Yn Ôl Ioan
17 Dywedodd Iesu’r pethau hyn, a chododd ei lygaid tua’r nef, gan ddweud: “Dad, mae’r awr wedi dod. Gogonedda dy fab er mwyn i dy fab allu dy ogoneddu di, 2 yn union fel rwyt ti wedi rhoi awdurdod iddo dros yr holl ddynoliaeth, er mwyn iddo allu rhoi bywyd tragwyddol i’r holl rai rwyt ti wedi eu rhoi iddo. 3 Dyma beth sy’n arwain i fywyd tragwyddol, eu bod nhw’n dod i dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r un rwyt ti wedi ei anfon, Iesu Grist. 4 Rydw i wedi dy ogoneddu di ar y ddaear, ac wedi gorffen y gwaith rwyt ti wedi ei roi i mi i’w wneud. 5 Felly, Dad, gogonedda fi wrth dy ochr â’r gogoniant a oedd gen i wrth dy ochr di cyn i’r byd fodoli.
6 “Rydw i wedi datgelu dy enw di* i’r dynion y gwnest ti eu rhoi imi o’r byd. Roedden nhw’n perthyn i ti, a gwnest ti eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi bod yn ufudd i dy air. 7 Nawr maen nhw wedi dod i wybod bod yr holl bethau rwyt ti wedi eu rhoi i mi yn dod oddi wrthot ti; 8 oherwydd rydw i wedi dweud wrthyn nhw am yr holl bethau rwyt ti wedi eu dweud wrtho i, ac maen nhw wedi eu derbyn nhw, ac maen nhw bellach yn gwybod yn bendant fy mod i wedi dod i dy gynrychioli di, ac maen nhw wedi credu dy fod ti wedi fy anfon i. 9 Rydw i’n gweddïo drostyn nhw; rydw i’n gweddïo, nid dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi eu rhoi imi, oherwydd eu bod nhw’n perthyn iti; 10 ac mae popeth sydd gen i yn perthyn i ti, ac mae popeth sydd gen ti yn perthyn i mi, ac rydw i wedi cael fy ngogoneddu drwyddyn nhw.
11 “Dydw i ddim yn y byd bellach, ond maen nhwthau yn y byd, ac rydw i’n dod atat ti. Dad sanctaidd, gwylia drostyn nhw o achos dy enw dy hun, enw rwyt ti wedi ei roi i mi, er mwyn iddyn nhw allu bod yn un* fel rydyn ninnau’n un.* 12 Tra oeddwn i gyda nhw, roeddwn i’n gwylio drostyn nhw o achos dy enw di, enw rwyt ti wedi ei roi i mi; ac rydw i wedi eu gwarchod nhw, a does yr un ohonyn nhw wedi cael ei golli heblaw’r un a fydd yn cael ei ddinistrio, er mwyn i’r ysgrythur gael ei chyflawni. 13 Ond nawr rydw i’n dod atat ti, ac rydw i’n dweud y pethau hyn yn y byd, er mwyn i fy llawenydd orlifo ynddyn nhw. 14 Rydw i wedi rhoi dy air di iddyn nhw, ond mae’r byd wedi eu casáu nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn rhan o’r byd, yn union fel dydw innau ddim yn rhan o’r byd.
15 “Dydw i ddim yn gofyn iti eu cymryd nhw allan o’r byd, ond iti wylio drostyn nhw oherwydd yr un drwg. 16 Dydyn nhw ddim yn rhan o’r byd, yn union fel dydw innau ddim yn rhan o’r byd. 17 Sancteiddia nhw* drwy gyfrwng y gwir; dy air di ydy’r gwir. 18 Yn union fel gwnest ti fy anfon i i mewn i’r byd, rydw innau hefyd wedi eu hanfon nhw i mewn i’r byd. 19 Ac rydw i’n fy sancteiddio fy hun er eu mwyn nhw, fel eu bod nhwthau hefyd yn gallu cael eu sancteiddio drwy gyfrwng y gwir.
20 “Rydw i’n gweddïo, nid amdanyn nhw yn unig, ond hefyd am y rhai sy’n rhoi ffydd yno i ar ôl iddyn nhw wrando ar eu dysgeidiaeth nhw, 21 er mwyn iddyn nhw i gyd fod yn un, yn union fel rwyt ti, Dad, mewn undod â mi ac rydw innau mewn undod â ti, er mwyn iddyn nhwthau hefyd fod mewn undod â ni, fel y bydd y byd yn gallu credu dy fod ti wedi fy anfon i. 22 Rydw i wedi rhoi iddyn nhw’r gogoniant rwyt ti wedi ei roi i mi, er mwyn iddyn nhw allu bod yn un yn union fel rydyn ninnau’n un. 23 Rydw i mewn undod â nhw ac rwyt ti mewn undod â mi, er mwyn iddyn nhw allu bod yn hollol unedig, fel y bydd y byd yn gallu gwybod dy fod ti wedi fy anfon i a dy fod ti wedi eu caru nhw yn union fel rwyt ti wedi fy ngharu i. 24 Dad, rydw i eisiau i’r rhai rwyt ti wedi eu rhoi imi fod gyda mi lle rydw i, er mwyn iddyn nhw allu edrych ar y gogoniant rwyt ti wedi ei roi imi, oherwydd dy fod ti wedi fy ngharu i cyn sefydlu’r byd. 25 Dad cyfiawn, yn wir, dydy’r byd ddim wedi dod i dy adnabod di, ond rydw i’n dy adnabod di, ac mae’r rhai hyn wedi dod i wybod dy fod ti wedi fy anfon i. 26 Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di ac fe fydda i’n parhau i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw ddangos cariad tuag at bobl eraill fel rwyt ti wedi dangos cariad tuag ata i, ac er mwyn imi fod mewn undod â nhw.”