LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Galatiaid 2
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Galatiaid

      • Paul yn cwrdd â’r apostolion yn Jerwsalem (1-10)

      • Paul yn cywiro Pedr (Ceffas) (11-14)

      • Dyn yn cael ei alw’n gyfiawn drwy ffydd yn unig (15-21)

Galatiaid 2:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    10/2018, tt. 18-19

Galatiaid 2:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “am awr.”

Galatiaid 2:9

Troednodiadau

  • *

    A elwir hefyd Pedr.

  • *

    Neu “yn bartneriaid.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 112

Galatiaid 2:11

Troednodiadau

  • *

    A elwir hefyd Pedr.

  • *

    Neu “ei wrthwynebu.”

Galatiaid 2:14

Troednodiadau

  • *

    A elwir hefyd Pedr.

Galatiaid 2:19

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2021, t. 15

    6/2021, t. 31

Galatiaid 2:20

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2021, t. 22

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 27

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2019, t. 28

    7/2019, tt. 30-31

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Galatiaid 2:1-21

At y Galatiaid

2 Yna ar ôl 14 o flynyddoedd, fe es i unwaith eto i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan fynd â Titus hefyd gyda mi. 2 Fe wnes i fynd i fyny ar ôl cael datguddiad, a chyflwyno iddyn nhw’r newyddion da rydw i’n eu pregethu ymhlith y cenhedloedd. Cafodd hyn ei wneud, fodd bynnag, yn breifat gerbron y rhai sy’n arwain yn y gynulleidfa, er mwyn gwneud yn siŵr nad oeddwn i’n rhedeg neu wedi rhedeg yn ofer. 3 Serch hynny, ni chafodd hyd yn oed Titus, a oedd gyda mi, ei orfodi i gael ei enwaedu, er ei fod yn Roegwr. 4 Ond cododd y mater hwnnw o achos y gau frodyr a sleifiodd i mewn yn ddistaw bach i ysbïo ar y rhyddid sydd gynnon ni yng Nghrist Iesu, er mwyn iddyn nhw ein caethiwo ni yn llwyr; 5 ni wnaethon ni ildio na phlygu iddyn nhw, naddo, nid am un foment,* fel y byddai’r gwir sy’n perthyn i’r newyddion da yn parhau gyda chi.

6 Ond ynglŷn â’r rhai a oedd yn ymddangos yn bwysig—dydy beth bynnag oedden nhw o’r blaen ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i mi, oherwydd dydy Duw ddim yn barnu dyn yn ôl ei olwg—ni wnaeth y dynion uchel eu parch hynny roi unrhyw gyngor newydd imi. 7 I’r gwrthwyneb, pan welson nhw fy mod i wedi derbyn y gwaith o bregethu’r newyddion da i’r rhai sydd heb eu henwaedu, yn union fel mae Pedr wedi derbyn y gwaith o bregethu’r newyddion da i’r rhai sydd wedi eu henwaedu— 8 oherwydd bod yr un a roddodd y nerth i Pedr i fod yn apostol i’r rhai sydd wedi cael eu henwaedu hefyd wedi rhoi’r nerth i minnau i fod yn apostol i’r cenhedloedd— 9 a phan wnaethon nhw gydnabod y caredigrwydd rhyfeddol a roddwyd imi, gwnaeth Iago a Ceffas* ac Ioan, y rhai a oedd yn ymddangos yn bileri, ysgwyd llaw â Barnabas a minnau fel arwydd ein bod ni’n gyd-weithwyr,* er mwyn i ninnau fynd i’r cenhedloedd ond i nhwthau fynd i’r rhai sydd wedi cael eu henwaedu. 10 Yr unig beth gwnaethon nhw ofyn i ni ei wneud oedd cofio am y rhai tlawd, ac rydw i hefyd wedi gwneud fy ngorau glas yn hyn o beth.

11 Fodd bynnag, pan ddaeth Ceffas* i Antiochia, fe wnes i ei wrthsefyll* wyneb yn wyneb, oherwydd ei fod yn amlwg ar fai. 12 Oherwydd cyn i rai dynion oddi wrth Iago gyrraedd, roedd yn arfer bwyta gyda phobl y cenhedloedd; ond pan gyrhaeddon nhw, fe stopiodd wneud hyn a dechreuodd ei gadw ei hun ar wahân, gan ofni’r rhai a oedd yn cefnogi enwaedu. 13 Ymunodd gweddill yr Iddewon yn y rhagrith hwn, nes i hyd yn oed Barnabas gael ei ddylanwadu ganddyn nhw yn eu rhagrith. 14 Ond pan welais i nad oedden nhw’n cydgamu â’r gwir sy’n perthyn i’r newyddion da, dywedais wrth Ceffas* o flaen pawb: “Os wyt ti, er dy fod ti’n Iddew, yn byw fel y cenhedloedd ac nid fel yr Iddewon, sut gelli di orfodi pobl y cenhedloedd i fyw yn ôl traddodiadau Iddewig?”

15 Rydyn ni sy’n Iddewon o ran ein genedigaeth, ac nid yn bechaduriaid o’r cenhedloedd, 16 yn cydnabod bod dyn yn cael ei alw’n gyfiawn, nid trwy weithredoedd y gyfraith, ond drwy ffydd yn Iesu Grist yn unig. Felly rydyn ni wedi rhoi ein ffydd yng Nghrist Iesu, er mwyn inni gael ein galw’n gyfiawn drwy ffydd yng Nghrist ac nid trwy weithredoedd y gyfraith, oherwydd does neb yn gallu cael ei alw’n gyfiawn drwy weithredoedd y gyfraith. 17 Nawr os ydyn ni hefyd wedi cael ein hystyried yn bechaduriaid wrth inni geisio cael ein galw’n gyfiawn drwy gyfrwng Crist, ydy Crist felly yn was pechod? Ddim o gwbl! 18 Os ydw i’n adeiladu unwaith eto yr union bethau y gwnes i eu tynnu i lawr, rydw i’n dangos fy mod i’n droseddwr. 19 Rydw i wedi marw o ran y gyfraith, ond oherwydd hyn, fe wnes i ddod yn fyw tuag at Dduw. 20 Rydw i wedi cael fy hoelio ar y stanc gyda Christ. Nid fi sy’n byw mwyach, ond Crist sy’n byw yno i. Yn wir, y bywyd rydw i nawr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw rydw i drwy ffydd ym Mab Duw, a wnaeth fy ngharu i a rhoi ei fywyd drosto i. 21 Dydw i ddim yn gwrthod caredigrwydd rhyfeddol Duw, oherwydd os ydy cyfiawnder yn dod drwy’r gyfraith, mae Crist felly wedi marw yn ofer.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu