Actau’r Apostolion
12 Tua’r adeg honno dechreuodd y brenin Herod gam-drin rhai yn y gynulleidfa. 2 Fe laddodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf. 3 Pan welodd fod hynny’n plesio’r Iddewon, aeth ymlaen i arestio Pedr. (Roedd hyn yn ystod Gŵyl y Bara Croyw.) 4 Dyma’n ei ddal, ei roi yn y carchar, a’i drosglwyddo i ofal pedair shifft o bedwar milwr yr un, gan fwriadu dod ag ef allan* o flaen y bobl ar ôl y Pasg. 5 Felly roedd Pedr yn cael ei ddal yn y carchar, ond roedd y gynulleidfa’n gweddïo’n daer ar Dduw drosto.
6 Pan oedd Herod ar fin dod ag ef allan, y noson honno roedd Pedr yn cysgu, wedi ei rwymo â dwy gadwyn rhwng dau filwr, ac roedd gwarchodwyr o flaen y drws yn gwylio dros y carchar. 7 Ond edrycha! roedd angel Jehofa’n sefyll yno, a goleuni’n disgleirio yn y gell. Dyma’r angel yn taro Pedr yn ei ochr a’i ddeffro, gan ddweud: “Cod ar unwaith!” A syrthiodd y cadwyni oddi ar ei ddwylo. 8 Dywedodd yr angel wrtho: “Rho dy ddillad amdanat ti a gwisga dy sandalau.” Dyma’n gwneud hynny. Yn olaf, dywedodd yr angel wrtho: “Gwisga dy gôt, a dal ati i fy nilyn i.” 9 Ac fe aeth allan yn parhau i’w ddilyn, ond doedd ef ddim yn gwybod bod yr hyn oedd yn digwydd drwy’r angel yn digwydd go iawn. Mewn gwirionedd, roedd yn meddwl ei fod yn cael gweledigaeth. 10 Ar ôl mynd heibio’r grŵp cyntaf o warchodwyr a’r ail, dyma nhw’n cyrraedd y giât haearn a oedd yn arwain i’r ddinas, ac agorodd honno iddyn nhw ar ei phen ei hun. Wedi iddyn nhw fynd allan, aethon nhw i lawr un o’r strydoedd, ac ar unwaith aeth yr angel i ffwrdd oddi wrtho. 11 Ac yn sylweddoli beth oedd yn digwydd, dywedodd Pedr: “Nawr rydw i’n gwbl sicr fod Jehofa wedi anfon ei angel ac wedi fy achub i o law Herod ac o bob peth roedd yr Iddewon yn disgwyl y byddai’n digwydd imi.”
12 Ar ôl iddo sylweddoli hyn, aeth i dŷ Mair mam Ioan a oedd yn cael ei alw’n Marc, lle roedd nifer o ddisgyblion wedi dod at ei gilydd ac yn gweddïo. 13 Wrth iddo gnocio ar ddrws y porth, daeth caethferch o’r enw Rhoda allan i ateb y drws. 14 Pan wnaeth hi adnabod llais Pedr, roedd hi mor llawen nes iddi redeg i mewn i’r tŷ heb agor y drws a dweud bod Pedr yn sefyll wrth y porth. 15 Dywedon nhw wrthi: “Dwyt ti ddim yn gall.” Ond roedd hi’n mynnu o hyd fod y peth yn wir. Dechreuon nhw ddweud: “Ei angel sydd yna.” 16 Ond arhosodd Pedr yno, yn cnocio. Pan wnaethon nhw agor y drws, dyma nhw’n ei weld ac yn syfrdanu. 17 Ond dyma ef yn gwneud arwydd â’i law iddyn nhw dawelu ac esboniodd iddyn nhw’n fanwl sut roedd Jehofa wedi dod ag ef allan o’r carchar, a dywedodd: “Adroddwch y pethau hyn wrth Iago a’r brodyr.” Ar hynny aeth ef allan a theithio i rywle arall.
18 Nawr ar ôl iddi droi’n ddydd, roedd y milwyr wedi cynhyrfu oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i Pedr. 19 Chwiliodd Herod yn drylwyr amdano, ac ar ôl methu dod o hyd iddo, dyma’n cwestiynu’r gwarchodwyr a gorchymyn iddyn nhw gael eu harwain i ffwrdd i gael eu cosbi; ac aeth i lawr o Jwdea i Cesarea ac arhosodd yno am beth amser.
20 Nawr roedd ef wedi gwylltio wrth bobl Tyrus a Sidon. Felly daethon nhw ato yn unedig, ac ar ôl perswadio Blastus, y dyn a oedd yn gyfrifol am dŷ’r brenin,* dyma nhw’n ceisio heddwch â’r brenin, oherwydd roedd eu gwlad nhw yn derbyn bwyd o wlad y brenin. 21 Ar ddiwrnod penodol, gwisgodd Herod ei ddillad brenhinol ac eisteddodd ar y sedd farnu a dechrau annerch y bobl. 22 Yna dyma’r bobl oedd wedi ymgasglu yn dechrau gweiddi: “Llais duw ydy hwn, nid llais dyn!” 23 Ar unwaith dyma angel Jehofa yn ei daro’n wael, oherwydd nid oedd wedi rhoi’r gogoniant i Dduw, a chafodd ei fwyta gan lyngyr a bu farw.
24 Ond roedd gair Jehofa yn parhau i gynyddu a lledaenu.
25 O ran Barnabas a Saul, ar ôl iddyn nhw gwblhau eu gwaith cymorth yn Jerwsalem, daethon nhw yn ôl a mynd â Ioan gyda nhw, yr un sydd hefyd yn cael ei alw’n Marc.