Y Cyntaf at y Thesaloniaid
2 Rydych chi’ch hunain yn sicr yn gwybod, frodyr, nad oedd ein hymweliad â chi heb ganlyniadau. 2 Er ein bod ni wedi dioddef ac wedi cael ein trin yn sarhaus yn Philipi, fel y gwyddoch chi, gwnaethon ni fagu hyder* trwy gyfrwng ein Duw i ddweud wrthoch chi am newyddion da Duw er gwaethaf llawer o wrthwynebiad.* 3 Oherwydd dydy’r cyngor rydyn ni’n ei roi ddim yn tarddu o bethau anghywir nac o aflendid ac nid yw’n cael ei roi gyda thwyll, 4 ond fel y cawson ni ein cymeradwyo gan Dduw i ofalu am y newyddion da, felly rydyn ni’n siarad i blesio, nid dynion, ond Duw, sy’n archwilio ein calonnau.
5 Yn wir, rydych chi’n gwybod nad ydyn ni erioed wedi eich seboni chi na chuddio pwy ydyn ni am resymau barus; Duw sy’n dyst i hyn! 6 Dydyn ni ddim chwaith wedi bod yn ceisio gogoniant gan ddynion, naill ai gynnoch chi neu gan eraill, er y gallen ni fel apostolion Crist fod wedi eich llwytho â baich ariannol. 7 I’r gwrthwyneb, roedden ni’n addfwyn yn eich plith, fel mam yn bwydo ac yn gofalu’n dyner am ei phlant ei hun. 8 Felly oherwydd bod gynnon ni hoffter mawr tuag atoch chi, roedden ni’n benderfynol* o roi ichi, nid yn unig newyddion da Duw ond hefyd ni’n hunain, am eich bod chi wedi dod mor annwyl i ni.
9 Mae’n rhaid eich bod chi’n cofio, frodyr, am ein llafur a’n hymdrechion diflino. Roedden ni’n gweithio nos a dydd, er mwyn inni beidio â rhoi baich ariannol ar unrhyw un ohonoch chi, pan oedden ni’n pregethu newyddion da Duw ichi. 10 Rydych chi’n dystion, a Duw hefyd, i ba mor ffyddlon a chyfiawn a di-fai yr oedden ni’n ymddwyn tuag atoch chi gredinwyr. 11 Rydych chi’n gwybod yn iawn y gwnaethon ni ddal ati i’ch cynghori ac i’ch cysuro ac i annog pob un ohonoch chi, fel mae tad yn gwneud i’w blant, 12 fel y byddech chi’n parhau i gerdded yn deilwng o Dduw, sy’n eich galw chi i’w Deyrnas a’i ogoniant.
13 Yn wir, dyna pam rydyn ni hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd pan wnaethoch chi dderbyn gair Duw, fel y clywsoch chi gynnon ni, fe wnaethoch chi ei dderbyn nid fel gair dyn ond fel y mae mewn gwirionedd, sef gair Duw, sydd hefyd ar waith ynoch chi gredinwyr. 14 Oherwydd fe ddaethoch chi, frodyr, i efelychu cynulleidfaoedd Duw yn Jwdea, sydd mewn undod â Christ Iesu, oherwydd eich bod chi wedi dioddef yr un pethau o dan ddwylo eich cyd-wladwyr ag y maen nhwthau hefyd yn eu dioddef o dan ddwylo’r Iddewon, 15 a laddodd hyd yn oed yr Arglwydd Iesu a’r proffwydi a’n herlid ninnau hefyd. Ar ben hynny, dydyn nhw ddim yn plesio Duw, ond maen nhw yn erbyn yr hyn sydd o les i bob dyn, 16 wrth iddyn nhw geisio ein rhwystro ni rhag siarad â phobl y cenhedloedd er mwyn i’r rhai hyn gael eu hachub. Fel hyn maen nhw bob amser yn ychwanegu at eu pechodau. Ond mae ei ddicter wedi dod arnyn nhw o’r diwedd.
17 Ond pan oedden ni wedi ein gwahanu oddi wrthoch chi, frodyr, am ychydig o amser yn unig (yn gorfforol, nid yn ein calonnau), oherwydd ein dymuniad cryf, gwnaethon ni bob ymdrech i’ch gweld chi wyneb yn wyneb.* 18 Am y rheswm hwn roedden ni eisiau dod atoch chi, yn wir fe wnes i, Paul, geisio nid unwaith yn unig ond ddwywaith; ond gwnaeth Satan dorri ar draws ein llwybr. 19 Beth yw ein gobaith neu ein llawenydd neu goron ein balchder gerbron ein Harglwydd Iesu yn ystod ei bresenoldeb? Onid ydyn ni’n sôn amdanoch chi? 20 Chi yn bendant ydy ein gogoniant a’n llawenydd.