ryfel ar y trwmpedi, a bydd Jehofa eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o’ch gelynion.
10 “Hefyd, ar eich adegau llawen—eich gwyliau ac ar ddechrau pob mis—mae’n rhaid ichi seinio’r trwmpedi dros eich offrymau llosg a’ch aberthau heddwch; bydd y rhain yn gweithredu fel cais i Dduw iddo dderbyn eich offrymau. Fi ydy Jehofa eich Duw.”
11 Nawr yn yr ail flwyddyn, yn yr ail fis, ar yr ugeinfed* diwrnod o’r mis, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y Dystiolaeth. 12 Felly cychwynnodd yr Israeliaid ar eu taith i ffwrdd o anialwch Sinai yn ôl y drefn a oedd wedi ei sefydlu iddyn nhw adael, a stopiodd y cwmwl yn anialwch Paran. 13 Dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw adael gan ddilyn y gorchymyn a roddodd Jehofa drwy Moses.
14 Felly gwnaeth gwersyll meibion Jwda, y grŵp o dri llwyth, adael yn gyntaf yn ôl eu byddinoedd, a Naason fab Aminadab oedd dros y fyddin. 15 Nethanel fab Suar oedd dros fyddin llwyth Issachar. 16 Eliab fab Helon oedd dros fyddin llwyth Sabulon.
17 Pan oedd y tabernacl wedi cael ei dynnu i lawr, gadawodd meibion Gerson a meibion Merari, a oedd yn cario’r tabernacl.
18 Yna gadawodd gwersyll Reuben, y grŵp o dri llwyth, yn ôl eu byddinoedd, ac Elisur fab Sedeur oedd dros y fyddin. 19 Selumiel fab Surisadai oedd dros fyddin llwyth Simeon. 20 Eliasaff fab Deuel oedd dros fyddin llwyth Gad.
21 Yna dyma’r Cohathiaid, a oedd yn cario pethau’r cysegr, yn gadael. Roedd y tabernacl i fod i gael ei osod erbyn iddyn nhw gyrraedd.
22 Yna gadawodd gwersyll meibion Effraim, y grŵp o dri llwyth, yn ôl eu byddinoedd, ac Elisama fab Ammihud oedd dros y fyddin. 23 Gamaliel fab Pedasur oedd dros fyddin llwyth Manasse. 24 Abidan fab Gideoni oedd dros fyddin llwyth Benjamin.
25 Yna gadawodd gwersyll meibion Dan, y grŵp o dri llwyth, yn ôl eu byddinoedd, roedden nhw yn y cefn er mwyn amddiffyn y gwersylloedd eraill rhag ymosodiadau, ac Ahieser fab Ammisadai oedd dros y fyddin. 26 Pagiel fab Ocran oedd dros fyddin llwyth Aser. 27 Ahira fab Enan oedd dros fyddin llwyth Nafftali. 28 Dyma oedd y drefn roedd yr Israeliaid a’u byddinoedd yn ei dilyn wrth iddyn nhw adael.
29 Yna dywedodd Moses wrth Hobab, a oedd yn fab i dad-yng-nghyfraith Moses, Reuel* o Midian: “Rydyn ni’n mynd i’r lle y gwnaeth Jehofa sôn amdano pan ddywedodd, ‘Gwna i ei roi i chi.’ Tyrd gyda ni, a byddwn ni’n dy drin di’n dda, oherwydd mae Jehofa wedi addo pethau da ar gyfer Israel.” 30 Ond dywedodd wrtho: “Wna i ddim mynd. Rydw i am fynd yn ôl i fy ngwlad fy hun ac at fy mherthnasau.” 31 Ar hynny dywedodd: “Plîs paid â’n gadael ni, achos rwyt ti’n gwybod ble dylen ni wersylla yn yr anialwch, a gelli di ein harwain ni. 32 Ac os byddi di’n dod gyda ni, pa bynnag ddaioni bydd Jehofa yn ei ddangos aton ni, yn bendant gwnawn ni ei ddangos atat ti.”
33 Felly dyma nhw’n dechrau martsio* o fynydd Jehofa am dri diwrnod, ac roedd arch cyfamod Jehofa yn cael ei chario o’u blaenau nhw am y daith dri-diwrnod, nes iddyn nhw ddod o hyd i rywle i orffwys. 34 Ac roedd cwmwl Jehofa drostyn nhw yn ystod y dydd wrth iddyn nhw gychwyn o’r gwersyll.
35 Bryd bynnag byddai’r Arch yn cael ei symud, byddai Moses yn dweud: “Cod, O Jehofa, a gwasgara dy elynion, a gwna i’r rhai sy’n dy gasáu di ffoi oddi wrthot ti.” 36 A phan fyddai’r Arch yn gorffwys, byddai ef yn dweud: “Tyrd yn ôl, O Jehofa, at bobl ddi-rif Israel.”*