Yn Ôl Mathew
13 Ar y dydd hwnnw aeth Iesu allan o’r tŷ ac roedd yn eistedd wrth lan y môr. 2 A daeth tyrfaoedd mor fawr ato nes iddo fynd i mewn i gwch ac eistedd ynddo, ac roedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y traeth. 3 Yna dywedodd lawer o bethau wrthyn nhw drwy ddefnyddio damhegion, gan ddweud: “Edrychwch! Aeth ffermwr allan i hau. 4 Tra oedd yn hau, syrthiodd rhai o’r hadau wrth ochr y ffordd, a daeth yr adar a’u bwyta nhw. 5 Syrthiodd eraill ar dir creigiog lle nad oedd llawer o bridd, a dyma nhw’n tyfu’n gyflym oherwydd nad oedd y pridd yn ddwfn. 6 Ond pan wnaeth yr haul godi, cawson nhw eu llosgi, a dyma nhw’n gwywo oherwydd nad oedd ganddyn nhw wreiddiau. 7 Syrthiodd eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a’u tagu nhw. 8 Syrthiodd eraill hefyd ar y pridd da, a dyma nhw’n dwyn ffrwyth, yr un yma ganwaith cymaint, yr un yna chwe deg, y llall dri deg. 9 Gadewch i’r un sydd â chlustiau wrando.”
10 Felly daeth y disgyblion ato a dweud wrtho: “Pam rwyt ti’n siarad â nhw drwy ddefnyddio damhegion?” 11 Atebodd yntau drwy ddweud: “Rydych chi’n cael gwybod cyfrinachau cysegredig Teyrnas y nefoedd, ond dydyn nhwthau ddim. 12 Oherwydd pwy bynnag sydd ganddo, bydd mwy yn cael ei roi iddo, a bydd ganddo fwy na digon; ond pwy bynnag nad oes ganddo, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno. 13 Dyna pam rydw i’n siarad â nhw drwy ddefnyddio damhegion; oherwydd maen nhw’n edrych ond dydyn nhw ddim yn gweld, ac maen nhw’n clywed ond dydyn nhw ddim yn gwrando, na chwaith yn deall. 14 Ac mae proffwydoliaeth Eseia yn cael ei chyflawni yn eu hachos nhw. Mae’n dweud: ‘Byddwch yn wir yn clywed ond nid ar unrhyw gyfri yn deall, a byddwch yn wir yn edrych ond nid ar unrhyw gyfri yn gweld. 15 Oherwydd mae calon y bobl hyn wedi troi’n galed, ac maen nhw wedi clywed â’u clustiau ond heb ateb, ac maen nhw wedi cau eu llygaid, fel na allan nhw byth weld â’u llygaid a chlywed â’u clustiau a deall â’u calonnau a throi’n ôl a chael eu hiacháu gen i.’
16 “Fodd bynnag, hapus yw eich llygaid chi oherwydd eu bod nhw’n gweld a’ch clustiau oherwydd eu bod nhw’n clywed. 17 Oherwydd yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, roedd llawer o broffwydi a dynion cyfiawn yn dymuno gweld y pethau rydych chi’n eu gweld ond wnaethon nhw ddim gweld y pethau hynny, a chlywed y pethau rydych chi’n eu clywed ond wnaethon nhw ddim clywed y pethau hynny.
18 “Nawr gwrandewch ar ddameg y ffermwr a wnaeth hau. 19 Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y Deyrnas ond nid yw’n deall, mae’r un drwg yn dod ac yn cipio’r hyn sydd wedi cael ei hau yn ei galon; dyma’r had a gafodd ei hau wrth ochr y ffordd. 20 A’r un a gafodd ei hau ar dir creigiog, dyma’r un sy’n clywed y gair ac ar unwaith yn ei dderbyn yn llawen. 21 Ond eto, does ganddo ddim gwreiddyn ynddo’i hun ond mae’n parhau am gyfnod, ac ar ôl i orthrymder neu erledigaeth godi o achos y gair, mae ar unwaith yn baglu. 22 A’r un a gafodd ei hau ymysg y drain, dyma’r un sy’n clywed y gair, ond mae pryderon y system hon* a grym twyllodrus cyfoeth yn tagu’r gair, ac mae’n mynd yn ddiffrwyth. 23 A’r un a gafodd ei hau ar y pridd da, dyma’r un sy’n clywed y gair ac yn ei ddeall, sy’n wir yn dwyn ffrwyth ac yn cynhyrchu, yr un yma ganwaith cymaint, yr un yna chwe deg, y llall dri deg.”
24 Cyflwynodd ddameg arall iddyn nhw, gan ddweud: “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i ddyn a wnaeth hau had da yn ei gae. 25 Tra oedd dynion yn cysgu, daeth ei elyn a hau chwyn ymysg y gwenith a gadael. 26 Pan wnaeth y gwenith egino a dwyn ffrwyth, yna gwnaeth y chwyn hefyd ymddangos. 27 Felly daeth caethweision meistr y tŷ a dweud wrtho, ‘Feistr, onid oeddet ti wedi hau had da yn dy gae? Sut, felly, mae ’na chwyn ynddo?’ 28 Dywedodd wrthyn nhw, ‘Gelyn, dyn, wnaeth hyn.’ Dywedodd y caethweision wrtho, ‘Wyt ti eisiau i ni, felly, fynd allan a’u casglu nhw?’ 29 Dywedodd yntau, ‘Nac oes, rhag ofn ichi, wrth gasglu’r chwyn, ddadwreiddio’r gwenith gyda nhw. 30 Gadewch i’r ddau dyfu gyda’i gilydd tan y cynhaeaf, ac yn nhymor y cynhaeaf, bydda i’n dweud wrth y rhai a fydd yn medi:* Yn gyntaf casglwch y chwyn a’u clymu yn fwndeli i’w llosgi nhw; yna casglwch y gwenith i mewn i fy ysgubor.’”
