LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 22
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Afon o ddŵr y bywyd (1-5)

      • Diweddglo (6-21)

        • ‘Tyrd! Cymera ddŵr y bywyd am ddim’ (17)

        • “Tyrd, Arglwydd Iesu” (20)

Datguddiad 22:1

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

Datguddiad 22:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 145

Datguddiad 22:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn ddibynadwy.”

Datguddiad 22:13

Troednodiadau

  • *

    Alffa ac Omega ydy’r llythyren gyntaf a’r olaf o’r wyddor Roeg.

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthyglau 125, 142

Datguddiad 22:14

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2018, t. 19

Datguddiad 22:15

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, y rhai sy’n gwneud pethau sy’n ffiaidd yng ngolwg Duw.

  • *

    Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 22:1-21

Datguddiad i Ioan

22 Ac fe ddangosodd imi afon o ddŵr y bywyd, yn glir fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a’r Oen 2 i lawr canol ei phrif stryd. Ar ddwy ochr yr afon roedd coed y bywyd yn cynhyrchu 12 cnwd o ffrwyth, gan roi eu ffrwyth bob mis. Ac roedd dail y coed ar gyfer iacháu’r cenhedloedd.

3 Ac ni fydd unrhyw felltith bellach. Ond bydd gorsedd Duw a’r Oen yn y ddinas, a bydd ei gaethweision yn offrymu gwasanaeth cysegredig iddo; 4 a byddan nhw’n gweld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau. 5 Hefyd, ni fydd nos bellach, ac ni fydd angen golau lamp na golau’r haul arnyn nhw, oherwydd bydd Jehofa Dduw yn eu goleuo nhw, a byddan nhw’n rheoli’n frenhinoedd am byth bythoedd.

6 Dywedodd wrtho i: “Mae’r geiriau hyn yn ffyddlon* ac yn wir; ie, mae Jehofa, y Duw a wnaeth ysbrydoli’r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i’w gaethweision y pethau sy’n gorfod digwydd yn fuan. 7 Edrycha! Rydw i’n dod yn gyflym. Hapus ydy unrhyw un sy’n cadw at eiriau proffwydoliaeth y sgrôl hon.”

8 Wel, fi, Ioan oedd yr un a oedd yn clywed ac yn gweld y pethau hyn. Pan wnes i eu clywed a’u gweld nhw, syrthiais i lawr i addoli wrth draed yr angel a oedd wedi bod yn dangos y pethau hyn imi. 9 Ond mae’n dweud wrtho i: “Bydda’n ofalus! Paid â gwneud hynny! Dim ond caethwas ydw i fel tithau a dy frodyr y proffwydi a’r rhai sy’n cadw geiriau’r sgrôl hon. Addola Dduw.”

10 Hefyd mae’n dweud wrtho i: “Paid â selio geiriau proffwydoliaeth y sgrôl hon, oherwydd mae’r amser penodedig yn agos. 11 Gad i’r un sy’n anghyfiawn barhau mewn anghyfiawnder, a gad i’r un budr barhau yn ei fudreddi; ond gad i’r un cyfiawn barhau mewn cyfiawnder, a gad i’r un sanctaidd barhau mewn sancteiddrwydd.

12 “‘Edrycha! Rydw i’n dod yn gyflym, ac mae’r wobr rydw i’n ei rhoi gyda mi, i dalu’n ôl i bob un yn ôl ei waith. 13 Fi ydy’r Alffa a’r Omega,* y cyntaf a’r olaf, y dechrau a’r diwedd. 14 Hapus ydy’r rhai sy’n golchi eu mentyll, er mwyn iddyn nhw allu cael awdurdod i fynd i goed y bywyd ac er mwyn iddyn nhw fynd i mewn i’r ddinas drwy ei giatiau. 15 Y tu allan y mae’r cŵn* a’r rhai sy’n arfer ysbrydegaeth a’r rhai sy’n anfoesol yn rhywiol* a’r llofruddion a’r addolwyr eilunod a phawb sy’n caru dweud celwydd ac sydd wedi mynd i’r arfer o wneud hynny.’

16 “‘Fe wnes i, Iesu, anfon fy angel i dystiolaethu iti am y pethau hyn ar gyfer y cynulleidfaoedd. Fi ydy gwreiddyn a disgynnydd Dafydd a seren ddisglair y bore.’”

17 Ac mae’r ysbryd a’r briodferch yn dal i ddweud, “Tyrd!” a gadewch i unrhyw un sy’n clywed ddweud, “Tyrd!” a gadewch i unrhyw un sy’n sychedu ddod; gadewch i unrhyw un sy’n dymuno gymryd dŵr y bywyd am ddim.

18 “Rydw i’n tystiolaethu i bawb sy’n clywed geiriau proffwydoliaeth y sgrôl hon: Os oes unrhyw un yn ychwanegu at y pethau hyn, fe fydd Duw yn ychwanegu ato yntau y plâu sydd wedi cael eu hysgrifennu yn y sgrôl hon; 19 ac os oes unrhyw un yn tynnu unrhyw beth allan o eiriau sgrôl y broffwydoliaeth hon, fe fydd Duw yn tynnu ei ran yntau allan o goed y bywyd ac allan o’r ddinas sanctaidd, y pethau sydd wedi cael eu hysgrifennu amdanyn nhw yn y sgrôl hon.

20 “Mae’r un sy’n tystiolaethu am y pethau hyn yn dweud, ‘Yn wir, rydw i’n dod yn gyflym.’”

“Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu.”

21 Rydw i’n gweddïo y bydd caredigrwydd rhyfeddol yr Arglwydd Iesu gyda’r rhai sanctaidd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu