LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 21
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Dafydd yn bwyta’r bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw yn Nob (1-9)

      • Dafydd yn esgus ei fod yn wallgof yn Gath (10-15)

1 Samuel 21:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “wedi peidio â chael rhyw gyda.”

  • *

    Neu “oddi wrth fenywod.”

1 Samuel 21:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “oddi wrth fenywod.”

1 Samuel 21:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “y bara gosod.”

1 Samuel 21:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “yng Ngwastatir Isel.”

1 Samuel 21:13

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2024, tt. 2-3

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 21:1-15

Cyntaf Samuel

21 Yn hwyrach ymlaen daeth Dafydd at Ahimelech yr offeiriad yn Nob. Dechreuodd Ahimelech grynu dan ofn wrth gyfarfod Dafydd, a dywedodd wrtho: “Pam rwyt ti ar dy ben dy hun a does neb gyda ti?” 2 Atebodd Dafydd: “Mae’r brenin wedi gorchymyn imi wneud rhywbeth, ond dywedodd, ‘Paid â gadael i neb wybod pam rydw i wedi dy anfon di nac am y cyfarwyddiadau rydw i wedi eu rhoi iti.’ Rydw i wedi trefnu gyda fy nynion ifanc i’w cyfarfod nhw yn rhywle penodol. 3 Nawr, a oes gen ti rywbeth i’w fwyta? Plîs rho bum torth o fara imi, neu beth bynnag sydd ar gael.” 4 Ond atebodd yr offeiriad: “Does ’na ddim bara cyffredin wrth law, ond mae ’na fara sanctaidd. Caiff y dynion ifanc ei fwyta ar yr amod eu bod nhw wedi cadw draw oddi wrth* ferched.”* 5 Atebodd Dafydd: “Yn bendant rydyn ni wedi cadw draw oddi wrth ferched* fel rydyn ni wedi ei wneud o’r blaen wrth fynd allan ar ymgyrch. Os ydy cyrff y dynion ifanc yn sanctaidd hyd yn oed ar ymgyrch arferol, gymaint yn fwy y byddan nhw’n sanctaidd heddiw!” 6 Felly rhoddodd yr offeiriad y bara sanctaidd iddo, oherwydd doedd ’na ddim bara arall heblaw am y bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw.* Roedd hwnnw wedi cael ei gymryd allan o dabernacl Jehofa ac roedd bara ffres wedi cael ei roi yn ei le ar yr un diwrnod.

7 Nawr roedd un o weision Saul yna ar y diwrnod hwnnw, oherwydd roedd rhaid iddo aros o flaen Jehofa. Ei enw oedd Doeg yr Edomiad, pennaeth bugeiliaid Saul.

8 Yna dywedodd Dafydd: “A oes gen ti waywffon neu gleddyf wrth law? Wnes i ddim dod â fy nghleddyf fy hun na fy arfau, oherwydd roedd rhaid imi adael ar frys ar orchymyn y brenin.” 9 I hynny, dywedodd yr offeiriad: “Mae ’na gleddyf yma wedi ei lapio mewn lliain y tu ôl i’r effod. Roedd yn perthyn i Goliath, y Philistiad gwnest ti ei daro i lawr yn Nyffryn* Ela. Os wyt ti eisiau ei gymryd i ti dy hun, cei di ei gymryd, oherwydd dyna’r unig un sydd yma.” Dywedodd Dafydd: “Does ’na’r un arall fel hwnnw, rho’r cleddyf i mi.”

10 Y diwrnod hwnnw, cododd Dafydd a pharhau i ffoi oddi wrth Saul, ac ymhen hir a hwyr daeth at Achis, brenin Gath. 11 Dywedodd gweision Achis wrtho: “Onid Dafydd yw hwn, brenin y wlad? Onid ef roedden nhw’n canu amdano wrth iddyn nhw ddawnsio, gan ddweud,

‘Mae Saul wedi taro i lawr ei filoedd,

A Dafydd ei ddegau o filoedd’?”

12 Meddyliodd Dafydd o ddifri am y geiriau hynny, a dechreuodd ofni Achis, brenin Gath, yn fawr iawn. 13 Felly newidiodd ei ymddygiad o’u blaenau nhw a dechrau ymddwyn yn wallgof. Roedd yn gwneud marciau ar ddrysau’r porth ac yn gadael i’w boer redeg i lawr ei farf. 14 Yn y pen draw, dywedodd Achis wrth ei weision: “Rydych chi’n gweld bod y dyn hwn wedi mynd o’i gof! Pam dod ag ef ata i? 15 A ydw i’n brin o ddynion gwallgof fel eich bod chi’n gorfod dod ag un arall ata i?”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu