Yn Ôl Luc
2 Nawr, yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i’r holl fyd gael ei gofrestru. 2 (Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethwr ar Syria.) 3 Ac aeth yr holl bobl i gael eu cofrestru, pob un i’w ddinas ei hun. 4 Wrth gwrs, aeth Joseff hefyd i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i mewn i Jwdea, i ddinas Dafydd, sy’n cael ei galw’n Bethlehem, oherwydd ei fod yn aelod o dŷ a theulu Dafydd. 5 Aeth i gael ei gofrestru gyda Mair ei wraig, a oedd ar fin rhoi genedigaeth. 6 Tra oedden nhw yno, daeth yn amser iddi roi genedigaeth. 7 A rhoddodd enedigaeth i’w mab, y cyntaf-anedig, a’i lapio’n dynn mewn cadachau a’i osod mewn preseb,* am nad oedd lle iddyn nhw yn y llety.
8 Yn yr un ardal roedd ’na fugeiliaid yn byw yn yr awyr agored ac yn gwarchod eu praidd liw nos. 9 Yn sydyn safodd angel Jehofa o’u blaenau nhw, a disgleiriodd gogoniant Jehofa o’u hamgylch, a daeth ofn mawr arnyn nhw. 10 Ond dywedodd yr angel wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni, oherwydd edrychwch! rydw i’n cyhoeddi newyddion da ichi a fydd yn dod â llawenydd mawr i’r holl bobl. 11 Oherwydd heddiw cafodd achubwr ei eni ar eich cyfer chi yn ninas Dafydd, sef Crist yr Arglwydd. 12 A dyma arwydd ichi: Byddwch chi’n dod o hyd i faban wedi ei lapio’n dynn mewn cadachau ac yn gorwedd mewn preseb.” 13 Yn sydyn, roedd ’na dyrfa o’r fyddin nefol gyda’r angel, yn moli Duw ac yn dweud: 14 “Gogoniant yn y nefoedd i Dduw, a heddwch ar y ddaear ymhlith dynion sydd â ffafr Duw.”*
15 Felly ar ôl i’r angylion fynd i ffwrdd oddi wrthyn nhw i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd: “Gadewch inni fynd nawr i Fethlehem a gweld beth sydd wedi digwydd, beth mae Jehofa wedi ei ddweud wrthon ni.” 16 A dyma nhw’n mynd yn gyflym a dod o hyd i Mair a Joseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb. 17 Pan welson nhw hyn, dechreuon nhw adrodd y neges roedd yr angel wedi ei rhoi iddyn nhw am y plentyn bach hwn. 18 Ac roedd pawb a glywodd yr hyn a ddywedodd y bugeiliaid wrthyn nhw wedi rhyfeddu, 19 ond dechreuodd Mair gadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chof, gan fyfyrio arnyn nhw yn ei chalon. 20 Yna aeth y bugeiliaid yn ôl, gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywson nhw ac a welson nhw, yn union fel roedd Duw wedi achosi iddyn nhw glywed.
21 Ar ôl wyth diwrnod, pan ddaeth yr amser iddo gael ei enwaedu, fe gafodd ei alw yn Iesu, yr enw a roddodd yr angel cyn i Mair feichiogi.
22 Hefyd, pan ddaeth yr amser iddyn nhw gael eu puro yn ôl Cyfraith Moses, daethon nhw ag ef i fyny i Jerwsalem i’w gyflwyno i Jehofa, 23 yn union fel mae’n ysgrifenedig yng Nghyfraith Jehofa: “Mae’n rhaid i bob gwryw cyntaf-anedig gael ei alw’n sanctaidd i Jehofa.” 24 A gwnaethon nhw offrymu aberth yn ôl yr hyn sy’n cael ei ddweud yng Nghyfraith Jehofa: “dwy durtur neu ddwy golomen ifanc.”
25 Ac edrycha! roedd ’na ddyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon, ac roedd y dyn hwn yn gyfiawn ac yn ofni Duw, yn aros am gysur Israel, ac roedd yr ysbryd glân arno. 26 Ar ben hynny, roedd Duw wedi datgelu iddo na fyddai ef yn gweld marwolaeth cyn iddo weld y Crist, yr Un a gafodd ei ddewis gan Jehofa. 27 Nawr, o dan rym yr ysbryd, fe ddaeth ef i mewn i’r deml, ac wrth i’r rhieni ddod â’r plentyn ifanc Iesu i mewn i’r deml er mwyn dilyn defod draddodiadol y Gyfraith, 28 dyma ef yn cymryd y plentyn yn ei freichiau ac yn moli Duw a dweud: 29 “Nawr, Sofran Arglwydd, rwyt ti’n gadael i dy gaethwas fynd mewn heddwch oherwydd rwyt ti wedi cyflawni dy addewid, 30 oherwydd mae fy llygaid wedi gweld yr un sy’n dod ag achubiaeth, 31 yr un rwyt ti wedi ei baratoi yng ngolwg yr holl bobloedd. 32 Mae ef yn oleuni ar gyfer tynnu’r gorchudd oddi ar y cenhedloedd ac yn ogoniant yng ngolwg dy bobl Israel.” 33 Ac roedd tad a mam y plentyn yn parhau i ryfeddu at y pethau a oedd yn cael eu dweud amdano. 34 Hefyd, gwnaeth Simeon eu bendithio nhw a dywedodd wrth Mair, mam y plentyn: “Edrycha! Oherwydd y plentyn hwn bydd rhai yn Israel yn syrthio ac eraill yn codi, a bydd llawer yn siarad yn ei erbyn, er bod Duw am ddangos iddyn nhw drwy arwyddion ei fod gydag ef; 35 mae ef wedi cael ei benodi er mwyn datguddio meddyliau a theimladau llawer o galonnau, ac yn dy achos di, byddi di’n cael dy drywanu* gan gleddyf hir.”
36 Nawr roedd ’na broffwydes, Anna merch Phanuel, o lwyth Aser. Roedd y ddynes* hon mewn oed mawr ac wedi byw gyda’i gŵr am saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi, 37 ac roedd hi nawr yn wraig weddw yn 84 blwydd oed. Roedd hi’n wastad yn mynd i’r deml, yn cyflawni gwasanaeth cysegredig nos a dydd gan ymprydio ac erfyn wrth weddïo. 38 Yn yr awr honno, daeth hi’n agos a dechreuodd hi roi diolch i Dduw a siarad am y plentyn â phawb a oedd yn aros am ryddhad Jerwsalem.
39 Felly pan oedden nhw wedi gwneud popeth yn ôl Cyfraith Jehofa, aethon nhw yn ôl i mewn i Galilea i’w dinas eu hunain, Nasareth. 40 A pharhaodd y plentyn ifanc i dyfu a chryfhau, yn llawn doethineb, a gwnaeth ffafr Duw barhau arno.
41 Nawr roedd ei rieni yn mynd bob blwyddyn i Jerwsalem ar gyfer gŵyl y Pasg. 42 A phan oedd ef yn 12 mlwydd oed, aethon nhw i fyny i’r ŵyl fel roedden nhw bob amser yn gwneud. 43 Pan oedd dyddiau’r ŵyl wedi dod i ben a nhwthau’n mynd yn ôl, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem, heb i’w rieni sylweddoli. 44 Gan gymryd ei fod yn y grŵp a oedd yn teithio gyda’i gilydd, gwnaethon nhw deithio am ddiwrnod ac yna dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a’r bobl roedden nhw’n eu hadnabod. 45 Ond, wedi methu cael hyd iddo, aethon nhw yn ôl i Jerwsalem a chwilio’n ddyfal amdano. 46 Wel, ar ôl tri diwrnod daethon nhw o hyd iddo yn y deml, yn eistedd ymhlith yr athrawon ac yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau iddyn nhw. 47 Ond roedd pawb a oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu at ei ddealltwriaeth a’i atebion. 48 Nawr pan welodd ei rieni ef, roedden nhw’n syfrdan, a dywedodd ei fam wrtho: “Fy mhlentyn, pam wnest ti ein trin ni fel hyn? Mae dy dad a minnau wedi bod yn poeni’n ofnadwy ac wedi bod yn chwilio ym mhobman amdanat ti.” 49 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam roeddech chi’n chwilio amdana i? Onid oeddech chi’n gwybod y byddwn i yma yn nhŷ fy Nhad?” 50 Fodd bynnag, doedden nhw ddim yn deall beth roedd yn ei ddweud wrthyn nhw.
51 Yna aeth i lawr gyda nhw a mynd yn ôl i Nasareth, ac arhosodd yn ufudd iddyn nhw. Hefyd, cadwodd ei fam yr holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon. 52 Ac roedd Iesu’n dal i wneud cynnydd mewn doethineb ac i dyfu’n gorfforol. Ac roedd ffafr Duw a dynion arno.