31 Cyflwynodd ddameg arall iddyn nhw, gan ddweud: “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i hedyn mwstard y gwnaeth dyn ei gymryd a’i blannu yn ei gae. 32 Yn wir, dyma’r lleiaf o’r holl hadau, ond ar ôl iddo dyfu, hwn yw’r mwyaf o blanhigion yr ardd ac mae’n tyfu’n goeden, fel bod adar y nef yn dod ac yn lletya yn ei changhennau.”
33 Dywedodd ddameg arall wrthyn nhw: “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i lefain y gwnaeth dynes* ei gymryd a’i gymysgu â thri mesur mawr o flawd nes i’r toes cyfan godi.”
34 Dywedodd Iesu’r holl bethau hyn wrth y tyrfaoedd drwy ddefnyddio damhegion. Yn wir, ni fyddai’n siarad â nhw heb ddefnyddio damhegion, 35 er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy’r proffwyd a ddywedodd: “Bydda i’n agor fy ngheg ac yn siarad mewn damhegion; bydda i’n datgan pethau sydd wedi bod yn guddiedig ers y dechrau.”*
36 Yna ar ôl iddo anfon y tyrfaoedd i ffwrdd, aeth i mewn i’r tŷ. Daeth ei ddisgyblion ato a dweud: “Eglura inni’r ddameg am y chwyn yn y cae.” 37 Atebodd yntau drwy ddweud: “Yr un a wnaeth hau’r had da yw Mab y dyn; 38 y cae yw’r byd. A’r had da, y rhain yw meibion y Deyrnas, ond y chwyn yw meibion yr un drwg, 39 a’r gelyn a wnaeth eu hau nhw yw’r Diafol. Y cynhaeaf yw cyfnod olaf y system hon,* a’r rhai sy’n medi yw’r angylion. 40 Felly, yn union fel y mae’r chwyn yn cael eu casglu a’u llosgi yn y tân, felly y bydd hi yng nghyfnod olaf y system hon.* 41 Bydd Mab y dyn yn anfon ei angylion, a byddan nhw’n casglu allan o’i Deyrnas bob peth sy’n achosi i rywun faglu a phobl sy’n gwneud pethau drwg, 42 a byddan nhw’n eu taflu i mewn i’r ffwrnais danllyd. Yno y byddan nhw’n wylo ac yn crensian eu dannedd. 43 Yr amser hwnnw bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio mor llachar â’r haul yn Nheyrnas eu Tad. Gadewch i’r un sydd â chlustiau wrando.
44 “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i drysor, wedi ei guddio mewn cae, a gafodd ei ddarganfod a’i guddio gan ddyn; ac oherwydd ei lawenydd, mae’n mynd ac yn gwerthu popeth sydd ganddo ac yn prynu’r cae hwnnw.
45 “Hefyd mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i fasnachwr teithiol sy’n chwilio am berlau gwerthfawr. 46 Ar ôl dod o hyd i un perl o werth mawr, aeth i ffwrdd a gwerthu heb oedi bopeth a oedd ganddo a’i brynu.
47 “Hefyd mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i rwyd fawr hir* sy’n cael ei gollwng i’r môr ac sy’n casglu pysgod o bob math. 48 Pan oedd yn llawn, dyma nhw’n ei llusgo hi i’r lan, ac eistedd i lawr, a chasglu’r rhai da i fasgedi, ond gwnaethon nhw daflu’r rhai drwg i ffwrdd. 49 Dyna sut y bydd hi yng nghyfnod olaf y system hon.* Bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu’r rhai drwg o blith y rhai cyfiawn 50 ac yn eu taflu i mewn i’r ffwrnais danllyd. Yno y byddan nhw’n wylo ac yn crensian eu dannedd.
51 “Wnaethoch chi ddeall yr holl bethau hyn?” Dywedon nhw wrtho: “Do.” 52 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Os felly y mae hi, mae pob athro sy’n cael ei ddysgu am Deyrnas y nefoedd yn debyg i ddyn, meistr y tŷ, sy’n dod â phethau newydd a hen allan o’i drysorfa.”
53 Pan oedd Iesu wedi gorffen y damhegion hyn, aeth oddi yno. 54 Ar ôl dod i’r ardal lle cafodd ei fagu, dechreuodd eu dysgu nhw yn eu synagog, nes iddyn nhw ryfeddu a dweud: “O le cafodd y dyn hwn y doethineb hwn a’r gweithredoedd nerthol hyn? 55 Onid mab y saer coed yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yw enwau ei frodyr? 56 A’i chwiorydd, onid ydyn nhw i gyd yn byw yma gyda ni? O le, felly, y cafodd hyn i gyd?” 57 Felly dechreuon nhw faglu oherwydd ef. Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei anrhydeddu ym mhob man heblaw ei fro ei hun a’i gartref ei hun.” 58 Ac ni wnaeth ef lawer o weithredoedd nerthol yno oherwydd eu diffyg ffydd.