LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Timotheus 1
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Timotheus

      • Cyfarchion (1, 2)

      • Rhybudd yn erbyn gau athrawon (3-11)

      • Caredigrwydd rhyfeddol tuag at Paul (12-16)

      • Brenin tragwyddoldeb (17)

      • ‘Brwydro yn y rhyfel da’ (18-20)

1 Timotheus 1:2

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Un Sy’n Anrhydeddu Duw.”

1 Timotheus 1:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “gorchymyn.”

1 Timotheus 1:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn ddiffygiol mewn cariad ffyddlon.”

1 Timotheus 1:10

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”

  • *

    Neu “dynion sy’n cael rhyw gyda dynion.”

1 Timotheus 1:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 125

1 Timotheus 1:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2019, tt. 30-31

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    7/2016, t. 26

1 Timotheus 1:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “gorchymyn.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 121

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2020, tt. 28-30

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Timotheus 1:1-20

Y Cyntaf at Timotheus

1 Paul, apostol i Grist Iesu trwy orchymyn Duw ein Hachubwr a Christ Iesu, ein gobaith, 2 at Timotheus,* fy mhlentyn go iawn yn y ffydd:

Rydw i’n dymuno iti gael caredigrwydd rhyfeddol a thrugaredd a heddwch oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.

3 Yn union fel y gwnes i dy annog di i aros yn Effesus pan oeddwn i ar fin mynd i Facedonia, rydw i’n gwneud yr un peth nawr, er mwyn iti orchymyn i rai beidio â dysgu athrawiaethau gwahanol, 4 nac i dalu sylw i storïau ffug ac i linachau. Mae pethau o’r fath yn wastraff amser, ac maen nhw’n arwain at ddyfalu ofer yn unig, a dydyn nhw ddim yn rhan o beth mae Duw wedi ei roi inni er mwyn cryfhau ein ffydd. 5 Yn wir, bwriad y cyfarwyddyd* hwn yw cariad sy’n dod o galon lân ac o gydwybod dda ac o ffydd heb ragrith. 6 Drwy grwydro oddi ar y pethau hyn, mae rhai wedi troi at siarad gwag. 7 Maen nhw eisiau bod yn athrawon y gyfraith, ond dydyn nhw ddim yn deall y pethau maen nhw’n eu dweud na’r pethau maen nhw’n eu mynnu mor gryf.

8 Nawr rydyn ni’n gwybod bod y Gyfraith yn dda os yw person yn ei rhoi ar waith yn iawn, 9 gan gydnabod bod cyfraith yn cael ei gwneud, nid ar gyfer dyn cyfiawn, ond ar gyfer y rhai sy’n ddigyfraith ac yn wrthwynebwyr, yn annuwiol ac yn bechaduriaid, yn anffyddlon* ac yn gwrthod pethau sanctaidd, yn lladd tadau ac yn lladd mamau, yn llofruddion, 10 pobl sy’n anfoesol yn rhywiol,* dynion sy’n ymarfer cyfunrywioldeb,* herwgipwyr, pobl sy’n gelwyddog, pobl sy’n torri eu llwon, a phopeth arall sy’n gwrthwynebu’r ddysgeidiaeth fuddiol 11 yn ôl newyddion da gogoneddus y Duw hapus, a roddwyd yn fy ngofal i.

12 Rydw i’n ddiolchgar i Grist Iesu ein Harglwydd, a roddodd nerth imi, oherwydd ei fod wedi fy ystyried i’n ffyddlon drwy fy mhenodi i’w weinidogaeth, 13 er fy mod i gynt yn gablwr ac yn erlidiwr ac yn ddyn balch. Er hynny, dangosodd Crist drugaredd tuag ata i oherwydd fy mod i wedi gweithredu’n anwybodus a heb ffydd. 14 Ond gwnaeth caredigrwydd rhyfeddol ein Harglwydd orlifo’n fawr iawn ynghyd â ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. 15 Mae’r geiriau hyn yn ddibynadwy ac yn haeddu cael eu derbyn yn llawn: Daeth Crist Iesu i mewn i’r byd i achub pechaduriaid. O’r rhai hyn, fi yw’r gwaethaf. 16 Er hynny, dangosodd ef drugaredd tuag ata i, y gwaethaf, fel y gallai Crist Iesu ddangos ei holl amynedd trwyddo i, gan fy ngwneud i’n esiampl i’r rhai sy’n mynd i roi eu ffydd ynddo ef er mwyn cael bywyd tragwyddol.

17 Ac i Frenin tragwyddoldeb, sy’n anllygradwy, sy’n anweledig, yr unig Dduw, y mae’r anrhydedd a’r gogoniant yn perthyn am byth bythoedd. Amen.

18 Rydw i’n rhoi’r cyfarwyddyd* hwn yn dy ofal di, fy mhlentyn Timotheus, yn unol â geiriau’r proffwydoliaethau a gafodd eu datgan amdanat ti. Bydd y geiriau hyn yn dy helpu di i barhau i frwydro yn y rhyfel da, 19 gan ddal dy afael mewn ffydd a chydwybod dda. Mae rhai wedi gwthio’r pethau hyn o’r neilltu, gan arwain at longddryllio eu ffydd. 20 Mae Hymenaeus ac Alecsander ymhlith y rhain, ac rydw i wedi eu rhoi nhw yn nwylo Satan er mwyn iddyn nhw gael eu dysgu trwy ddisgyblaeth i beidio â chablu.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu