LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 15
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Cyfamod Duw ag Abram (1-21)

        • Rhagfynegi’r 400 mlynedd o gam-driniaeth (13)

        • Ailadrodd addewid Duw i Abram (18-21)

Genesis 15:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 125

Genesis 15:3

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

  • *

    Llyth., “a mab.”

Genesis 15:4

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “yr un sy’n dod allan ohonot ti.”

Genesis 15:5

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Genesis 15:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2023, tt. 2-7

Genesis 15:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “maharen.”

Genesis 15:13

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2016, tt. 14-15

Genesis 15:18

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 15:1-21

Genesis

15 Ar ôl hyn daeth gair Jehofa at Abram mewn gweledigaeth, gan ddweud: “Paid ag ofni, Abram. Rydw i’n darian iti. Bydd dy wobr yn fawr iawn.” 2 Atebodd Abram: “Sofran Arglwydd Jehofa, beth byddi di’n ei roi imi, gan weld fy mod i’n parhau i fod heb blant a’r un sy’n mynd i etifeddu fy nhŷ ydy dyn o Ddamascus, Eleasar?” 3 Ychwanegodd Abram: “Dwyt ti ddim wedi rhoi disgynyddion* imi, ac aelod* o fy nhŷ fydd fy etifedd.” 4 Ond edrycha! ateb Jehofa iddo oedd, “Ni fydd y dyn hwn yn etifedd iti, ond dy fab* dy hun fydd yn dod ar dy ôl di fel etifedd.”

5 Daeth ag ef y tu allan a dweud: “Edrycha, plîs, i fyny i’r nefoedd a chyfri’r sêr, os wyt ti’n gallu gwneud hynny.” Yna dywedodd wrtho: “Fel hyn y bydd dy ddisgynyddion* di.” 6 Ac fe roddodd ffydd yn Jehofa, ac fe wnaeth Duw ei ystyried yn ddyn cyfiawn. 7 Yna fe ychwanegodd: “Fi ydy Jehofa, a ddaeth â ti allan o Ur y Caldeaid i roi’r wlad hon yn eiddo iti.” 8 Ond dywedodd ef: “Sofran Arglwydd Jehofa, sut bydda i’n gwybod y byddi di’n ei rhoi imi?” 9 Atebodd yntau: “Cymera imi heffer dair blwydd oed, gafr dair blwydd oed, hwrdd* tair blwydd oed, turtur, a cholomen ifanc.” 10 Felly cymerodd y rhain i gyd a’u hollti nhw’n ddau a rhoi pob darn gyferbyn â’r llall, ond ni wnaeth hollti’r adar. 11 Yna dechreuodd adar ysglyfaethus ddisgyn ar y cyrff, ond roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.

12 Pan oedd yr haul ar fin machlud, syrthiodd Abram i gwsg trwm a dyma dywyllwch mawr a dychrynllyd yn dod arno. 13 Yna dywedodd Ef wrth Abram: “Rydw i eisiau iti wybod yn bendant y bydd dy ddisgynyddion* di yn bobl estron mewn gwlad sydd ddim yn perthyn iddyn nhw a bydd y bobl yno yn eu caethiwo nhw ac yn eu cam-drin nhw am 400 mlynedd. 14 Ond bydda i’n barnu’r genedl byddan nhw’n ei gwasanaethu, ac ar ôl hynny byddan nhw’n mynd allan gyda llawer o eiddo. 15 Ond, byddi di dy hun yn mynd at dy gyndadau mewn heddwch; byddi di’n cael dy gladdu ar ôl iti gael bywyd hir. 16 Ond byddan nhw’n dod yn ôl yma yn y bedwaredd genhedlaeth, oherwydd dydy’r amser ddim wedi dod eto i’r Amoriaid gael eu cosbi am eu pechod.”

17 Ar ôl i’r haul fachlud ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn a oedd yn mygu, a gwnaeth ffagl fflamllyd basio rhwng darnau’r anifeiliaid. 18 Ar y diwrnod hwnnw gwnaeth Jehofa gyfamod ag Abram, gan ddweud: “Bydda i’n rhoi i dy ddisgynyddion* y wlad hon, o afon yr Aifft hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates: 19 gwlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid, 20 yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid, 21 yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a’r Jebusiaid.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu